
Stephen Wolfram
Heddiw fe lansiwyd Wolfram Alpha sef y porwr “deallus” newydd fydd, maen debyg, yn dod i fod yn brif gystadleuydd i Google. Mae’r dyn sydd tu ôl y prosiect, Stephen Wolfram, yn gobeithio y bydd ei borwr ef yn gweddnewid y ffordd y bydd pobl yn defnyddio’r we.
Y prif wahaniaeth tu ôl i’r Wolfram Alpha i gymharu a Google yw ei fod yn dangos y wybodaeth/atebion i chi yn hytrach na dangos rhestr o ddolenni lle maen bosib y byddwn chi’n gallu darganfod y wybodaeth.
Dyma rai enghreifftiau:
what was the weather in aberystwyth on 1/1/08
Yn anffodus maen mynd braidd ar goll pan fyddw chi’n gofyn cwestiynau penodol am Gymru fel ‘who is the leader of Plaid Cymru?’ neu ‘where is snowdonia?’ ac yn hynny o beth maen amlwg ei fod yn US-centric ar hyn o bryd. Ond os bydd y wefan yn lwyddiant maen siŵr y bydda nhw’n datblygu’r system i fod yn lleol.
Mae fideo gan y gwneuthurwr fan yma yn eich siarad chi trwy bopeth allwch chi wneud ar y porwr newydd – ac mae’r pethau maen dangos yn eithaf wa wi. Dwi’n disgwyl mlaen i weld sut bydd y porwr newydd yma yn datblygu.