Cawsom ni gyfarfod reit danllyd nos Lun yng Nghyf. Cyff. Urdd Myfyrwyr Aberystwyth.

Rhoddodd UMCA gynnig ger bron i’w gwneud hi’n bolisi i’r undeb ymgyrchu o blaid galw adeilad newydd yr adran Wleidyddiaeth yn ‘Adeilad Gwynfor’. Roeddem ni’n gwybod y byddai yna dipyn o wrthwynebiad i’r syniad felly yn debyg iawn i chwipiaid y Blaid Lafur netho ni’n siŵr fod ni’n mynd a digon o aelodau UMCA fyny i’r cyfarfod i ffurfio mwyafrif fel bod y cynnig yn cael ei basio.

Y mesur yna oedd y cyntaf ar yr agenda ac wedi iddo gael ei basio dechreuodd ein rent-a-croud ni gerdded allan! Wedyn aeth pethau ychydig yn flêr.

Roedd ein gwrthwynebwyr yn flin iawn fod ni di cal criw i’r cyfarfod yn benodol i basio’r cynnig yma ac wedyn eu bod nhw wedi gadael, hynny yw ddim a diddordeb mewn dim byd arall. Er mod i wedi disgwyl y byddai y Cymry yn gadael wedi iddynt wireddu eu pwrpas roeddwn ni dal yn flin am rai rhesymau:

1. Roedd yn gwneud i’r Cymry ymddangos yn gul. Hynny yw mae eu hunig ddiddordeb oedd materion uniongyrchol i wneud a’r iaith a’u hunaniaeth.

2. Roedd fel petaem ni yn gneud sbort ar ddemocratiaeth – yn yn gwneud i ni edrych fel petaem ni’n defnyddio tactegau y pleidiau Prydeinig i fynnu polisïau ar Gymru o San Steffan.

3. Ar ôl i’r mass adael roedd yna gynnig pwysig ar fanio gwerthu nwyddau Nestle o’r undeb – yn anffodus fe syrthiodd y mesur. Pe tase’r Cymry dal yna base ni wedi medru pasio’r mesur hwnnw yn ogystal.

Ond ddiwedd dydd dwi’n ymfalchïo ein bod ni fel UMCA yn llwyddo i fobaleiddio ein haelodau bob tro mae angen. Dwi’n meddwl i raddau fod holl garfannau eraill y Coleg (Lib Dems, Amnesty, Conservative Future ayyb…) yn eiddigeddus iawn ein bod ni yn fataliwn mor effeithiol. Mi o ni’n trio esbonio i gyfaill o Loegr ar ddiwedd y cyfarfod – dy ni ddim eto yn rhydd! Wedi i ni ennill ein rhyddid efallai wedyn y bydd mwy o Gymry yn dechrau poeni am bethau ehangach na jyst yr iaith ac enwi adeiladau ar ôl eu harwyr. Ein iaith a’n rhyddid yw ein blaenoriaeth a dwi ddim yn meddwl bod angen ymddiheuro am hynny.

Please follow and like us: