Drwy ei safiad uniongred fe fagodd Dr. Tudur Jones, yn gwbl ddi-fwriad bid siŵr, ddilyniant brwd ymysg efengylwyr tu mewn a thu allan i Undeb yr Annibynwyr. Deuai credinwyr o berswâd efengylaidd at Dr. Tudur Jones am gyngor a dyna ddaeth i’r amlwg yn 1973 pan agorodd Pennar Davies ddrysau’r Coleg Coffa yn Abertawe i Undodwyr. Noel Gibbard, unwaith yn rhagor, oedd yn rhannu gofid gyda Dr. Tudur Jones ar y mater; ‘Y mae un athro, a 3 myfyriwr yn Abertawe yn Undodiaid’ meddai Gibbard, ‘Nid yw llawer o’r eglwysi yn gwybod hyn.’ Penderfynodd Noel Gibbard a’i gyd-swyddogion yn Eglwys Annibynnol Llanedi  beidio derbyn Undodwyr i’w pulpud. Mynegwyd yr un gwrthwynebiad gan Annibynwyr o berswâd efengylaidd ym Meirionydd – ysgrifennodd John a Mari Jones at Dr. Tudur Jones o Lanymawddwy i fynegi braw am y myfyrwyr a ddaethai i lanw pulpudau eu bro. ‘Undodwr oedd yr un ddaeth atom,’ adroddai John a Mari Jones gan ychwanegu fod y myfyriwr yn ‘gwadu dwyfoldeb Crist.’ Ymhen pythefnos cyrhaeddodd yr ail Undodwr o Abertawe ond ei anfon yn ôl i Abertawe ar ei ben a wnaeth Annibynwyr Llanymawddwy gan anfon at y Coleg Coffa er mwyn esbonio eu rheswm yn blwmp ac yn blaen.’ 

Os mai Undodwyr a gynhyrfai Annibynwyr Llanelli a Llanymawddwy, Pabyddion a berai dramgwydd i bobl o berswâd efengylaidd yn Rhydaman yn 1975. Roedd Derwyn Morris Jones, Gweinidog Eglwys Annibynnol Gellimanwydd yn y dref yn ddiwyd yn nhrefniadau’r Ymgyrch Genhadol Cymru i Grist, ac meddai wrth Dr. Tudur Jones; 

….ymhen rhyw wythnos daw rhywrai o’r holl eglwysi at eu gilydd i baratoi at y gwaith o ddosbarthu Efengyl Marc. Pawb, ond y Pabyddion. Nid ydym wedi estyn gwahoddiad iddynt hwy, er gwybod fod llawer ohonynt yn gefnogol i’r Ymgyrch. Pam gododd y mater mewn Cyngor Eglwysi Rhyddion yma, yr oedd yn eglur fod un o’r eglwysi sy’n dal cysylltiad agos â’r Mudiad Efengylaidd [Bethany, Methodistiaid Calfinaidd], yn anhapus iawn i’r syniad. Bum innau’n dawedog, gan farnu mai pwysicach oedd sicrhau cefnogaeth yr eglwys honno, na cheisio codi pont rhyngom a’r Pabyddion. Ond rwy’n teimlo’n euog am hyn… A’i peth annheilwng yn eich tyb chwi, yw peidio a’u cyfarch o gwbl, a cheisio eu cymorth? 

Annoeth fyddai dyfalu beth fyddai ymateb Dr. Tudur Jones i ymholiad o’r fath, ond mae’r ohebiaeth yma yn dangos eto y math o rôl apostolaidd mewn ffordd yr oedd Dr. Tudur Jones yn ei ddal ymysg Annibynwyr ei gyfnod; yn arbennig felly wrth drafod pynciau a thensiynau y cysylltir hwynt â’r safbwynt clasurol efengylaidd.

Please follow and like us: