Roedd adroddiad brawychus yn y Telegraph heddiw yn dweud fod tua 300,000 o bobl yn marw bob blwyddyn eisoes o ganlyniad i newid hinsawdd. Roedd 325 miliwn o bobl eraill yn cael ansawdd eu bywyd wedi ei ddinistrio drwy weld cnydau yn methu. Dyma ddywedodd Kofi Annan, cyn benaeth y Cynhedloed Unedig:

Climate change is silent human crisis. Yet it is the greatest emerging humanitarian challenge of our time. Already today, it causes suffering to hundreds of millions of people, most of whom are not even aware that they are victims of climate change. We need an international agreement to contain climate change and reduce its widespread suffering.

Ddim mod i am ddifrïo na dangos unrhyw amharch i rheini gollodd eu bywydau yn 9/11 ond maen syndod meddwl fod y dde yn yr UDA a’r dde-Efengylaidd gyda nhw wedi mynd ar grwsâd byd-eang a gwario dros $800,000,000,000 ers 2001 oherwydd fod 3,017 wedi colli eu bywydau ar 9/11.

Maen gwbwl amlwg mae newid hinsawdd ac nid terfysgaeth ddylai gael blaenoriaeth yr UDA os ydyn nhw wir yn credu mewn sancteiddrwydd bywyd ac fod bywyd yn rodd gan Dduw. Maen dda gweld fod Obama yn troi fymryn i’r cyfeiriad iawn.

Please follow and like us: