Roedd gan fy nhadcu graith las ar draws ei dalcen. Cafodd ei anafu yn y pwll glo un tro, a daliwyd llwch y glo yn y clwyf wedi i’r croen newydd dyfu drosto. Am weddill ei oes, roedd cysgod o’r pwll yn mynd gydag ef i bobman, yn llythrennol.
Ar ôl ymddeol, byddai’n ymweld ag ysgol gynradd fy nghefndryd i siarad am fywyd fel glöwr. Gallai ddisgrifio’r tywyllwch, y gwaith a’r perygl. Ond yna, yn ddramatig, gallai bwyntio at ei graith las. Roedd y plant yn gweld bod yr hanes wedi digwydd i rywun oedd yn sefyll o’u blaenau. Roedd ei gorff yn dod â’r stori’n fyw.
Peth rhyfedd yw cofio. Ar ei orau, mae’n dysgu gwersi i ni o hanes. Ar ei waethaf, mae’n ein dal yn y gorffennol. Mae cân Sam Fender, Nostalgia’s Lie, yn dal y tensiwn yn dda. Mae rhywbeth yn y gân sy’n cyffwrdd â’m hawydd i fynd yn ôl i’r nawdegau. Yn ôl at y gerddoriaeth, yr wynebau, y teimlad fod bywyd yn agor o’m blaen. Cyn y cyfrifoldebau. Cyn wynebu realiti bywyd go iawn. ‘Was it ever what I thought it truly was?’, fel y canodd Sam Fender.
Yng ngolwg rhai, mae “Cristnogaeth” yn ffitio’n dwt i mewn i’r categori yna o hunaniaeth Gymreig sy’n perthyn i nostalgia neu, o ddefnyddio gair sydd wedi’i orddefnyddio braidd, hiraeth. Mae’r ffydd wedi gadael ei hôl ar ein hiaith, ein caneuon a’n dychymyg gwleidyddol. Bu cyfieithu’r Beibl, canu emynau a dysgu darllen yn yr ysgol Sul yn sylfaenol bwysig wrth ffurfio’r Gymraeg rydym yn ei siarad heddiw. Mae’n anodd gwneud synnwyr o’n diwylliant heb wrando ar y sibrwd ffydd sy’n gefnlen i’r cyfan.
Mae llawer o ffurfiau cyfoes ar Gristnogaeth sydd mewn bri heddiw yn edrych yn Seisnig ac Americanaidd iawn i mi. Dyna un rheswm pam, o fy mhrofiad i, fod llawer o draddodiadau Cristnogol cyfoes sydd wedi cydio yn y diwylliant Saesneg — hyd yn oed yma yng Nghymru — prin wedi cael unrhyw effaith ar y Gymru Gymraeg.
Rwy’n credu fod angen dangos o’r newydd fod stori Duw wedi bod yn rhan o’n stori ni, a rhan bwysig ohoni. Ac nid fel rhyw fath o ffrynt newydd yn y rhyfeloedd diwylliannol wrth fynnu bod Cymru yn “wlad Gristnogol”, fel y mae rhai o gefnogwyr Reform yn ei wneud. Ond yn hytrach drwy ddangos fod ein traddodiad ni yng Nghymru o gymunedoli, solidariaeth, cyfiawnder a gwarchod y gwan yn dod o’n gwaddol Cristnogol lawn gymaint ag o ddylanwad syniadau eraill fel Marcsiaeth.
Rydym yn byw mewn byd sy’n mynnu ein sylw drwy’r dydd, ac yn aml rydym yn rhoi’r sylw hwnnw heb feddwl i’r lleisiau mwyaf croch. Mae angen arferion arnom sy’n ein dysgu i ddiolch, i wrando, i weld ein cymydog. Gall ailgysylltu â Christnogaeth roi amser a siâp i hynny. A phwy a ŵyr, gan fod llawer o’i gwerthoedd craidd eisoes yn rhan o’n hisymwybod, efallai y gwelwch fod y faneg yn ffitio’n fwy cyfforddus nag oeddech wedi’i ddychmygu?
Felly, tybed ydy’r cof a’r hiraeth mewn gwirionedd yn wahoddiad? Tybed ydy’r Iesu sydd wedi bod yn rhan o’n stori fel Cymry bron ers ymadawiad y Rhufeiniaid yn ein galw i’w ddilyn heddiw?
Doedd craith las Tadcu ddim yn mynd â’r plant yn ôl i weithio yn y pwll glo. Roedd yn eu helpu i ddeall o ble roeddent wedi dod. Efallai mai dyna rodd Cristnogaeth i Gymru heddiw: agor y stori, a rhoi digon o obaith inni gredu ein bod yn fwy na damwain hanesyddol.

