Daeth y newyddion trist i’n rhan dydd Gwener fod y Parchedig Denis Young wedi ein gadael a mynd i’r gogoniant a hynny rai misoedd ar ôl dathlu ei 100. Bu Denis a’i briod Arfonia yn aelodau ffyddlon, gwerthfawr a gweithgar gyda ni am bum mlynedd ar hugain cyn iddynt ail-gartrefu i Aberystwyth yn fwy diweddar.
Bydd gan holl aelodau Caersalem atgofion melys iawn am ei gyfeillgarwch, ei hiwmor, ei fywyd gweddi heintus, ei bregethu adeiladol a gofalus, ei galon ddiolchgar a’r cyfan yn deillio o’i ffydd real a byw yn ei Arglwydd Iesu Grist.
Byddwn yn gwerthfawrogi ei feddwl chwim hyd y diwedd, ac yn cofio iddo bregethu ei bregeth olaf i ni mewn oedfa ar-lein yn ystod y Pandemig hyd yn oed. Bydd llawer ohonom yn cofio’n arbennig am ei faich dros efengylu a gwaith cenhadol hefyd, yn arbennig felly’r pwyslais roedd yn ei roi ar dystio rhagor na dadlau dros y ffydd – tystio am y cariad a’r maddeuant a brofasom gan Iesu i eraill.
Disgrifiodd R. Tudur Jones yr hen ymneilltuwyr fel ‘Cewri ar eu gliniau’ a dyna ddisgrifiad perffaith o’r cawr o ddyn ag oedd y Parchedig Denis Young. Dyn a wnaeth gyfraniad aruthrol i waith y Deyrnas yng Nghymru mewn sawl ardal dros ddegawdau ond dyn oedd wedi dangos yn ei fywyd ei hun ac yn ei arweiniad i eraill fod duwioldeb yn dechrau a gorffen ar lwybr gweddi. Diolch i Dduw amdano.
Rydym yn cydymdeimlo’n fawr gydag Arfonia, Einir a Llinos a’u teuluoedd.

