Sioc a dweud y lleiaf oedd darganfod bore ddoe ar Twitter fod Owain Schiavone, neu Sgiv i bobl sy’n ei adnabod, wedi ei benodi’n Brif Weithredwr newydd Golwg360. Dwi wedi adnabod Owain ers rhai blynyddoedd – dwi’n cofio mae’r tro cyntaf i mi ddod ar ei draws oedd wrth i mi geisio cael gafael ar EP Paccino “Iglw” – roedd Owain, dwi’n meddwl, yn y Brifysgol yn Bangor gyda’r band ac yn rhedeg eu label ‘Recordiau Rima.’
Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, ar ôl i Owain symud i Aberystwyth, daeth yn brif drefnydd gigs Cymdeithas yr Iaith ac ymysg yr uchafbwyntiau yn y cyfnod yma roedd trefnu Gigs hynod lwyddiannus y Gymdeithas yn Steddfod Eryri yn Time, Bangor a Cofi Roc, Caernarfon. Yr hyn wnaeth fy nharo i am Owain ar y pryd oedd ei fod yn hollol ymroddedig i’r gwaith (â oedd wrth gwrs yn waith gwirfoddol) ac er ei fod yn gweld pwysigrwydd y ddyletswydd ddiwylliannol oedd tu ôl y gigs roedd ganddo ben busnes siarp hefyd ac fe lwyddodd e i drefnu nosweithiau cwbwl gaboledig a chadw costau reit lawr a olygodd wedyn fod pawb ar eu hennill. Y bandiau yn cael llwyfan gwerth chweil i berfformio arno, y punters yn cael noson fythgofiadwy a’r Gymdeithas yn cael elw teg ar ddiwedd y noson i ariannu’r ymgyrchoedd am y deuddeg mis nesaf.
Am ddwy flynedd wedyn buodd Owain yn trefnu nosweithiau NAWS yn Aberystwyth, dyma gyfnod lle bues i’n gweithio agosaf gyda Owain. Un peth sy’n glir yn fy ngof oedd fod Owain yn gallu dirprwyo yn effeithiol – er mae fe oedd yn arwain y fenter roedd ganddo dîm o’i gwmpas a gwyddai beth yn union roedd pawb yn dod ag ef i’r tîm a gwyddai sut i ddirprwyo’n effeithiol.
Ar yr olwg gyntaf maen taro dyn yn od fod Owain sydd a’i ddiddordeb cyntaf mewn pêl-droed a’i ail-mewn cerddoriaeth yn deisyfu bod yn Brif Weithredwr ar brosiect mor fawr a phwysig. Ond wedi ail-feddwl ac atgoffa fy hun o rinweddau Owain maen gwneud synnwyr perffaith. Mae yna her enfawr o’i flaen. O safbwynt technoleg ac fel un o ysgrifenwyr Metastwnsh mae pethau dal yn bell iawn iawn ohoni gyda’r gwasanaeth. Dwi’n parhau i gredu fod angen dechrau o’r dechrau gyda’r system a’r wefan. Ond mae ffydd gyda mi y gall Owain, un o blant y chwyldro, chwarae rôl bwysig wrth roi siâp gwell ar bethau.