Bu llawer o sôn yn ddiweddar am ‘ddiwygio’ ein heglwysi ac am ‘ail-feddwl’ am rôl a phwrpas Cristnogaeth yn y Gymru gyfoes. Dymuniad rhai o weinidogion ac offeiriaid ein heglwysi yw llusgo ein Cristnogaeth o gysgod ein gwaddol Brotestannaidd-Galfinaidd, lle bu’r eglwys, yn eu tyb hwy’n gwywo ac yn ymdrybaeddu yn ei gorffennol amherthnasol. Yn Y Goleuad yn ddiweddar datganodd Aled Jones-Williams bod rhaid i ni ysgwyd yn rhydd o ddylanwad negyddol ceidwadaeth uniongred R. Tudur Jones a chrybwyllodd blot gan efengylwyr i ‘heijacio’ Eglwys Bresbyteraidd Cymru! Ensyniadau diddorol tu hwnt! Ai rheitiach fyddai i Aled Jones-Williams a Dan Brown, (y Da Vinci Code) greu campaith llenyddol wedi’i sylfanu ar y conspiracy theory hynod yma? Ac ni ddylid anwybyddu gyfraniadau ffwndementaliaid di-gred fel Iolo ap Gwyn i’r ddadl. Yn wyneb y fath fwydro sy’n gwneud dim ond cymhlethu meddyliau Cristnogion heb son am y rhai sy’n chwilio am y gwirionedd, pa beth gwell i’r Cristion ei wneud ond troi yn ôl at air Duw ac edrych ar y Beibl trosom ni ein hunain? Wedi’r cyfan, dyna sut y digwyddodd pob gwir-ddiwygio yn Hanes yr Eglwys – pobl yn edrych y tu hwnt i draddodiad a thuedd eu hoes a mynnu dychwelyd at ffynnon y dŵr bywiol, a darganfod o’r newydd, neges oesol-gyfoes efengyl Iesu Grist.
Yng nghyd destun y Diwygiad Protestannaidd mae i’r Epistol at y Galatiaid arwyddocâd arbennig. Yn ôl yr hanes, drwy fyfyrio ar neges yr Epistol hwn y gwelodd Martin Luther ragrith Gristnogaeth sefydledig Ewrop ei oes ac, fel y Galatiaid, sylweddoli bod angen i’r Eglwys droi yn ôl at bregethu gwir efengyl Crist – efengyl gras a hynny yn unig – yn hytrach nag efengyl â dôs go lew o weithredoedd a defodau ynddi hefyd. Felly yn yr ysgrif hon carwn fwrw golwg dros rai adnodau o’r bennod gyntaf o Galatiaid. Rwyf am ganolbwyntio ar adnodau 6 i 9 sy’n dwyn y teitl ‘Nid Oes Efengyl Arall’ yn y Beibl Cymraeg Newydd.
Wrth gyfarch y Galatiaid yn yr adnodau agoriadol (1-5) mae Paul yn datgan fod y geiriau mae’n eu ynganu yn rhai sy’n dod ‘…trwy awdurdod Iesu Grist.’ Mae’r llythyr felly yn haeddu ystyriaeth deg oherwydd geiriau ysbrydoledig ydynt. Daw’n amlwg yn y chweched adnod fod y Galatiaid wedi crwydro oddi wrth efengyl Crist. Y mae Paul yn mynd mor bell ac awgrymu fod y Galatiaid fel petaent yn bradychu Iesu eu gwaredwr; mae’n synnu fod y Galatiaid wedi cefnu ‘…ar yr hwn a’ch galwodd chwi trwy ras Crist’. Mae’n bosib fod yna elfen o geisio anfon y Galatiaid ar guilt trip fan yma – ceisio gwneud iddynt sylwi nad efengyl rhywun rhywun y maen nhw wedi gwyro oddi wrtho, ond yn hytrach efengyl eu gwaredwr.
Tybiaf fod adnod saith yn arwyddocaol ac yn hynod berthnasol i ni heddiw. Mae Paul yn cydnabod nad yw’r Galatiaid wedi troi eu cefnau ar Gristnogaeth yn llwyr nac ychwaith wedi troi’n anffyddwyr neu coleddu crefydd amgen. Yn hytrach, maen nhw wedi gwyrdroi ac addasu’r efengyl i fodloni a diwallu eu anghenion eu hunain. Oni allwn ni weld hyn yn digwydd yn y Gymru hon: nid ymwrthod yn unig a Christnogaeth a wneir ond hefyd ymwrthod â Gair Duw fel y dymunai Duw i ni ei dderbyn. Glyna ein pobl wrth ‘Gristnogaeth’ ond y mae eu dehongliad o Air Duw yn dra wahanol i ddealltwriaeth ‘an-oleuedig’ Daniel Rowlands a Thomas Charles o ewyllys Duw ar ein cyfer.
Peth peryglus iawn a rhywbeth na ddylid rhuthro i mewn iddo yw honni mai eich dehongliad chi o destun Beiblaidd sy’n gywir a’ch dealltwriaeth chi o efengyl Crist yw’r unig ddehongliad posibl. Afraid dweud mai rhybudd rhag gwneud hynny a geir yn adnod wyth; nodir dwy ffynhonnell bosibl y gall gau-efengyl ddeillio oddi wrtho. Mae’n bosib mai’r ffynhonnell beryclaf yw ni ein hunain – mae’n bosib i’r unigolyn arddel dehongliadau anysgrythurol . Fel gyrru car dros gyfnod hir o flynyddoedd mae’n ddigon hawdd magu arferion gwael – mae’r un peth yn wir am ein ffydd ni – mae’n ddigon hawdd ychwanegu rhai o’n syniadau bach ni ein hunain gan gymhlethu gair syml Duw. Mae’n bosib gwyro oddi wrth y gwirionedd yn anfwriadol wrth i draddodiad ac arfer beri i ni golli golwg o’r Beibl. O bryd i’w gilydd fe ddylai bob un ohonom werthuso’n dehongliadau ni o Air Duw – edrych yn feirniadol ar ein dehongliadau a bod yn barod i gydnabod ein camgymeriad. Wrth ystyried ac efallai gwrthwynebu dehongliadau gwahanol i’ch dehongliad chi o’r efengyl maen llesol i ni oll wneud hunan-asesiad o’n dehongliad ni.
Yr ‘angel o’r nef’ yw’r ail ffynhonnell bosib o gau-efengyl. Nid oes cytundeb ymhlith esbonwyr ynghylch ystyr y cymal hwn, ond derbynnir mai’r esboniad mwyaf tebygol yw y dylid trafod unrhyw ddehongliad a honnir sydd wedi dod ‘o’r nef’ yn ofalus. Gellid edrych ar ddechreuadau’r Mormoniaid fel cyfeiliornad a ddechreuwyd wedi i’w sylfaenydd Joseph Smith honni iddo dderbyn datguddiad gan angel o’r enw ‘Moroni’ a ddywedodd wrtho lle y cai ganfod platiau aur a oedd yn sylfaen maes o law i Lyfr y Mormon oedd i’w ystyried yn lyfr awdurdodol sanctaidd. Nid yw honiadau o broffwydoliaethau yn rhywbeth cwbl ddieithr i ni’r Cymry; ceir adroddiadau lu o unigolion ac arweinwyr mewn cyfnod o fendith yn derbyn proffwydoliaethau a gweledigaethau. Rhaid gwahaniaethu rhwng proffwydoliaeth neu weledigaeth sydd a’i neges yn sylfaenol Feiblaidd a neges sy’n gyfeiliornad o neges efengyl gras Crist. Profwch yr ysbrydion, meddai Ioan yn ei Epistol Cyntaf, ac mae’n gosod safonau pendant iawn i’w profi.
Geiriau difrifol a sobreiddiol iawn a geir ddiwedd adnod wyth ac yn adnod naw. Mae Paul yn rhybuddio am felltith ddaw ar bawb sy’n pregethu efengyl a honno’n groes i efengyl Crist. Mae’n ddiddorol bod Paul yn ail-adrodd hyn ddwy-waith a hynny er mwyn pwysleisio’i bwysigrwydd. Mor ysgafn a ffwrdd a hi yw ein hagwedd heddiw at gymalau fel hyn o’r Beibl; ystyrir hi’n dderbyniol fod yna sawl dehongliad gwahanol o efengyl Crist i’w gael – yn wir, peth amheuthun ydyw. Mae gwirionedd yn rhywbeth absoliwt ac ni allaf i yn fy nghalon na’m rheswm dderbyn fod modd credu mwy nac un efengyl.
Beth a wnawn ni o hyn felly? Pa wersi sydd i’r Eglwysi a Christnogion Cymru heddiw yn yr adnodau yma? Maen gwbl glir o’r adnodau hyn mai dim ond un Efengyl sy’n bod, ac ni allaf i lai na llwyr gredu trwy ffydd mai efengyl gras Crist ydyw. Fel y dywedodd yr emynydd ‘Pa Dduw sy’n maddau fel tydi, yn rhad ein holl bechodau ni?’ Ni welaf i fod yr un ‘dealltwriaeth’ neu ‘ddehongliad’ newydd yn rhagori ar y cyfamod a wnaed unwaith ac am byth i achub defaid difancoll Duw, ‘nid ie a nage yw.’ Fel Paul, rhaid i ni bregethu efengyl gras yn ei symlrwydd a’i rym di-hafal i Gymru unwaith yn rhagor a rhoi’r gorau i athronyddu mewnblyg a hunandosturiol.