Bellach mae hysbyseb swydd yr Is-Ganghellor newydd wedi ei gyhoeddi ar wefan y Times Higher Education. Dyma fe:

Prifysgol Bangor
Is-Ganghellor

Mae Prifysgol Bangor yn dymuno penodi arweinydd rhagorol i olynu’r Athro Merfyn Jones, fydd yn ymddeol eleni.

Mae’r Brifysgol wedi hybu addysgu, dysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf ers canrif a chwarter. Yn ei lleoliad hyfryd rhwng mynyddoedd Eryri a’r mor, mae”r Brifysgol yn rhagori ym mhob agwedd ar ei gweithgarwch ac mae’n falch o’i chenhadaeth i gyfrannu at ddatblygu economi, iechyd a diwylliant Cymru gynaliadwy a byd cynaliadwy. Trwy fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn amrywiaeth o ddatblygiadau o bwys sy’n meithrin cryfderau academaidd, bydd sefyllfa’r Brifysgol yn fwy llewyrchus fyth.
Bydd gan yr ymgeiswyr am y swydd hon yr hygrededd deallusol a’r cymhelliant i arwain prifysgol gadarn sy’n canolbwyntio ar ymchwil, a byddant yn gallu gweithredu’n effeithiol yn y cyd-destun Cymreig a’r cyd-destun rhyngwladol. Byddant wedi ymrwymo i’r effaith y gall addysg uwch ei chael ar fywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru a’r byd y tu hwnt. Bydd ganddynt hefyd yr enw da a’r urddas sydd eu hangen i ddylanwadu ar lefel uchel, yn wleidyddol ac yn academaidd. Rhaid i ymeiswyr allu gwerthfawrogi a gweithio’n gadarnhaol o fewn yr amgylchedd dwyieithog y mae’r Brifysgol yn gweithredu ynddo.

Am ragor o wybodaeth a manylion am wneud cais, ewch i wefan Saxton Bampfylde Ltd, ein hymgynghorwyr cyflogaeth, yn www.saxbam.com/jobs gyda’r cyfeirnod AHAE. Fel arall, gallwch anfon e-bost at AHAE@saxbam.com, neu ffonio +44 (0) 20 7227 0890 (yn ystod oriau swyddfa).

Dylai ceisiadau gyrraedd erbyn hanner dydd, ddydd Gwener 12 Mawrth 2010, fan bellaf.

Er mod i ddim yn credu y byddai Is-Ganghellor sy’n Gymro Cymraeg or rheidrwydd yn gwneud Is-Ganghellor fyddai’n bleidiol i aaddysg Gymraeg yn y sefydliad dwi yn meddwl ei bod hi’n drueni fod nhw heb ddweud ei bod hi o leiaf yn ddelfrydol pe bae’r ymgeisydd yn gallu cyfathrebu’n Gymraeg yn ogystal a Saesneg.

Heddiw felly dwi wedi mynd ati i ddechrau gohebu a’r bobl fydd ar y panel cyfweld sef:

  • Yr Arglwydd Davies o Abersoch (Cadeirydd, Cyngor y Brifysgol)
  • Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Elis-Thomas AC, (Llywydd)
  • Syr Peter Davis (Is-lywydd)
  • Yr Athro Tony Claydon (Pennaeth, Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau)
  • Yr Athro Hilary Lappin-Scott (Dirprwy Is-Ganghellor [Ymchwil a Menter])
  • Yr Athro Peredur Lynch (Pennaeth, Ysgol y Gymraeg)
  • Yr Athro Colin Riordan (Is-Ganghellor, Prifysgol Essex)

Dyma aeth atynt, digon teg ond eto’n ddigon cadarn gobeithio:

Annwyl *****,

Rydym ar ddeall eich bod chi wedi eich penodi i fod ar banel cyfweld Is-Ganghellor newydd Prifysgol Bangor i olynu’r Athro Merfyn Jones pan fydd yn ymddeol yn hwyrach eleni. I ddechrau carwn ddymuno pob dymuniad i chi wrth ymgymryd a’r ddyletswydd tra phwysig hwn a hynny pan fo Prifysgol Bangor, a’r sector addysg uwch yn gyffredinol, ar groesffordd.

Fel Cymdeithas sy’n cynrychioli miloedd o’r Cymry y mae’r Brifysgol yn gwasanaethu eu cymunedau ynghyd a bod yn fudiad sy’n cynrychioli llawer o fyfyrwyr presennol y Brifysgol a llawer mwy o gyn fyfyrwyr Bangor teimlwn mae priodol fyddai tynnu eich sylw at rai ystyriaethau fydd o bwys neilltuol wrth benodi Is-Ganghellor newydd.

Un o bennaf ragoriaethau Prifysgol Bangor, yn enwedig mewn cyswllt a gwasanaethu Cymru fel cenedl, ydy’r gwaith dysgu ac ymchwil cyfrwng Cymraeg. Mi fyddwch chi’n ymwybodol maen siŵr fod dros 40% o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg y sector drwy Gymru yn astudio ym Mhrifysgol Bangor. Yn unol a pholisi Llywodraeth Cymru o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg er mwyn cynnal a datblygu dysgu ac ymchwil cyfrwng Cymraeg ymhellach ein gobaith yw y bydd Prifysgol Bangor, ynghyd a’r Is-Ganghellor newydd, yn chwarae rôl flaenllaw a phositif yn y datblygiadau yma. Pwyswn arnoch felly i benodi Is-Ganghellor sydd a phrofiad a record bresennol o fod wedi ymrwymo i ddatblygu addysgu ac ymchwil cyfrwng Cymraeg.

Yn y cyswllt hwn y maen bwysig tynnu eich sylw fod oddeutu 20% o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg Prifysgol Bangor yn yr adrannau sydd dan fygythiad. A chymryd yr Adran Addysg a’r Adran Gymraeg allan o’r darlun y mae’r ffigwr yn nes at 40%. Mewn gair, bydd cau yr adrannau yma yn golygu cwymp syfrdanol yn nifer myfyrwyr cyfrwng Cymraeg Prifysgol Bangor. Esboniwyd eisoes mae prif ddarparwr presennol addysg Gymraeg yng Nghymru ydy Bangor ac felly mewn cyfnod lle mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i ehangu’r ddarpariaeth ar lefel genedlaethol maen drist gweld y prif ddarparwr bresennol yn rhwyfo’r ffordd arall. Dylid gwneud yn siŵr fod yr Is-Ganghellor newydd wedi ymrwymo i warchod y ddarpariaeth bresennol ac maen bur debyg y bydd rhaid gwarchod yr adrannau sydd dan fygythiad i wireddu hyn.

Yn ogystal a dysgu ac ymchwil cyfrwng Cymraeg y mae Prifysgol Bangor yn flaengar yn ei gweinyddiaeth dwyieithog. Er fod pethau ddim yn berffaith y mae gweinyddiaeth a gwasanaethau myfyrwyr drwy’r Brifysgol yn drwyadl ddwyieithog. Y mae hyn wrth gwrs yn adlewyrchu realiti ieithyddol Gogledd Cymru, y cymunedau hynny y mae’r Brifysgol yn bodoli i’w gwasanaethu. Yn naturiol mi fyddem ni felly yn eich annog i benodi Is-Ganghellor sydd wedi ymrwymo i gryfhau a datblygu cynllun iaith y Brifysgol a thrwy hynny warchod a datblygu Cymreictod y sefydliad ar yr ochr weinyddol yn ogystal ac academaidd.

Ein barn ni yw y bod yn rhaid i’r Is-Ganghellor newydd gael ymwybyddiaeth a phrofiad o weithio yn y cyd-destun Cymreig ac yn benodol ym maes datblygu addysg Gymraeg. Er y byddai hi’n fanteisiol ac yn ddelfrydol i’r Is-Ganghellor newydd allu siarad Cymraeg, ein barn ni yw fod agwedd a record bresennol yr Is-Ganghellor newydd tuag at y Gymraeg yn bwysicach nai allu i’w siarad.

Gan ddymuno dymuniadau da i chi gyda’ch gwaith o benodi’r Is-Ganghellor a chan ddisgwyl ymlaen i ddirprwyaeth o’r Gymdeithas gael cyfarfod ag ef neu hi yn fuan wedi’r penodiad i ni gael trafod datblygu dwyieithrwydd y sefydliad ac ehangu’r dysgu a’r ymchwil cyfrwng Cymraeg ymhellach.

Yn gywir iawn,

Rhys Llwyd

Is-Gadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Please follow and like us: