Mae’n debyg fod y bleidlais Gristnogol yn dod yn gynyddol bwysig yng ngwleidyddiaeth Prydain. Wrth i’r gymdeithas yn ehangach fynd yn fwy apathetig mae’r gymuned Gristnogol yn ail-ddarganfod ei dannedd gwleidyddol.

Daw hyn fel syndod i lawer gan fod Cristnogaeth gyfundrefnol yn colli tir ac fod Cymru, fel gweddill Prydain, bellach yn wlad secwlar. Er fod yr eglwys Gristnogol yn gyffredinol ar drai mae eglwysi mawr Pentacostalaidd a Charismataidd ar dwf. Ar y cyfan mae rhain yn eglwysi o rai cannoedd gyda Eglwysi fel Penrallt ym Mangor ac oddeutu 200 o addolwyr, San Mihangel yn Aberystwyth a 300-400 o addolwyr ac Hope yn y Drenewydd a nifer sylweddol o addolwyr. Yn y byd ‘efengylaidd’ fe adnabyddir coridor yr M4 yn Ne Cymru fel y Bible-belt oherwydd fod degau o eglwysi Carismataidd a channoedd o aelodau yr un ynddynt ar hyd de Cymru.

Yr hyn sy’n gwneud y cymunedau Cristnogol yn unigryw yw’r wedd gymunedol, y ffordd y maen nhw’n medru cyfundrefnu a symud gyda’i gilydd i ddylanwadu ar gymdeithas. Dyma sut tyfodd y Blaid Ryddfrydol yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, gyda grym cymunedol y cydwybod Cristnogol tu ôl iddyn nhw. Ac fel enghraifft llai daionus efallai dyma berodd i sawl Arlywydd Gweriniaethol ganfod ei ffordd i’r Tŷ Gwyn. Er gwell neu er gwaeth y mae’n ffaith fod eglwysi dal yn medru dylanwadu ar wleidyddiaeth.

Yn gymharol ac fel canran o’r boblogaeth gyffredinol mae’r eglwysi yn cynrychioli lleiafrif ond yr eglwys yw’r unig grŵp o fewn cymdeithas (ag eithrio undebau llafur efallai) sy’n medru ymdrefnu’n un grŵp o rai cannoedd neu rai miloedd. Dyma pam, mewn etholaethau ymylol, y gall yr eglwysi chwarae rôl pwysicach na’r disgwyl yn yr etholiad dydd Iau.

Mae’n ddiddorol nodi, er ddim yn syndod, mae’r Ceidwadwyr sy’n debygol o elwa fwyaf allan o hyn. A dyma fydda i’n trafod yn y cofnod nesaf ar y blog.

Darllen pellach:
Dyma erthyglau sydd wedi ymddangos yn ddiweddar yn y cylchgrawn Christianity. Cylchgrawn sy’n dra ddylanwadol ymysg yr eglwysi cryfaf yn y byd efengylaidd.
Voting Global gan Jonathan Langley
Family politics gan Andy Walton
Election Time gan Ruth Dickinson
Getting past the expenses scandal gan Ruth Dickinson

Please follow and like us: