Mae na waith adeiladu wedi bod ar y Maes yng Nghaernarfon ers misoedd os nad blynyddoedd bellach. Ro ni lawr yna ddydd Gwener ac fe dynesi gyfres o luniau a’i rhoi at ei gilydd yn y llun panoramig yma:

Y Maes, Caerarfon
[cliwciwch arno i’w weld yn fwy]

Ar ôl yr holl waith mae’r cyfan yn edrych braidd yn ddiflas a di fflach yn dydy? Dim coed, dim gwyrddni, jest slabiau mawr (digon pert) llwyd yn llenwi’r lle i gyd. Maen well na tarmacio’r holl le amwni ond ar ôl yr holl waith byddai dyn wedi disgwyl gweld rhywbeth bach ychydig mwy gwreiddiol.

Please follow and like us: