Mae pethau gwael ac anodd yn wynebu Cristnogion yn eu bywydau ac maen anghywir credu i’r gwrthwyneb. Mae yna rai mathau o Gristnogion sy’n dal y safbwynt health and wealth, mae rhai yn mynd mor bell ac amau ffydd Cristion sy’n dal afiechyd, yn dioddef o iselder neu’n mynd i drafferthion ariannol. Mae’r holl fusnes health and wealth yma yn afiach ac yn drist iawn. Mae’r Beibl yn dangos yn glir fod profedigaethau (h.y. eiliadau “life’s a b***h”) yn siŵr o godi ym mywyd y Cristion ac un o’r rhesymau ymysg eraill yw fod Iesu ei hun wedi gorfod wynebu cyfyngder. I ddweud y gwir fe wynebodd Iesu gyfyngder llawer mwy nag allwn ni ei amgyffred ac wrth edrych sut y deliodd Iesu a’i gyfyngder ef, sef wynebu’r Groes, y gallwn ni ddeall sut mae delio gyda’n cyfyngderau ni.
Â

"O Dad, y mae'r awr wedi dod..." Ioan 17
Yn Ioan 17 (John 17:1) mae Iesu mab Duw yn troi at Dduw’r Tad mewn gweddi gan wybod fod y groes a dioddefaint mawr o’i flaen. Geiriau agoriadol y weddi yw’r rhai allweddol i ni ddeall sut mae delio a chyfyngder: “O Dad,” meddai Iesu “y mae’r awr wedi dod.” A dyna ni, dyna yw’r geiriau syml sy’n allwedd i ddeall cyfyngder. Yr hyn mae Iesu yn gwneud yn syml yw cydnabod a derbyn fod yr awr, awr cyfyngder, wedi dod. Yn hytrach na gweddïo ar Dduw’r Tad am gymorth i osgoi’r awr mae Iesu yn wynebu realiti’r awr ac yn gweddio am nerth i’w wynebu. A dyna yw’r hyn maen rhaid i bawb, yn enwedig Cristnogion, ei ddeall. Rhaid i ni dderbyn fod cyfyngder mynd i godi yn ein bywydau a pharatoi mewn gweddi ar ei gyfer. Gwastraff amser ac egni yw gweddïo’n ddi-baid at Dduw i chi gael osgoi bob cyfyngder; rhaid derbyn fod cyfyngderau mynd i ddod i’ch wynebu a gofyn i Dduw eich paratoi a’ch calonogi i’w wynebu nhw yn yr ysbryd iawn.
Â
Mae’r methiant i ddeall arweiniad Iesu o sut mae delio a chyfyngderau yn ein bywydau yn broblem real. Maen broblem oherwydd fod ffydd y bobl hynny sy’n seilio eu ffydd ar eu gweddi i Dduw beidio dod a chyfyngderau i’w bywydau yn gweld eu ffydd yn syrthio’n fflat ar ei wyneb pan eu bod nhw yn colli eu swydd neu yn dal afiechyd. Ond os edrychwn ni ar esiampl Iesu roedd y Cristnogion hynny yn gweddïo’r weddi anghywir. Gweddi’r Iesu oedd “y mae’r awr wedi dod” nid “paid a gadael i’r awr ddod.”
Felly y neges yw hyn; maen rhaid i ni, fel Iesu, dderbyn fod awr her a chyfyngder yn siŵr o godi ei ben sawl tro yn ein bywydau ni ac felly rhaid gweddïo y bydd Duw yn ein cynnal a’n cysuro trwy’r profion hynny. Nid model Iesu oedd gweddïo i gael osgoi’r prawf yn gyfan gwbl. Y cysur yw fod Iesu wedi wynebu’r prawf eithaf a gwneud Iawn am ein llanast ni yn ei “awr” fawr ef sydd yn awr yn gymorth ac ysbrydoliaeth i ni wynebu ein oriau llai ni.