Dwi wedi cael y fraint o gael tîm o genhadon o Galiffornia yn gweithio gyda’r Eglwys yng Nghaernarfon dros yr wythnos diwethaf. Roedd arweinydd y tîm yn gyn hyfforddwr pêl fasged proffesiynol felly prif gyfrwng eu cenhadaeth oedd gwasanaethu plant ac ysgolion Caernarfon gyda chlinigau pêl fasged. Yn ogystal a’r sesiynau yn yr ysgolion fe bregethodd (yn wych) arweinydd y tîm yng Nghaersalem ddydd Sul diwethaf, arweiniodd y tîm glybiau Plant a Ieuenctid yr Eglwys Bentecostalaidd a neithiwr cawsom ni ddigwyddiad i ddod a’r wythnos i ben lle rhannodd arweinydd y tîm rywfaint am ei ffydd. Esboniodd fod pêl fasged yn arfer bod yn eilun iddo, ond ar ôl dod i adnabod Iesu fod pêl fasged bellach, er yn parhau yn bwysig iddo, yn gyfrwng yn unig i rannau am ei Arglwydd a’i Waredwr. Gydol yr wythnos rhannwyd gwahoddiadau allan i’r digwyddiad neithiwr ac fe ddaeth tua hanner cant yno.

Yn hanesyddol dwi wedi bod yn amheus o genadaethau tymor byr, neu fel yr ydw i wedi eu galw nhw o’r blaen: cenadaethau hit-and-run! Serch hynny, dwi’n credu fod Duw wedi bod yn dda i arwain y tîm yma i Gaernarfon er mae dim ond am wythnos yn unig y buon nhw gyda ni a dyma pam:

  • Roedd yr holl gynnwrf pêl fasged a’r ffaith fod arweinydd y tîm yn ddyn 6’8 o daldra yn gyfrwng effeithiol i ennyn diddordeb y Cofis yn yr Americanwr ac felly hefyd eu ffydd.
  • Roedd y tîm yn medru cynnig rhywbeth, er am wythnos yn unig, nad oeddem ni fel Eglwysi Caernarfon yn medru ei gynnig.
  • Roedd brwdfrydedd a ffydd heintus y tîm yn hwb i ni fel Eglwysi i ymroi fwy fwy i’r gwaith ein hunain ar ôl iddynt adael.
  • Roedd cyfarfod Cristnogion ‘efengylaidd’ o America wyneb yn wyneb a dod i’w hadnabod nhw fel pobl ac fel brodyr a chwiorydd yn gymorth i dynnu i lawr llawer o ragfarnau sydd gan bobl (gan fy nghynwys i!) yn erbyn Cristnogion ‘efengylaidd’ o’r UDA.
  • Oni bai fod y tîm wedi dod atom ni mae’n annhebygol y byddem ni wedi trefnu’r digwyddiad neithiwr lle daeth hanner cant o bobl i glyw’r efengyl, y rhan fwyaf ohonynt na fyddai fel rheol yn mynychu capel.

Ond dwi’n credu fod rhaid bod yn ofalus gyda chenadaethau o’r fath. Neu yn hytrach mae angen gochel rhag gorddibynnu arnynt. Do fe gawsom fendith a her yn eu cwmni, anogaeth a cic roedd ei angen arnom! Ond fory fe fydd hi’n back to normal yng Nghaersalem. Mae gan genadaethau tymor byr eu lle yng Nghymru, mae’n rhan o’r jig-so yn sicr, ond nid dyna yw’r ateb i argyfwng ysbrydol Cymru. Mae’r gwaith yn waith hir dymor lle mae angen cenhadon a gweithwyr hir dymor, yn Gymry a gobeithio yn ffrindiau o dros y môr. Mae ein eglwys ni wedi elwa’n fawr o gael cenhadon hir dymor yn aelodau – rhai sydd wedi setlo yma a dysgu’r Gymraeg yn rhugl gan fod ganddyn nhw, yn amlwg, faich dros waith Duw ond hefyd gariad mawr at bobl Cymru. Er fod yr Americanwyr tymor byr wedi mynd, rhaid peidio digalonni oherwydd mae’r Ysbryd Glân dal yma gyda ni. Ac i bobl sy’n meddwl mae’r ateb yw rhaglen gynhwysfawr o genadaethau tymor byr boed yn wythnos o gynnwrf Americanaidd, yn Mission Week yn y Brifysgol, yn Beach Mission neu beth bynnag – mae’n debyg fod gan yr hen ddihareb Gymreig wers bwysig i ni: un wennol ni wna wanwyn.

Please follow and like us: