Awgrymodd Nwdls yn gynt heddiw ar Twitter y byddai’n hi’n beth braf a da os byddai’r holl ddiddordeb a brwdfrydedd yn etholiadau’r UDA yn cael ei drosi i egni ac ymroddiad gwleidyddol yma o flaen ein trwynau yng Nghymru. Er mod i’n cytuno gyda Nwdls fe alla i weld yn ddigon clir hefyd pam fod apathi gan bobl yng Nghymru tuag at ein gwleidyddiaeth ni ein hunain er eu bod nhw’n dilyn etholiadau’r UDA ag awch anarferol.

Yn gyntaf dwi’n meddwl mae’r hyn sy’n gwneud etholiadau’r UDA yn arbennig o apelgar ydy’r ffaith fod pobl yn cael dewis du a gwyn. Mae Obama a McCain yn sefyll dros werthoedd cwbl wahanol ac yn anghytuno yn sylfaenol ar bynciau canolog bwysig fel dosbarthu cyfoeth, ariannu’r system iechyd, polisi egni a pholisi tramor. Mae medru gweld yn glir beth yw’r gwahaniaethau rhwng un ymgeisydd a’r llall yn sicr o fagu trafod a dadlau brwd ac iach ac fe all bawb, nid dim ond anoracs gwleidyddol, weld a thrafod y gwahaniaethau.

Mae ein sefyllfa wleidyddol ni yng Nghymru gyda’n diwylliant newydd o glymbleidio yn gwbl gwbl wahanol. Dydy pobl ddim yn cael dewis du a gwyn ond yn hytrach mae pawb yn llwyd. Mae gan bawb werthoedd ac fel Cristion dwi’n credu mewn absoliwts. Dwi yn credu mewn annibyniaeth i Gymru a dwi yn credu mewn hawliai iaith cyfartal a dwi yn cytuno gyda polisi economaidd wnaiff ddosrannu cyfoeth. Ond ar y llaw arall dwi’n cydnabod fod yna bobl nad sy’n credu mewn annibyniaeth ac fod yna bobl nad sy’n credu mewn hawliai iaith cyfartal ac fod yn bobl sy’n credu mewn marchnad cwbwl rydd gyfalafol. Ond er fod yr etholwyr yn dal gwerthoedd pendant o hyd nid oes gyda ni bleidiau gwleidyddol a gwleidyddion sy’n cynrychioli’r gwerthoedd pendant hynny fel y mae Obama a McCain yn cynrychioli pegynau pendant dadleuon sylfaenol.

Dwi’n meddwl fod angen i bleidiau gwleidyddol yng Nghymru a gwleidyddion Cymru fod yn fwy eglur ynglŷn a’r hyn maen nhw’n credu yn hytrach na bodloni ar fod yn “llwyd” er mwyn dal pŵer gwleidyddol a dylanwad tymor byr. Mi fydd y gonestrwydd i ddweud yn blaen lle rydych chi’n sefyll ar gwestiynau penodol yn debyg o enyn diddordeb pobl cyffredin (yn eich herbyn, cofiwch, yn ogystal ac o’ch plaid!) ac nid dim ond yr anoracs gwleidyddol. Dyna mae Obama wedi llwyddo i wneud a dyna sydd angen i ni fel Cymry wneud.

Please follow and like us: