Roedd Dr. Tudur Jones yn amharod i siarad llawer am ei brofiad ef o ddod yn Gristion a hynny, maen debyg, oherwydd ei fod yn poeni fod pwyslais unigolyddol yma yn rhoi sylw i ni Gristnogion yn hytrach na rhoi’r sylw i gyd i Dduw. Mae ei lif meddwl yn ddoeth yn ôl yr arfer, fodd bynnag yn y 1990au ychydig flynyddoedd cyn ei farw sydyn fe soniodd am y “fatsien yn tanio” (h.y. ei droedigaeth) ar raglen i S4C.

Yn ei epistol at yr Effesiaid mae Paul yn trafod dod i gredu a dod yn Gristion yn nghyd-destun bod yn farw ac yna dod i fywyd. Mae’n cyfeirio at bobl oedd yn farw yn eu hen ffordd o fyw a meddwl ac a ddaeth yn ‘fyw yng Nghrist.’ (Effesiaid 2:5) Nes ymlaen mae Paul yn esbonio mai trwy ras a thrwy ffydd yn Iesu Grist fel eu gwaredwr personol y daeth yr Effesiaid i berthynas â Duw; dyna sut y daethant yn Gristnogion. Dyma pam, yn ei epistolau at y Rhufeiniaid a’r Effesiaid, yr esbonio Paul gyflwr dyn heb Dduw a’i angen am berthynas gyda Duw. Disgrifia Paul sut mae dod i berthynas gyda Duw sef drwy ffydd ac nid drwy unrhyw weithredoedd. Ond beth am eiriau Crist ei hun? Dyma y dywed yn Ioan 14:6; ‘Myfi yw’r ffordd y gwirionedd a’r bywyd. Nid oes neb yn dod at y Tad ond trwof fi.’ Trwy ffydd yn Iesu a neb arall felly mae dod i berthynas a Duw. Dyma sut mae dod yn Gristion. Rhaid i’r Eglwys beidio syrthio i gors plwraliaeth yn ein oes aml-ffydd ni a cyflwyno Iesu fel un ffordd ymysg llawer at Dduw – ddim ar unrhyw gyfri – Iesu ein gwaredwr yw’r unig ffordd. Mae awgrymu mae dim ond un ffordd ymysg llawer ffyrdd yw ffordd y Groes yn ddifrïol o waith yr un a wnaeth yr aberth eithaf drosom ni – rhaid i ni rhoi’r gorau i amharchu Crist yn enw plwraliaeth ac aml-ffydd.  

Tybiaf fod y profiad hwn, a elwir yn hanesyddol yn dröedigaeth, wedi mynd yn ddieithr i ni, nid yn unig yng Nghymru yn gyffredinol ond hefyd hyd yn oed o fewn ein eglwysi. Mae’n un esboniad o’n marweidd-dra ysbrydol. Rydym ni, ar ddiwrnod da, yn barod i sôn am fod yn Gristnogion ond os ydych chi am fod yn saff o greu tawelwch llethol yna holwch am y profiad o ddod yn Gristion. I rai maen brofiad y gellid enwi’r union amser a diwrnod ond i eraill, fel y fi, gellid cofio’n ôl i rhyw gyfnod o rai wythnosau neu fisodd yn eich bywyd pan daeth pethau yn glir; beth bynnag y bo mae’r ffaith yn sefyll eich bod chi, gobeithio, yn gallu dweud eich bod chi boed dros nos neu dros gyfnod hirach wedi dod yn Gristion. Er fod 71% o Gymru yn Gristnogion tybed faint all ddweud wrth eraill am eu profiad neu eu taith wrth ddod yn Gristion? Dim ond holi…

Mewn amryw o lyfrau Cristnogol adroddir fel hyn; going to Church doesn’t make you a Christian more than going to Mcdonald’s doesn’t make you a hamburger. Mae hyn wrth gwrs yn hollol wir ac mae’r neges fod yn rhaid i bawb ddod i berthynas bersonol â Duw trwy Iesu yr un mor berthnasol i’r 8.7% sy’n mynychu Eglwys ag yw i’r 62.3% nad sy’n mynychu. Ond hoffwn ail-bwysleisio wrth ddod a’r blogiad hon i’w therfyn, fod ein treftadaeth Gristnogol yn un tu hwnt o gyfoethog ac y gallwn ymfalchïo yn ei gylch a thynnu ysbrydoliaeth oddi wrtho. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni wynebu’r realiti fod ein treftadaeth Gristnogol wedi rhoi cam-argraff difrifol ar feddwl y Cymry ynglŷn ag ystyr Cristnogaeth a Cristion. Fe droes y syniad o berthynas ysbrydol fyw gyda Duw trwy Iesu yn ddim byd mwy na label o hunaniaeth. Rôl yr Eglwys yng Nghymru heddiw yw pregethu’n glir unwaith eto fod Cristnogaeth yn fwy na label diwylliannol yn unig. Mae’n ffydd fyw a radical i bob oes fel ei gilydd. Fel yr Apostol Paul, rhaid i ni ddatgan nad oes arnom ‘gywilydd o’r Efengyl, oherwydd gallu Duw yw hi.’ (Rhuf 1:16)

Please follow and like us: