Nid plaid yr “achos cenedlaethol” yw Plaid Cymru, ond plaid yr aelodau hynny o’r “achos cenedlaethol” sy’n credu mewn sosialaeth.

Yn ddiamheuol, un o ffigurau mwyaf lliwgar, ymfflamychol ac enigmatig y mudiad cenedlaethol yng Nghymru y cyfnod diweddar yw Dr. Seimon Brooks – sylfaenydd y cylchgrawn hwn, cyn-olygydd Barn a bellach yn ddarlithydd mewn Beirniadaeth a Theori Lenyddol yn Adran y Gymraeg, Caerdydd. Er mai dim ond crwt wyth mlwydd oed ydoedd pan wrthododd Gymru fesur o ddatganoli yn 1979 a thaw dim ond pymtheg ar hugain mlwydd oed ydyw yn awr, credaf bod ei ddylanwad fel meddyliwr, ac yn bennaf fel golygydd y cylchgrawn Barn, yn haeddu ychydig crafu pen yn ei gylch. Yn yr ysgrif hwn bwriadaf nodi’r cerrig milltir hynny yn ei bererindod o’i grwydriadau o adain chwith y mudiad cenedlaethol i’w ddatganiad diweddar ei fod yn Genedlaetholwr ‘an-heddychlon’ sydd a chydymdeimlad a’r Ceidwadwyr Cymreig. Fe ymddengys ei fod bellach yn genedlaetholwr adain dde gymedrol. Erbyn diwedd yr ysgrif gobeithiaf brofi, gyda Brooks fel tystiolaeth o hynny, fod ‘cenedlaetholdeb’ yn ideoleg aml begynol – hyd yn oed o fewn cenedl mor fach â Chymru.

Cyfeiriais eisoes at Brooks fel enigma, ac oherwydd hynny, a’r ffaith iddo fod yn ffigwr cyhoeddus am gyfnod gweddol fyr, roedd hi’n sialens mynd ati i osod ‘cod enigma Brooks’ mewn cyd-destun ehangach. Mae’n anorfod felly y bydd swm a sylwedd yr ysgrif hwn yn dibynnu’n helaeth ar fy nehongliad i o ffynonellau cynradd – ysgrifau, pamffledi a datganiadau cyhoeddus Brooks. Yn ogystal bwriadaf gyfeirio at theori Michael Freeden yn ei ysgrif ‘Is Nationalism a Distinct Ideology?’ (Political Studies’ XLVI, Rhydychen: Blackwell, 748-765) gan ddal llun peledr-x o genedlaetholdeb Brooks yn erbyn golau llachar Freeden a cheisio gweld os yw Freeden yn cynnig diagnosis gywir o genedlaetholdeb Brooks.

Un o’r cwestiynau creiddiol yn yr astudiaeth o genedlaetholdeb yw ‘sut mae arweinydd/meddyliwr yn diffinio’r genedl?’ Wrth drafod cenedlaetholdeb dro ar ôl tro yn ei ysgrifau yn Barn y mae’n arwyddocaol nad yw’n delio gyda’r cwestiwn creiddiol hwn o gwbl. Yn hytrach, tueddiad a diddordeb Brooks yw osgoi trafod hanfodion cenedlaetholdeb (Pwy yw’r Cymry? Ble mae Cymru? ayyb…) a neidio’n syth at yr hyn a elwir gan Freeden yn ‘mainstream ideologies’ megis ceidwadaeth, rhyddfrydiaeth a sosialaeth. Trwy roi sylw parhaus i ddisgwrs y ddadl ‘cenedlaetholdeb Gymreig chwith’ yn erbyn ‘cenedlaetholdeb Gymreig dde-gymedrol’ mae Brooks yn cadarnhau’r honiad yma gan Freeden; ‘[nationalism] … is incapable of providing on its own a solution to questions of social justice, distribution of resources, and conflict-management which mainstream ideologies address.

Gadewch i mi yn awr eich tywys ar hyd taith bererindod Brooks o’r chwith i’r dde – y newid! Y peth cyntaf i nodi cyn trafod syniadaeth wleidyddol Brooks yw’r ffaith iddo gael ei fagu’n Gymro alltud, a hynny yn Llundain. Yn ogystal â pherthyn i fudiad cenedlaethol ‘lleiafrifol’ mae Brooks yn tarddu o’r hyn y mae ef yn ei alw’n ‘leiafrif ethnig’ mewn dinas gosmopolitan. Mae’n ddiddorol nodi nad yw Brooks, fel arweinydd meddyliol cenedlaetholgar, yn eithriad wrth gael ei fagu neu ei addysgu’n alltud. Un o Gymry Lerpwl oedd Saunders Lewis ac o gymryd enghraifft o genedl wahanol gellid edrych ar Gandhi fel arweinydd a ddaeth o hyd i’w argyhoeddiadau cenedlaetholgar tra’n alltud yn Ne Affrica a Lloegr cyn dychwelyd i’r India. Tybed oes gwirionedd i’r ddihareb ‘gorau Cymro Cymro oddi gartref’? Tybed?

Ysywaeth, yn ystod ei fisoedd cyntaf fel golygydd Barn ymddangosai Brooks yn gyfforddus yn rhengoedd y mudiad cenedlaethol adain chwith – ym mhrotest Cymdeithas yr Iaith ac ym mhleidlais Plaid Cymru. Ym Mawrth 1997 mae’n nodi bod ganddo gydymdeimlad â sosialaeth Cymdeithas yr Iaith. Ychydig o fisoedd yn ddiweddarach ym Mehefin 1997 mae’n nodi: ‘Mi ydw i, wrth gwrs, yn sosialydd, ond rwyf hefyd yn credu bod arddel syniadau adain dde yn safbwynt teg a chwbl urddasol i wleidydd ymgymryd ag ef.’ Mae’r dyfyniad yma yn un diddorol oherwydd ar y naill law mae’n datgan yn glir ei fod yn sosialydd ond ar y llaw arall dengys ei fod yn gydymdeimladol iawn â’r dde gymedrol. Credaf bod ail hanner y frawddeg yn broffwydol iawn.

Yn Eisteddfod Môn 1999 gwahoddwyd ef i draddodi darlith a’r testun a ddewisodd oedd ‘Ceidwadaeth a’r Gymru Newydd’ – darlith sydd bellach wedi cael ei chyhoeddi. Er iddo nodi ar ddechrau’r ddarlith ei fod ‘…am ei wneud yn gwbl glir nad yw’r daliadau y bydd yn eu pledio yma yn rhai y mae o ei hun yn eu harddel’, mae’n gwbwl amlwg yn fy marn i, bod ganddo gydymdeimlad â’r dde-gymedrol genedlaetholgar erbyn 1999. Bellach mae ef ei hun yn cydnabod hynny a gellir dadlau bod y ddarlith a draddododd yn 1999 yn hunanasesiad yn ogystal â bod yn astudiaeth oddrychol academaidd. Dywedodd yn ddiweddar; “Wel, dyw’r “dröedigaeth” [o’r chwith i’r dde] ddim mor sydyn â hynny. Gweler fy mhamffled, Ceidwadaeth a’r Gymru Newydd a oedd yn Ddarlith Cymru Heddiw yn y Steddfod yn 1999… Felly, mae’n annheg dweud fy mod wedi newid fy meddwl fan hyn [yn 2006]. Rwyf wedi bod yn meddwl am y broblem hyn, nad oes lle naturiol i genedlaetholwyr adain dde cymedrol ers 1999.” (maes-e.com, 17.2.2006 )

Gwelir yn glir bod ei ddrwgdybiaeth o genedlaetholdeb chwith Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith yn cryfhau wedi gwawrio’r mileniwm newydd. Mae’n galw am fudiad iaith newydd yn haf 2000. Noda: ‘…y mae bwlch mawr rhyngddynt [Cymdeithas yr Iaith a Bwrdd yr Iaith] y dylid ei lenwi gan fudiad iaith cyfansoddiadol’. Erbyn Tachwedd 2001 mae’n rhoi sylw mawr i Blaid Cymru Annibynnol ac yn dangos ei gefnogaeth glir i’r cysyniad o’r ‘Fro Gymraeg’; cysyniad y mae’r chwith-Genedlaetholgar wedi bod yn ei ffieiddio byth ers helynt Adfer yn y saithdegau a ffrae syniadol enwog R. Tudur Jones ac Emyr Llywelyn. O 2003 ymlaen mae’n cyfaddef i bob pwrpas bod y Blaid Geidwadol Gymreig yn dod yn fwy fwy atyniadol iddo. Yn ei golofn olygyddol yn Nhachwedd 2003 mae’n rhestru rhinweddau’r Ceidwadwyr Cymreig ac yn canu clodydd y gwladgarwyr sydd yn eu plith megis Glyn Davies a Guto Bebb. Ond pen llanw ei bererindod oedd ei ysgrif ‘Ceidwadaeth Gymreig’ a gyhoeddwyd yn Barn, Chwefror 2006. Ynddi mae’n dadlau ar ffurf rhestr deg pwynt ‘…beth fyddai manteision cael mudiad cenedlaethol yng Nghymru yn seiliedig ar geidwadaeth yn hytrach na radicaliaeth.’ Dyna ni felly wedi cyrraedd Tŷ Ddewi oblegid rhaid iddo ymuno â’r Ceidwadwyr Cymreig, wrth gwrs, cyn cyrraedd Jeriwsalem!

Diddorol yw sylwi bod ei genedlaetholdeb yn gyson trwy gydol ei bererindod – pa bynnag ideoleg ‘craidd’ arall y mae Brooks yn atodi. Yn eu hysgrif enwog ‘Why Do the Conservatives Always Do (even) Worse in Wales?’ (‘British Elections & Parties Review’, Llundain: Frank Cass, 2002) mae Wyn Jones, Scully a Trystan yn amlinellu’r ffaith bod y ceidwadwyr wedi methu yn etholiadol yng Nghymru am fod ganddynt y ddelwedd o fod yn blaid ‘Seisnig’. Felly mae’n arwyddocaol nodi nad troi’n unoliaethwr yn raddol, (sef y ddelwedd a gysylltir â cheidwadaeth yng Nghymru ), a wnaeth Brooks rhwng 1996 a 2006. I’r gwrthwyneb yn llwyr – mae Brooks bellach yn gweld ceidwadaeth fel modd i hybu ei genedlaetholdeb. Dywedodd; “Mae Papur Gwyn y Llywodraeth [Lafur] ar ddatganoli wedi dynodi eisoes beth yw pen draw cynlluniau cyfansoddiadol Llafur, cynlluniau a fydd ar y llyfr statud cyn yr etholiad nesaf. Nid oes dim mwyach i’w ennill o gael Llywodraeth Lafur yn Llundain, a bydd ei ffeirio am Lywodraeth Geidwadol o leia’ yn dod â phosibiliadau gwleidyddol newydd i Gymru.”

Mae Michael Freeden yn tynnu sylw at y ffenomenon o fudiadau a meddylwyr yn ‘defnyddio’ cenedlaetholdeb fel cyfrwng i hyrwyddo eu ideoleg craidd megis ‘rhyddid’. Roedd Mazzini o’r Eidal, a fu’n gryn ddylanwad ar arweinwyr cenedlaethol Cymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg megis Hiraethog, yn gweld cenedlaetholdeb fel cyfrwng i ryddid a chyfiawnder cymdeithasol; “…Do not beguile yourselves with the hope of emancipation from unjust social conditions if you do not first conquer a Country for yourselves; where there is no Country there is no common agreement to which you can appeal…” (Joseph Mazzini: “The Duties of Man” [Llundain: J.M. Dent, 1907], 53)

Yn ogystal â hyn yng Nghymru rhwng 1979 a 1997 gwelir bod aelodau o’r Blaid Lafur wedi troi i gefnogi datganoli – nid o reidrwydd am eu bod nhw wedi cael tröedigaeth genedlaetholgar ond am eu bod nhw’n gweld datganoli fel cyfrwng i lenwi’r ‘democratic deficit in Wales’. Ond yr hyn a welir yn syniadaeth Brooks yw’r gwrthwyneb i theori Freeden yn yr achos yma. Nid yw Brooks yn defnyddio cenedlaetholdeb i hybu ceidwadaeth, a deng mlynedd yn ôl nid oedd yn ei ddefnyddio i hybu sosialaeth chwaith. Yr hyn a welir yn ysgrifau Brooks yw mai ei genedlaetholdeb yw’r craidd a’i fod yn gweld ideolegau eraill, ceidwadaeth yn fwyaf ddiweddar, fel y cyfrwng gorau i hybu cenedlaetholdeb.

I orffen hoffwn ddod yn ôl at brif theori Freeden sef taw ideoleg ‘denau’ yw cenedlaetholdeb, ac ateb y cwestiwn a yw disgwrs syniadaethol Seimon Brooks yn brawf mai ideoleg ‘denau’ yw cenedlaetholdeb?. Mae Peter Alter yn ei lyfr ‘Nationalism’ (Llundain: Arnold, 1994) yn honni bod cenedlaetholdeb yn ‘…an extremely poor ideology and no match whatsoever for the great bodies of thought that constitute socialism or liberalism, the two other great ideologies…’. Wedi chwalfa refferendwm 1979 ni wyddai cenedlaetholwyr Cymreig ble i droi ac fel canlyniad aeth grŵp o aelodau blaenllaw Plaid Cymru ati i asesu’r posibiliadau. O ddarllen eu hadroddiad ‘Report of the Plaid Cymru Commission of Inquiry’ (Caerdydd: Plaid Cymru, 1981) gwelir bod yr awduron yn cydnabod i bob pwrpas bod theori Freeden ac Alter yn gywir. Noda’r adroddiad;

…Some party members are content with a general statement of nationalist philosophy… Others feel that if we are to continue to fight elections, we must present a programme of action which demands detailed policies relating to both local, national and international issues…

…The basic argument within the party is not whether detailed policy statements and objectives are desirable… but rather whether they should emanate from pragmatic attitude towards social or economic matters or from a more indentifiable stance on the right/left political spectrum…

Felly yr hyn a welir yn yr adroddiad uchod yn ogystal ag yn nisgwrs Seimon Brooks ynglŷn a gobeithion ac anobeithion cenedlaetholdeb ar ffurf sosialaidd neu geidwadol, yw prawf bod rhaid i genedlaetholdeb, fel y dywed Anthony D. Smith, gael ei ‘…filled out by other idea-systems’. I grynhoi, credaf fod Freeden yn gywir yn ei gyhuddiad bod cenedlaetholdeb yn ideoleg ‘denau’ na all sefyll, yn bragmataidd o leiaf, ar ei phen ei hun heb ychwanegu rhywbeth ychwanegol o ideoleg arall. O ddal pelydr-x o genedlaetholdeb Brooks yn erbyn golau llachar Freeden mae ei gyfeirio a’i gysylltu parhaus ag ideolegau eraill yn dyst fod cenedlaetholdeb yn ideoleg ‘denau’. Er fy mod i’n derbyn dadl Freeden, gyda chenedlaetholdeb Gymreig yn brawf o fy mlaen i o hynny, rwyf yn anghytuno gydag ef yn ei ddefnydd o derminoleg. Ai ‘tenau’ yw’r gair gorau i ddisgrifio ideoleg sy’n mwynhau cefnogaeth eang o bob pegwn o’r sffêr wleidyddol ehangach? Buaswn i’n ffafrio ei alw’n ideoleg ‘aml-begynol’. Yn wyneb y realiti mai ideoleg ‘denau’ (er na hoffwn ei alw’n hynny) yw cenedlaetholdeb, gellir gwerthfawrogi dadl Brooks nad yw hi’n beth iach i berson tenau gael ei lenwi gan un math o fwyd yn unig – rhaid cael diet gytbwys ac felly geiriau doeth yw rhai Brooks pan mae’n dweud ‘…mae’n rhaid inni gyd-ymdrechu er mwyn sicrhau y dônt [ceidwadwyr gwlatgar] yn rhan cyflawn a balch o’r genedl Gymreig.’

Mawrth, 2007

Please follow and like us: