osllyspwllheli2Roedd dydd Gwener yn ddiwrnod rhyfedd iawn! Roedd disgwyl i Osian gael ei garcharu gan fod ei gyfnod i dalu’r ddirwy wedi dod i ben ac yntau heb ei dalu. Ond fe ohiriwyd yr achos gan yr Ynadon am bythefnos arall a hynny er mwyn edrych i mewn i’r posibiliad o gael cyflogwyr Osian i dynnu’r ddirwy allan o’i becyn cyflog nesaf. Fodd bynnag cyflogwr Osian ydy Cymdeithas yr Iaith, esboniwyd hynny i’r Ynadon ond gwrthodasant ddelio ar mater ar y pryd gan fynnu fod rhaid i’r achos gael eu ohirio am y tro.

Y tebygrwydd yw fod yr Ynadon ddim am garcharu Osian, ond ddim chwaith a digon o asgwrn cefn i ollwng yr achos felly fe wnaethon nhw eistedd ar y ffens ac anfon yr achos gerbron Ynadon gwahanol ymhen pythefnos.

Bydd yr achos nesaf ar Dachwedd 25 yng Nghaernarfon y tro hwn a dyna pryd, oni ffeindith yr Ynadon reswm i ohirio eto fyth, y bydd Osian yn mynd i’r carchar.

Yn y cyfamser mae yna Rali ym Mangor dydd Sadwrn yma i dynnu sylw i achos/carchariad Osian ynghyd a’r ymgyrch yn gyffredinol am hawliau iaith llawn i siaradwyr Cymraeg. Hawliau iaith cyffredinol sydd wedi eu hepgor gan y Blaid a Llafur o’r LCO yn anffodus.

Please follow and like us: