Wythnos yma dwi wedi cael fy atgoffa unwaith yn rhagor mae pennaf rwystr adfywiad y Gymraeg dros y ddegawd diwethaf oedd ac ydy Rhodri Morgan. Fel Prif Weinidog roedd ganddo’r cyfle i wneud gwahaniaeth ond nid yn unig iddo fethu, dwi’n credu i argyhoeddiad bellach ei fod wedi dilyn agenda fwriadus o ddal datblygiad y Gymraeg yn ôl.
Wrth iddo sefyll i lawr fel Prif Weinidog Cymru y llynedd darlledwyd rhaglen ddifyr tu hwnt ar S4C oedd yn nodi dau ffactor wnaeth greithio Rhodri Morgan o ran ei agwedd tuag at hunaniaeth a’r Gymraeg. Yn gyntaf y ffrae rhwng Saunders Lewis a’i Dad, T.J. Morgan a’i gyfaill yntau W.J. Gruffydd. Daeth y cyfan i’r berw yn Is-Etholiad sedd seneddol Prifysgol Cymru yn 1943. Yr ail-ffactor oedd y ffaith fod Rhodri Morgan wedi bod i ffwrdd o Gymru yn ystod cyfnod y ‘deffroad cenedlaethol’ ddechrau’r 60au. Yn gyntaf yn Rhydychen ac wedi hynny yn Harvard, Massachusetts. Dychwelodd i Gymru yn meddu’r un rhagfarnau ynglŷn a hunaniaeth ag y meddau wrth adael. Ond yn y cyfamser roedd Cymru ei hun wedi symud ymlaen. O ganlyniad mae Rhodri Morgan yn meddu rhyw ragfarn gymhleth tuag at y Gymraeg a hunaniaeth na welir gan bobl eraill megis Ron Davies efallai. Prin y clywch chi Rhodri Morgan yn sôn am y Gymraeg heb ddefnyddio’r gair ‘crachach’ neu’n prysuro i amddiffyn a gwarchod hawliau’r mwyafrif di-Gymraeg. Mae fel petae’n gweld dadl yr iaith/hunaniaeth drwy lygaid y rhyfel dosbarth sy’n anhygoel o gul. Boed iddo ddod fyny fan yma i Ddeiniolen, 75% yn siarad Cymraeg ac yn un o bentrefi mwyaf di-freintiedig Cymru.
Mae’r rhagfarn yma yn codi ei ben yn gyson ac fe’i gwelwyd ddwywaith wythnos yma. Yn gyntaf yn ei gwestiynau hurt a dryslyd i Alun Owens o’r Urdd wrth iddo gyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor Craffu’r Mesur Iaith. Allan o nunlle dyma Rhodri Morgan yn cychwyn rant ynglŷn a’r modd y bod hi’n annoddach i blant o ardaloedd di-Gymraeg gyrraedd ymhell yn eisteddfodau’r Urdd oherwydd rhagfarn yr Urdd yn erbyn ysgolion ac o blaid aelwydydd. Roedd hi’n anodd deall beth oedd Rhodri Morgan yn ceisio ei gyfleu ond roedd hi’n amlwg mae rhyw hanner awgrymu oedd ef fod yr Urdd a phopeth Cymraeg yn perthyn i’r ‘crachach’ ac fod gweithdrefnau’r mudiadau Cymraeg yn bwrpasol yn ffafrio’r ‘elit’ Cymraeg ac yn cadw’r ‘werin’ allan. Mewn gair, roedd yr hyn roedd Rhodir Morgan yn ei ddweud yn sothach llwyr.
Yr ail achos wythnos yma yw achos Ysgol Gymraeg Treganna sydd yn etholaeth Rhodri Morgan. Fe wydd pobl ers tro y bod Rhodri Morgan yn wrthwynebus i addysg Gymraeg. Anfonodd ei blant ei hun i ysgolion Saesneg. Er mai Carwyn Jones gymerodd y penderfyniad i beidio ehangu addysg Gymraeg yn Nhreganna does dim dwywaith fod Rhodri Morgan wedi bod yn ddylanwad pwysig yn y penderfyniad. Neithiwr ar Newyddion S4C wrth amddiffyn yr Ysgol Saesneg fyddai’n gorfod cau i wneud lle i ehangu addysg Gymraeg dywedodd un o’r rhieni fod yr Ysgol Saesneg yn ysgol dda a ‘multicultural’. Tybed o lle daeth y fath air profund yna? Wel, o rethreg Rhodri Morgan a’r Blaid Lafur mae’n siŵr sy’n ddiwyd yn portreadu pleidwyr addysg Gymraeg fel yr ‘elit’ a’r ‘crachach’ ac hyrwyddwyr ‘apartheid’. Nawr a chymryd y busnes ‘multiculturalism’ yma o ddifri, bydd plant Ysgol Landsdown yn cyrraedd yr Ysgol Uwchradd yn rhugl mewn un iaith (oni iddynt ddysgu iaith arall ar yr aelwyd) ond bydd plant Ysgol Treganna’n cyrraedd yr ysgol uwchradd yn rhugl mewn dwy iaith, y Gymraeg a’r Saesneg. Addysg Gymraeg sy’n creu plant a byd olwg ‘multicultural’ nid Addysg Saesneg. Dwi’n medru byw, bod a meddwl mewn dwy iaith. Dydy hynny ddim yn wir am blant sydd wedi bod trwy’r drefn addysg Saesneg. Maen nhw’n dod allan yn byw, bod a meddwl mewn un iaith, y Saesneg.
Dwi’n gwybod mod i fel record wedi sdicio weithiau ond dyma enghraifft eto fyth pam mod i, ers y dechrau, wedi bod yn amheus o glymbleidio gyda’r Blaid Lafur. Efallai ei bod nhw ar y chwith ac efallai ei bod nhw, ar ddiwrnod da, ychydig bach yn fwy Cymreig na’r Ceidwadwyr ond diwedd y dydd mae eu ideoleg, onid rhagfarn, am hunaniaeth a chenedlaetholdeb yn parhau i fod yn wrthyn i raison d’etre Plaid Cymru.
This is a pretty accurate analysis. It confirms my long-held view that too many naïve Pleidwyr believe that just because they speak Cymraeg – mostly by historical accident – people like St Rhodri are Cymro Da. They ain’t. Cofiwch Iraq! I wonder how many Pobl Pontcanna who ‘voted Labour to keep the Tories out’ now have sore heads? Note the same “anti-crachach” rhetoric from the strangely-deracinated Mr Android. Our universities are, in reality, suffering from Anglo-British academics and managers who (i) despise things Welsh and (ii) want to ape English ‘redbricks’. That, of course, is where they can get their inflated salaries from, not Lil ‘Ol Cymru. All this, of course, goes down well in the institutionally anti-Welsh Labour Party which these people join to get their jobs. Android’s mostly correct analysis is a clear attempt at a Labour take-over (like BBC Wales). But where, oh, where is Plaid Cymru?
Rwy’n deall nawr pam ca chefais fy synnu gan croesholi cas RhM yn ystod tystiolaeth lafar CyiG i’r Cynulliad ddoe. Roedd aelodau eraill y pwyllgor deddfwriaethol yn glen iawn, ond am Rhodri. Diar, diar, roedd e bron yn poeri’i gwestiynnau mas.