Morphy Richards PerformAir Bagless Cylinder Cleaner

Pe bawn i dal yn ysgrifennu i Metastwnsh mi fuaswn i’n sgwennu adolygiad o fy hwfyr newydd, y Morphy Richards PerformAir Bagless Cylinder Cleaner, mae’n gadget o fath yn tydi. Bydd y rheiny a fuodd yn ymddiddan a fi ddoe a’r twitter yn gwybod mod i wedi torri tri hwfyr yn y ddwy flynedd diwethaf; yn bennaf oherwydd mod i wedi bod yn prynu hwfyr’s ceiniog a dimau Tesco Value. Ond tro yma dwi wedi mynd yn ddofn i fy mhoced a phrynu un a wnaiff, gobeithio, bara blynyddoedd.

Mae’n siŵr y byddwch chi’n meddwl mod i wedi ei cholli hi yn cychwyn blogio am hwfyrs a gwaith tŷ, ac mae’n bur debyg mae dihangfa ugain munud o’r PhD sydd wedi fy ngyrru’n bennaf i ysgrifennu’r pwt yma. Ond wrth weddnewid fy nhŷ neithiwr gyda’r peiriant newydd daeth sawl delwedd i’r meddwl. Yn gyntaf, wnes i ddim sylweddoli pa mor fudur oedd fy nhŷ tan i mi weld y peiriant yn dechrau ar ei waith. Ac fe’m tarwyd pa mor debyg oedd hynny i gyflwr fy nghalon i. Weithiau, yn rhy aml, dwi’n meddwl mod i’n foi iawn, ddim yn gwneud dim byd mawr o’i le ac yn rhoi a caru lle dwi’n gallu. Ond wedyn wrth wrando a darllen am y meistr wrth ei waith a gweld y safon dwi’n gweld yn glir o’r newydd eto fod fy nghalon a’m meddwl i angen ei ymdrin ag ef.

Wrth gwrs, fe hwfyrais garpedi’r tŷ bythefnos yn ôl gyda’r hwfyr oedd ar ei draed olaf, ond oherwydd ei fod yn hwfyr sâl roedd e’n anaddas i fynd i’r afael a chyflwr brwnt difrifol fy ngharped. Roedd rhaid aros i’r hwfyr da, y real thing, ddod cyn ymdrin â’r carped go-iawn. Unwaith eto fe’m tarwyd i mod i’n syrthio i ryw baradwys ffŵl felly gyda nghalon i hefyd. Weithiau os fydda i’n ei deimlo ef yn bell a mod i angen sbardun fydda i’n tueddu i hwfyro nghalon i gyda phob dim ond yn hwfyr wnaiff wahaniaeth. Wrandawa i ar gerddoriaeth wnaiff godi nghalon i, efallai wnâi wrando ar rhyw bodlediad yn y gobaith y caf i air o anogaeth neu o bosib wnâi fynd i’r rywle neu i ryw gynhadledd i geisio cael fix o ysbrydolrwydd. Ond er bod y pethau yna i gyd yn iawn yn eu lle, yr unig beth all ddelio gyda mi go iawn yw Ef ei hun, a tan mod i’n ildio a gadael iddo Ef ei hun siarad ac ymdrin â fi eto yna fydda i dda i ddim. Rydym ni’n rhy barod i droi at hwfyrs sâl wnaiff ond wneud hanner job ar ein calonnau, fel ein carpedi, yn lle troi at y real thing.

Yn olaf, wrth ddadbacio’r hwfyr newydd o’i focs wnes i sylwi ei fod yn dod gyda life time guarantee. Problem sylfaenol fy hwfyrs blaenorol oedd mai pethau byr hoedlog oeddent. Fy mhroblem buddsoddol i wrth ymdrin â fy ngharpedi dros y blynyddoedd diwethaf oedd mod i wedi rhoi fy ffydd mewn teclynnau byr hoedlog a wnaeth, yn y diwedd, fy ngadael i lawr. Bellach rwyf wedi buddsoddi mewn peiriant sydd wedi addo ei fod yma i aros. Rydym ni’n symud yn rhy sydyn i roi ein ffydd mewn pethau byr hoedlog sydd efallai yn iawn yn eu lle. Y gyfrinach i gael bywyd yn ei gyflawnrwydd ydy rhoi ein ffydd mewn un sydd wedi addo y bydd e gyda ni am byth.

Fydda i dal i faeddu fy ngharped yn wythnosol oherwydd mae un amherffaith ydw i, ond pob tro y bydda i tynnu’r Morphy Richards PerformAir Bagless Cylinder Cleaner allan i ddelio gyda’m llanast fydda i’n cofio fod yna un sy’n gallu ac wedi addo delio gyda’m holl lanast i, ddoe, heddiw a hyd byth.

Please follow and like us: