ygwyll

Mae’n bosib fod Y Gwyll wedi’i heipio’n fwy nag unrhyw gyfres arall erioed ar S4C. Pwy all anghofio’r poster enfawr yna, cymaint ag ochr bws, ar stondin S4C yn y ‘steddfod eleni o Richard Harington yn syllu arnoch chi. Fe gymharwyd Y Gwyll ymlaen llaw gyda chyfresi fel The Killing – rhaid cydnabod mod i heb fod yn dilyn The Killing – felly wn i ddim a oedd y gymhariaeth yn deg. Ond rwy’n gwybod fod y cyfresi nordic-noir yn ‘dywyll’ ac yn ‘de-saturated’ eu teimlad – ac yn sicr dyna ddelwedd a theimlad Y Gwyll. Fel petasai’r cyfan yn dod atom ni drwy filter instagram – cool iawn – a graddio lliw arbennig gan bwy bynnag a fu wrthi yn ffilmio, graddio a golygu.

Mae rhai mwy craffus na mi wedi cwyno fod y storïau braidd yn nodweddiadol a bod yr euog yn rhy amlwg yn rhy fuan yn y stori. Ond i mi roedd y plot yn ddigon troëdig a chymhleth. Yr unig gŵyn sydd gen i am y plot oedd bod yr ‘arc’ rhwng bob rhaglen ddim wedi datblygu digon. Ond cafwyd digon o abwyd yn y rhaglen olaf i awgrymu y byddai’r ‘arc’ yn cael ei ddatblygu a’i ddatgelu’n fwy yn y gyfres nesaf.

Roeddwn i’n eithriadol o siomedig mae dim ond wyth pennod oedd i’r gyfres a ddim wir yn deall pam fod S4C wedi penderfynu rhedeg dwy bennod yr wythnos. Ar ôl yr holl heip dim ond am gwta fis oedd Y Gwyll ar y sgrin. Dylen nhw wedi sticio at bennod yr wythnos er mwyn estyn y gyfres allan am ddau fis o leiaf – ond mewn gwirionedd dylen nhw wedi bod ychydig bach yn fwy uchelgeisiol a mynd am gyfres hwy. Mae’n debyg mae arian yn y diwedd oedd yn barnu sawl pennod oedd yn cael ei gynhyrchu. Y teimlad roedd rhywun yn ei gael oedd bod y cynhyrchiad yma, yn wahanol i lawer o bethau Cymraeg eraill, heb dorri corneli ac wedi mynd am y gorau bob tro.

Rhaid canmol S4C a’r cwmni cynhyrchu am Y Gwyll. Ond, beth nesaf? Wythnos yma yn slots arferol Y Gwyll mae rhaglen ddogfen am Alcoholiaeth nos Fawrth ac yna nos Iau mae Pawb a’i Farn. Nol i business as usual felly, dim drama dda debyg o ran arddull a naws i’r Gwyll i ddisgwyl ymlaen iddo tan aeaf nesaf ar y cynharaf? A dyna golli canran fawr o’r gynulleidfa yn ôl i deledu Saesneg, gobeithio mod i’n anghywir.

Please follow and like us: