Roeddwn i ym Mangor Uchaf bore ‘ma ac yn pasio’r ddau hen Goleg Diwinyddol, Y Coleg Gwyn ar y chwith a Bala-Bangor ar y dde. Wrth edrych ar yr adeiladau sydd bellach wedi cau, rwy’n teimlo hiraeth — nid am adeilad nac am sefydliad, ond am draddodiad diwinyddol unigryw Gymreig sy’n diflanu’n gyflym o’r golwg.
Bu Cymru unwaith yn fagwrfa diwinyddiaeth unigryw, wedi ei geni o’n ymneulltiaeth a’n anghydffurfiaeth ddewr – ffydd oedd yn ddigon cryf i sefyll ar wahân. Gwerin oedd yn darllen y Beibl drwy lens gwlad a diwylliant lleiafrifol. Pobl oedd yn cael eu egsbloitio gan y tirfeddianwyr a barwniaid y Chwyldro Diwydiannol, ond eto yn darganfod pwrpas ac urddas pob unigolyn yn yr efengyl ogoneddus y clywsant ar y Sul. Yr union efengyl oedd nid yn unig yn rym diwygiadol wrth i’r werin brofi maddeuant, ond oedd hefyd yn sylfaen cymdeithasol i ddiwygio a newid gwleidyddol maes o law. Dyma oedd yr efengyl yn ei gyflawnder.
Ond, heddiw, rydym yn colli’r llais ar meddwl hwnnw, gan droi at “Gristnogaeth clawr meddal” sy’n cael ei siapio gan chwiw ddiweddaraf y pregethwyr enwog, yn aml o America.
Er fy mod i fy hun wedi mentro i fyd TikToc yn ddiweddar, mae ffydd sy’n dibynnu ar dueddiadau a chlipiau byr yn un bregus.
Efallai bod hyn yn esbonio pam nad yw llawer o eglwysi a Christnogion yng Nghymru wedi eu paratoi ar gyfer y newidiadau gwleidyddol, diwylliannol ac ysbrydol sydd o’n blaenau? Heb wreiddiau dwfn, mae’n hawdd cael ein siglo a’n hudo at rywbeth sy’n dra wahanol i’r Gristnogaeth sydd wedi cynnal y dystiolaeth yn ein plith ers canrifoedd.
Bu’r Coleg Gwyn a Bala-Bangor — Coleg yr Annibynwyr Cymraeg, HQ Dr. R. Tudur Jones — yn llunio diwinyddiaeth Gymreig gadarn dros amser – ein ffurf unigryw Brotestannaidd ni o Ddiwinyddiaeth Ryddhad (Liberation Theology). Nid odrwydd oedd y traddodiad hwn, ond ffynnon o ddoethineb dan arweiniad yr Ysbryd ar gyfer ei oes.
Ond heddiw, wedi i’r drysau hen gau, y cwestiwn yw a oes gennym yr ewyllys ac ydym ni’n gweld yr angen i ail-ddarganfod y traddodiad hwn. Hebddo, gallai Cristnogaeth Cymru golli nid yn unig ei golegau diwinyddol, ond hefyd ei llais proffwydol a’i gallu i ddirnad arweiniad Iesu i’r cyd-destun penodol y mae Duw wedi ein galw yn dystion iddi
.

