Yn y cofnod diwethaf ar y pwnc fe nodais fod y Ceidwadwyr yn debygol o ennill cefnogaeth llawer o Gristnogion yn yr etholiad yma ac y gallai hynny, mewn etholaethau ymylol, ennill neu golli etholaeth.

Adrian Warnock
Un o flogwyr mwyaf dylanwadol y byd efengylaidd-carismataidd ym Mhrydain yw gŵr o’r enw Adrian Warnock. Yn wahanol i’r UDA lle mae’r arweinwyr efengylaidd yn fwy na parod i ddangos eu cefnogaeth gyhoeddus i’r Gweriniaethwyr (Bedyddwyr y de) neu’r Democratiaid (Eglwysi du) mae arweinwyr efengylaidd ym Mhrydain, ar y cyfan, wedi ei chyfri hi’n beth pwysig i beidio dangos eu lliwiau pleidiol yn gyhoeddus. Felly, mae’n ddigwyddiad tra arwyddocaol fod ffigwr dylanwadol fel Adrian Warnock wedi dod allan yn cefnogi’r Ceidwadwyr mor agored wythnos diwethaf. Mae’n werth nodi nad ydy Adrian Warnock wedi bod yn Geidwadwr erioed ac iddo bleidleisio i’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Lafur yn y gorffennol. Ac er ei fod mynd i bledleisio dros y Ceidwadwyr y tro hwn nid yw’n aelod o’r blaid. ‘I will be a critical friend of the Conservatives,’ meddai, ‘not a fawning “right-wing blogger.”’
Mae’r dadleuon mae Adrian yn eu cyflwyno o blaid cefnogi’r Ceidwadwyr yn feicrocosm, dwi’n meddwl, am y ffordd y mae llawer o eglwysi a Christnogion yn dehongli gwleidyddiaeth Prydain ar hyn o bryd.
Cyfiawnder Cymdeithasol

Philippa Stroud
Mae’n debyg fod polisi’r Ceidwadwyr am gyfiawnder cymdeithasol wedi ei ddylanadu’n drwm yn yr etholiad yma gan waith y Centre for Social Justice dan arweiniad y Pentacostal Philippa Stroud. Dyma ddywed Adrian:
New Conservative policies as a direct result [of the work of Philippa Stroud] focus on finding ways to lift people out of poverty and into productive lifestyles in society wherever possible. Just for one example, there is a renewed commitment to providing residential rehab for drug and alcohol addicts to help them beat their problems. This is such an important issue for our society as the last few years has seen a massive reduction in the availability of these facilities which can quite literally save a life, and can prevent the collapse of a whole family. We have to work towards building society and helping people take responsibility for the wellbeing of others. The Conservatives also seem to be committed to providing better opportunities for church and other community groups to get involved in service provision, and encouraging engagement in the community by individuals.
Cyfiawnder cymdeithas – dyma pam felly y tybia Adrian y gall Gristnogion sydd ar y chwith gefnogi’r Ceidwadwyr yn hytrach na’r Blaid Lafur bellach.
Yn y cofnod nesaf: Trafodaeth y ‘Christian Values’ a’r Christian Insitute. Gan gofio fod y naratif hyd yma yn Brydeinig yn unig, dof at y sefyllfa wahanol Gymreig gyda hyn.
Mae Phillipa Stroud, fel rwyt ti’n dweud Rhys, wedi dylanwadu’n drwm ar bolisi cyfiawnder cymdeithasol y Ceidwadwyr gogyfer â’r etholiad yma.
Sut mae Phillipa Stroud yn credu y dylid ymdrin â phobl hoyw? Mae hi wedi bod yn cynnal sesiynau gweddio drostyn nhw er mwyn eu ‘hiachau’, er mwyn hel y diafoliaid sydd ynddyn nhw i ffwrdd.
http://www.guardian.co.uk/politics/2010 … d-gay-cure
Ai dyma’r math o beth y gallwn ni ddisgwyl gweld ym Mhrydain os daw’r Ceidwadwyr i rym? Duw â’n gwaredo. Falle arhosaf i’n Seland Newydd.
Dyma drio rhoi’r linc eto:
http://www.guardian.co.uk/politics/2010/may/02/conservatives-philippa-stroud-gay-cure
Diolch am y sylwad Iwan. Dwi wedi bod yn dilyn y stori yma hefyd, dyma rai sylwadau:
1. Mae Philippa Stroud yn gwadu iddi wneud hyn, ac yn hytrach mae’r adroddiadau yn dweud iddi berthyn unwaith i eglwys oedd yn gwneud hyn. Ches i fy magu mewn eglwys efengylaidd lle roedd rhai aelodau yn dal safbwyntiau adain dde eithafol, ydw i felly yn anghymwys hefyd i gael fy ystyried i swydd gyhoeddus yn y dyfodol?
2. Wyt ti’n cofio beth oeddwn i’n dweud am bobl hoyw pan oeddwn ni’n 17 ac yn sgwennu ar maes-e 8/9 mlynedd yn ôl? Tybed ymhen rhai blynyddoedd pan fyddaf, mewn theori, eisiau sefyll dros y Blaid mewn etholiad y bydd y sylwadau hynny yn llesteirio fy ymgyrch? Gobeithio ddim oherwydd bydd hi’n amlwg i bawb fod fy syniadaeth ar y pwnc wedi newid, meddalu ac aeddfedu. Tybiaf fod yr un peth yn wir am Philippa Stroud, mae’n bosib iawn iddi ddal syniadau anffodus ddeng mlynedd yn ôl pan ym Mradford, ond mae pobl yn gallu newid safbwyntiau yn dydyn nhw.
3. Ond os chaf i feiddio amddiffyn yr arfer yma o weddïo dros bobl hoyw sy’n gofyn am hynny. I bobl sy’n credu’r Beibl ni ellir gwadu fod rhyw hoyw yn cael ei weld fel pechod, os nad wyt ti’n credu hyn digon teg, ond mae’n rhaid i ti gydnabod mae dyna mae’r Beibl yn ei ddysgu. Os felly, os gwêl Cristion sy’n hoyw (sylwer, dwi’n credu fod modd i berson hoyw fod yn Gristion) ei fod am droi cefn ar rhyw hoyw er mwyn cerdded yng ngolau’r gair ac ei fod yn gofyn i mi weddïo gydag ef dros y pwnc welaf i ddim problem gyda hynny. Dydy e ddim byd gwahanol i weddïo dros unrhyw Gristion sy’n stryglo i unrhyw demtasiwn arall. Yr hyn sy’n anffodus fe ymddengys gyda chyn eglwys Philippa Stroud ym Mradford yw eu bod nhw’n gweddïo am “iachad†i’r bobl yma – hynny yw gweddïo y byddan nhw’n troi o fod yn hoyw i fod yn heterorywiol. Dydy hynny ddim yn adeiladol dwi ddim yn meddwl oherwydd, fel y darllenais unwaith: “The opposite to homosexuality is not heterosexuality, it’s holiness.â€
4. Mae dy sylwad fod safbwynt ffydd rhywun, Philippa Stroud yn yr achos yma, yn ei gwneud hi’n anaddas i ddal swydd cyhoeddus yn symptomatig o’r rhyddfrydiaeth wrth-Gristnogol sydd wedi dod i fod ym Mhrydain dros y ddengmlynedd diwethaf. Mae angen i’r gymdeithas secwlar ddeall fod Cristnogion yn gadael rhai pethau yn yr Eglwys ac ein bod ni’n credu’n gryf yn y split rhwng gwladwriaeth ac eglwys. Does dim tystiolaeth o gwbl i awgrymu mod i neu Philippa Stroud neu bwy bynnag arall yn bwriadu gorfodi ein gwerthoedd Cristnogol ni ar gymdeithas secwlar drwy law’r wladwriaeth os caw ni afael ar bŵer. Os fyddai Philippa Stroud a minnau yn credu hyn yna fyddem ni ddim yn aelodau o’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru na fyddem? Mi fyddem ni’n hytrach yn aelodau o blaid egsgliwsif Gristnogol.
5. Yn olaf, yr hyn sy’n dra eironig am Philippa Stroud yw ei bod hi ar y chwith yn ôl safonau arferol y blaid Geidwadol. Does dim gwadu fod gwaith y Centre for Social Justice dan ei harweiniad hi wedi bod yn gyfrifol am symud polisïau cyfiawnder cymdeithasol y Ceidwadwyr fwy i’r chwith na’r hyn sy’n arferol gan y Ceidwadwyr. Pan oedd hi ym Mradford roedd ei gweinidogaeth hi wedi ei chanoli ar weithio gyda’r tlotaf a’r bobl ar ymylon cymdeithas, yn canolbwyntio ar ddod a pobl yn rhydd o afael alcohol a chyffuriau. Cyn hynny buodd hi’n weithiwr elusennol yn Hong Kong.
Nawr, wn i ddim pam mod i wedi mynd i’r graddau yma i amddiffyn Philippa Stroud? Dydw i erioed wedi ei chyfarfod hi ac mae’n ddigon posib fod hi’n berson tra anghynnes! Ond teimlaf mod i’n gorfod ei amddiffyn hi gan ei bod hi, beth bynnag yw eu quirks personol, yn un o ddilynwyr Iesu ac mae ei trac record hi o weithio gyda’r tlotaf a phobol ar ymylon cymdeithas yn awgrymu y bydd hi’n ddylanwad llesol i bolisi cyfiawnder cymdeithasol unrhyw lywodraeth Geidwadol posib yn y dyfodol. Rôl yr eglwys yw achub eneidiau nid y wladwriaeth ac rwy’n hyderu y bydd Philippa Stroud fel Aelod Seneddol yn cofio hynny.
Haia Rhys, diolch am dy ymateb i’n sylw.
Fe ddechreuais i rifo’r paragraffau, ond mae fy ymatebion yn gorgyffwrdd mewn sawl man, felly rwy wedi tynnu’r rhifau.
Rhaid cyfaddef ei bod yn edrych fel fy mod yn euog o ddarllen un stori yn y papur newydd a’i chredu. Wyddwn i ddim bod Stroud yn gwadu iddi wneud hyn. Ac os mai arfer bod yn aelod mewn eglwys a fu’n gwneud hyn oedd hi, wedyn mae hynny’n fater cwbl wahanol. Ond falle bod lle i rywun wneud ymchwil, a’i holi go iawn ynghylch ei safbwyntiau, ac i ba raddau mae’r safbwyntiau hynny’n effeithio ar ei barn ar bolisiau cyhoeddus.
O dy nabod di, fyddwn i ddim yn gadael i sylwadau a sgwenaist ti yn dy arddegau effeithio ar fy marn ar dy wleidyddiaeth a dy allu i fod yn aelod etholedig (mae gen i ofn bod ambell sylw gor-genedlaetholgar tor-cyfreithiol y gwnes i yn fy arddegau canol mas na yn rhywle yn y gofod seibar). Ond pe na byddwn i’n dy nabod di, ac yn darllen yn y papur dy fod ti’n gweddio er mwyn ‘achub’ pobl hoyw yn erbyn eu hewyllys (fel y mae’r erthygl, o bosib, yn ei honni ynghylch Stroud – o ddarllen tystiolaeth rhai o’r bobl y bu’r eglwys yn gweddio trostynt), fe fyddwn i’n bendant eisiau dy holi ynghylch hynny, a dy holi’n go fanwl hefyd. e.e. a wyt ti’n dal i goleddu’r fath syniadau, a fyddai agweddau fel hyn yn effeithio ar dy wleidyddiaeth? Os na, sut fyddet ti’n sicrhau na fyddai agweddau fel hyn yn effeithio mewn unrhyw ffordd ar dy wleidyddiaeth? (anodd profi hynny) ac ati. O glywed yr atebion, pe byddwn i fel pleidleisiwr yn dod i’r casgliad y gallai’r agweddau hynny effeithio ar dy wleidyddiaeth di, fe fyddwn i’n gyndyn iawn i roi pleidlais i ti. (mewn theori yw’r pwynt hwn oll wrth gwrs!) Os gallet ti fy argyhoeddi mai drwy dy eglwys yn unig y byddet ti’n ceisio achub eneidiau, ac nid drwy’r wladwriaeth, wedyn fe fyddwn i’n ystyried rhoi pleidlais i ti.
Os yw person hoyw yn gofyn am gymorth drwy weddi, wedyn wrth gwrs, wela i ddim o’i le ar hynny o gwbwl, achos bydd y person hoyw a’r rhai sy’n gweddio yn credu mai pechod yw rhyw hoyw – ac rwy’n parchu’r hawl i gredu hynny. Ond rhaid bod yn ofalus i beidio a cheisio gorfodi hynny ar rywun (mewn ffordd neis-neis neu beidio), ac mae cyflyru meddylie wedyn yn rhywbeth sy’n dod i’r amlwg, yn arbennig yn rhai o eglwysi efengylaidd America, er enghraifft. Er mi welais enghraifft yng Nghwm Gwendraeth hefyd – gwr ifanc o deulu Cristnogaeth efengylaidd yn dweud wrth ei rieni ei fod yn hoyw, a hwythau’n ei gyflyru i fynd at seic i geisio ei ‘newid’.
Dadl arall wrth gwrs, yw a yw rhyw hoyw yn bechod, ac ry’n ni am anghytuno ar hynny. Yn fras, i mi, casgliad o dystiolaeth dynion, o gyfnod penodol, o’u profiadau real a’u perthynas real nhw â Duw ac Iesu a’ phobl y cyfnod yw’r Beibl – nid gair cyflawn Duw. A dyw’r dystiolaeth a geir yn y Beibl ddim yn bwysicach nac yn llai pwysig na thystiolaeth Cristnogion ar hyd yr oesau, gan gynnwys heddiw, a chan gynnwys ti a fi, o’u profiadau real a’u perhthynas real hwy â Duw ac Iesu. Ac felly yn yr un modd ag y gall Cristnogion heddiw a thrwy’r oesau fod yn anghywir, gan adael i’w rhagfarnau effeithio ar eu safbwyntiau, credaf fod yr un peth yn wir am y dynion sy’n tystiolaethu yn y Beibl. Ac o ystyried hynny, gellir ystyried mai rhagfarnau’r oes a’r gymdeithas ar y pryd a arweiniodd y dynion hynny i gyhoeddi safbwyntiau megis bod rhyw hoyw yn anghywir, na ddylid cael rhyw cyn priodi, y dylai merched fod yn dawel yn yr eglwys, y dylai merched orchuddio eu gwallt yn yr eglwys.
Dyw Iesu ddim yn pregethu’r pethau hyn, a dy’n nhw ddim hyd yn oed, mewn unrhyw ffordd uniongyrchol, yn y 10 gorchymyn. Caru Duw a charu cyd-ddyn yw’r ddau orchymyn pwysica, medde Iesu wrth y Phariseaid. Os ydy hynny’n ddigon da i Iesu, mae’n ddigon da i mi! 😉