godisbackFe glywais i John Micklethwait, Golygydd yr Economist yn sôn ar rhyw raglen wythnos diwethaf am ei lyfr newydd ‘God is Back: How the Global Rise of Faith is Changing the World’. Yn dilyn y dadleuon ynglŷn a ffydd George Bush a Barrack Obama fe aeth e ati i ymchwilo i gael gweld pam fod America mor wahanol dim ond i ddarganfod mae Prydain a gwladwriaethau gorllewin Ewrop oedd wir yn wahanol gan fod gweddill y byd, fel America, yn parhau i roi rôl canolog i grefydd ym mywyd cyhoeddus eu gwledydd.

Pwynt diddorol arall wnaeth John Micklethwait oedd pwynto allan nad oedd George Bush mewn gwirionedd yn cynrychioli’r mwyafrif efengylaidd o fewn yr Eglwys Gristnogol ryngwladol ond yn hytrach ei fod yn cynrychioli’r lleiafrif ffwndamentalaidd. Barrack Obama mewn gwirionedd oedd yn cynrychioli’r mwyafrif efengylaidd o fewn yr Eglwys Gristnogol. Wrth gwrs fe ddaw hynny fel sioc i bobl oedd yn gweld Bush fel yr efengylwr ac Obama fel yr hiwmanydd. Ddim o gwbl bobl, roedd Obama yn anfon neges sicr allan pan ddewisodd Rick Warren fel caplan iddo.

Felly beth ydy’r gwahaniaeth rhwng Ffwndamentalwyr ac Efengylwyr? Fe ges i afael ar bamffled a gyhoeddodd R. Tudur Jones yn 1996 dan yr enw ‘Pwy yw’r bobl efengylaidd?’ ac ynddo mae siart fach daclus a defnyddiol yn pwyntio allan y gwahaniaethau. Dyma ni felly:

[table id=1 /]

Dros y blynyddoedd diwethaf dwi wedi bod yn trio osgoi cyfeirio at fy hun fel “efengylwr” oherwydd i bobl o du allan yr Eglwys fethu a gweld y gwahaniaeth rhwng “efengylwyr” a “ffwndamentalydd”. Ond gyda siart fel hon yn dangos y gwahaniaeth yn glir wela i ddim problem galw fy hun yn efengylwr yn y fan yma.

Please follow and like us: