Y bleidlais Gristnogol dydd Iau – Rhan 1
Y bleidlais Gristnogol dydd Iau – Rhan 2

Mae yna gred ymysg llawer o Gristnogion eu bod nhw’n brysur cael eu gwthio i ymylon cymdeithas gan yr agenda secwlar. Ac nid dim ond eglwysi efengylaidd sydd yn teimlo hyn, rwy’n gweithio mewn eglwys Fedyddiedig enwadol/traddodiadol ac mae ein aelodau ni yn pryderu am hyn hefyd. Hynny yw nid dadl rhwng ffwndamentalwyr efengylaidd ar un llaw a ffwndamentalwyr secwlar ar y naill yw hyn. Mae Cristnogion digon cymedrol yn dechrau gweld eu bod nhw’n cael eu trin yn is-raddol hefyd.

Mae llawer o Gristnogion yn teimlo fod Llafur dros y 13 mlynedd diwethaf wedi gwthio’r agenda secwlar wrth-Gristnogol yn ei blaen. Dyma ddywed y blogiwr Cristnogol dylanwadol Adrian Warnock:

Over the last few years there is no question that the Labour government have overseen a striking de-Christianisation of our country. Told by his spin doctor that he could not “do God”, Blair then Brown have seen fit to pass a series of laws that either directly contradict Christian principles, or have components that have helped to further exclude Christians from the public square. I am convinced that we cannot afford another five years of Brown. We Christians risk finding ourselves genuinely persecuted and discriminated against in the name of “tolerance.”

Rwy’n credu o argyhoeddiad y dylai’r wladwriaeth fod yn endid niwtral. Ond rwy’n cytuno gyda Adrian fod cysyniad y Blaid Lafur o “niwtral” wedi ei wyrdroi i fod a thuedd yn erbyn cymunedau ffydd. Nid niwtroldeb yw hyn, ond yn hytrach cymryd ochr anffyddwyr.

Fel dwi wedi dweud o’r blaen rwy’n cytuno gyda cysyniad y Ceidwadwyr o’r ‘Big Society’ ac yn credu fod yn egwyddor Gristnogol. Rwy’n credu fod cenedl wedi ei greu allan o sawl cylch cymdeithasol gyda’r teulu, cymunedau ffydd, undebau llafur, sefydliadau addysg ac ati gyda’i gilydd yn creu’r genedl. Rwy’n credu mae un o’r cylchoedd ydy’r wladwriaeth ond dydw i ddim yn credu mae’r wladwriaeth yw’r arch-gylch fel petai. O ddyfynnu un o sloganau eraill Cameron: ‘I belive in Society, I just don’t belive it’s the same thing as the State.’ Rwy’n credu fod gan bob cylch o fewn cenedl ei annibyniaeth ac y mae pob cylch i barchu annibyniaeth ei gilydd ond hefyd i ddal ei gilydd yn atebol. Er enghraifft mae’r wladwriaeth yn iawn i ymchwilio i mewn i gam-drin Plant yn yr Eglwys Gatholig yn yr un ffordd ag y mae’r Eglwys yn iawn i gondemnio polisïau y Wladwriaeth tuag at y tlawd. Ond dan ddylanwad ideoleg chwith y Blaid Lafur fe welwyd fod y wladwriaeth, am ryw reswm, yn bwysicach na chylchoedd eraill cymdeithas ac ni pharchodd annibyniaeth cymunedau ffydd ac aeth i amharu tu hwnt i’r hyn sy’n dderbyniol. Aeth ei thraed yn fwy na’i sgidiau. Dyma ddywed Adrian Warnock eto:

Introduced various equality legislation without considering the needs of churches and individual Christians for exemptions from certain provisions. For example, we are not far from a church being forced to employ pastoral workers who do not believe the church’s doctrine.

Dyma felly un rheswm arall pam y tybiaf y bydd llawer o Gristnogion yn pleidleisio i’r Ceidwadwyr ddydd Iau. Mae hyn yn eironig iawn gan gofio mae yn ei araith ddoe i Citizens UK, cynulliad o gynrhychiolwyr cymunedau ffydd, y gwelwyd Gordon Brown, sy’n fab y Mans, ar ei orau. Efallai’n wir nad ydy Brown ei hun yn hollol gyfforddus gyda’r trywydd secwlar-ddigyfaddawd yma aeth Blair a Cambpell a’r chwith tuag ato cyn i Brown ddod yn arweinydd.

Cofnod nesaf: Y Christian Insitute.

Please follow and like us: