Yn dilyn Week In Week Out heno dwi wedi anfon y cwyn yma mewn i’r BBC:
Roeddwn i’n ei gweld hi’n annheg fod rhaglen gan y BBC yn rhoi cyfle i Menna Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru, werthu ac amddiffyn y syniad o fod y BBC ac S4C yn uno ond na roddwyd llais i’r ddadl gref gyhoeddus sy’n bodoli yn erbyn yr uno ar y rhaglen.
Ni roddwyd llais i gynhyrchwyr annibynnol, arbenigwyr yn y sector, S4C ei hunain a Chymdeithas yr Iaith sy’n gwrthwynebu’r uno er i’r BBC dderbyn datganiadau i’r wasg dros y dyddiau diwethaf yn arwain i fyny at ddiwrnod darlledu’r rhaglen yn mynegi’r farn yma.
Roedd hon yn raglen gan y BBC yn rhoi llais dyrchafedig i safbwynt y BBC a’i Cyfarwyddwr yng Nghymru, Menna Richards. Rhoed yr argraff erbyn rhan olaf y rhaglen fod safbwynt golygyddol y rhaglen yn fwriadus weithredu fel apologia i bolisi presennol y BBC o gefngi polisi’r Llywodraeth o uno’r BBC ac S4C.