Un o’r darlleniadau o’r llithiadur heddiw yw 1 Brenhinoedd 18 a dyma oedd y ddwy adnod wnaeth sefyll allan i fi fel rhai amserol:

‘Pan welodd Ahab Elias dyma fe’n dweud, “Ai ti ydy e go iawn? – yr un sy’n creu helynt i Israel!” Dyma Elias yn ateb, “Nid fi sydd wedi creu helynt i Israel. Ti a theulu dy dad sydd wedi gwrthod gwneud beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud, a ti wedi addoli delwau o Baal!’ (1 Brenhinoedd 18.17-18)

Rydym yn byw mewn oes lle mae cenedlaetholdeb hyll ar gynnydd eto, a llawer ohono yn honni bod yn genedlaetholdeb “Gristnogol”. Mae’n fwyaf amlwg yn agwedd y “Christian Nationalists” neo-ffasgaidd sy’n bleidiol i Donald Trump. Mae i’w weld yn y modd y mae awydd yr Israel fodern i’w amddiffyn ei hun yn croesi’r ffin yn llawer rhy aml i ddialedd anghymesur. Ond mae i’w weld ar ffurf fwy cynnil yng Nghymru hefyd wrth i’r ymateb i newid cymdeithasol, diwylliannol a chrefyddol rydym wedi ei brofi arwain rhai i gofleidio ideoleg grefyddol-wleidyddol adweithiol sydd wedi ei yrru’n bennaf gan ofn.

Rwyf wedi sylwi fod y bobl sy’n mentro beirniadaeth o’r tueddiadau adweithiol yma yn cael eu galw neu’n cael eu portreadu fel pobl “unpatriotic” neu fod ganddyn nhw feddwl israddol o’u hunaniaeth eu hunain. Nid annhebyg, tybed, i gyhuddiad Ahab fod Elias yn un “sy’n creu helynt i Israel,” yn Saesneg, “troubler of Israel!” 

Mae hanes Elias yn dweud wrthym fod sefyll dros y gwir, a bod dangos gwir gariad at eich cenedl, weithiau yn golygu siarad allan yn ei herbyn mewn modd y bydd rhai yn ei dehongli fel ei fod yn an-wlatgarol. Wrth ystyried y math o genedlaetholdeb “Gristnogol” adweithiol adain dde rydym yn dystion iddi yn y Gorllewin yn ein dyddiau ni yna ystyfnigrwydd y proffwyd ddylai nodweddu osgo yr eglwys ac nid addoliad dall y swynwyr.

Please follow and like us: