Y bleidlais Gristnogol dydd Iau – Rhan 1
Y bleidlais Gristnogol dydd Iau – Rhan 2
Y bleidlais Gristnogol dydd Iau – Rhan 3
Un o’r sefydliadau gwleidyddol mwyaf dylanwadol yn y byd efengylaidd ydy’r Christian Insitute. Think Tank Cristnogol ydyn nhw sydd wedi eu lleoli yn Newcastle ond a phobol yn gweithio fel lobïwyr yn San Steffan. Dwi’n cofio dod ar draws peth o’u llenyddiaeth flynyddoedd mawr yn ôl pan oeddwn i yn fy arddegau ac o’r cychwyn un roeddwn ni’n gweld eu pwyslais yn dra anghyfforddus. Er mod i trwy’r gyfres yma ar y blog wedi dangos cydymdeimlad gyda’r Ceidwadwyr, dydw i ddim ar y dde, rwy’n cyfri fy hun ar y chwith os oes rhaid dewis. Maen well gen i beidio go4fod dewis rhwng y chwith a’r dde gan ddewis dweud yn hytrach mod i jest yn Gristion gan fod rhai o werthoedd y Cristion yn cael eu anrhydeddu gan y dde a rhai gan y chwith. Ond mae’r Christian Institute ar y dde a hynny tu hwnt i unrhyw amheuaeth.
Dydw i heb ddilyn gwaith y Christian Institute ers rhai blynyddoedd ond fe dynnwyd fy sylw atynt o’r newydd drwy flog Adrian Warnock a’r tweet trawiadol yma gan Guto Dafydd:
@gutodafydd Dwi’n meddwl bod @HywelWilliamsMP yn mynd i Uffern http://www.christian.org.uk/mpvotes.php?selection=&value1=110&submit1=SHOW&value2=1
Mae trydariad Guto yn dweud popeth sydd angen ei ddweud am y tyllau sylweddol yn rhesymeg y Christian Institute. Mae ganddyn nhw’r system yma ar eu gwefan lle mae modd i chi weld pa ffordd y mae eich aelod seneddol wedi pleidleisio ar “Moral Issues”. Wrth gwrs mae eu dehongliad nhw o ba ‘issues’ sydd yn ‘moral issues’ i’r Cristion yn dra gyfyngedig gan ddewis canolbwyntio’n unig ar yr usual suspect: partneriaethau sifil, gamblo, erthyliad a chyfreithloni cyffuriau.
Fel Cristion buaswn i’n hoffi gwybod sut bleidleisiodd fy aelod seneddol ar faterion yn ymwneud ac arfau neu bŵer niwclear, ar faterion yn ymwneud a helpu’r tlotaf a’r gwanaf mewn cymdeithas ac ar rai materion addysg, ond i roi rhai enghreifftiau. I’r Cristion tybed a oes yna ‘issue’ nad sy’n ‘moral issues’ – fel aelod etholedig gellid dadlau fod pob pleidlais mae’r aelod yn cymryd rhan ynddi yn ‘moral issue’.
Ond gwaetha’r modd mae’r agenda adain dde yma mae’r Christian Institue yn ei bedlera yn dra phoblogaidd ymysg llawer o Gristnogion efengylaidd. Ddim yn gymaint ymysg efengylwyr Cymraeg diolch byth ond yn sicr yn Lloegr ac ymysg y di-Gymraeg yma.
Amser penderfynu
Daw hyn a ni felly at ddiwedd y gyfres ar y bleidlais Gristnogol ddydd Iau. Yn y cofnodion cynt fe restrais rhai agweddau o agenda’r dde sy’n apelgar i’r Cristion, yn bennaf rhyddid cydwybod a lle haeddiannol i gymunedau ffydd o fewn y genedl. Ond yn y cofnod yma rwy’n awgrymu fod pleidiau’r chwith yn nes at y safbwynt Cristnogol ar faterion eraill fel trethu’r cyfoethog er mwyn rhoi cyfiawnder i’r tlawd.
Dyma drio felly cloriannu pros a cons y ddwy brif Blaid o safbwynt y Cristion.
Ceidwadwyr:
Pros –
- Agwedd ar gyfiawnder cymdeithasol sy’n seiliedig ar gymorth nid cardod.
- Rhyddid cydwybod.
- Gweld lle i gymunedau ffydd yn y gymdeithas gyfoes.
Cons –
- Rhy unigolyddol eu hagwedd at gyfoeth a lles.
- Credu mewn cyfalafiaeth rydd.
- Credu mewn imperialaeth/unoliaethrwydd
Llafur:
Pros –
- Cymunedol eu hagwedd at gyfoeth a lles.
- Credu mewn rheoleiddio y farchnad rydd a gwladoli lle bo angen.
Cons –
- Agwedd at gyfiawnder cymdeithasol wedi arwain at ddiwylliant o gardod nid cymorth.
- Gwladwriaeth fawr sy’n mygu rhyddid cydwybod.
- Gwthio cymunedau ffydd i ymylon cymdeithas heddiw.
- Credu mewn imperialaeth/unoliaethrwydd.
Yn y cyfnod nesaf mi fydda i’n datgelu i bwy y fydda i’n pleidleisio a pham.
Trackbacks/Pingbacks