Roeddwn i’n darllen neithiwr am y Persbectif Newydd ar Paul. Mae’r persbectif yn gymhleth tu hwnt ac amhosib yw gwneud cyfiawnder a’r ddadl fan hyn ond yn gyffredinol gellid dweud fod y Persbectif Newydd yn cynnig trydedd ffordd o ddeall dysgeidiaeth Paul ar gyfiawnhad sy’n amrywio rhywfaint o ddealltwriaeth y Tadau Protestannaidd o gyfiawnhad trwy ffydd ond sydd eto yn gochel rhag cofleidio cyfiawnhad trwy weithredoedd. Sail dealltwriaeth amgen lladmerwyr y persbectif newydd yw ystyr y gair “ffydd” pan y’i defnyddiwyd gan Paul. Mae pobl y persbectif newydd yn dal fod y Groeg gwreiddiol, sef pistis, yn golygu rhywbeth sy’n nes at “ffyddlondeb” na “ffydd”. Felly er ein bod ni’n darllen, dyweder Effesiaid 2:8a fel hyn: “Trwy ras yr ydych wedi eich achub, trwy ffydd.” Mae’r persbectif newydd yn credu fod ei ddarllen fel a ganlyn yn nes at y gwreiddiol: “Trwy ras yr ydych wedi eich achub, trwy ffyddlondeb.”

Ar yr olwg gyntaf mae’r persbectif newydd yma’n ymddangos fel dim byd mwy na rhyw ymgais newydd i boblogeiddio cyfiawnhad trwy weithredoedd eto. Ond mae yna rhywbeth mwy cynnil a gwerthfawr yn cael ei ddadlau ganddynt dwi’n credu. Beth mae nhw’n dadlau yw fod “ffydd” heb ei ddeall fel “ffyddlondeb” yn cadw’r ffydd yn yr ymennydd yn unig. Mae gwir ffydd yn fwy na rhywbeth ymenyddol, rhaid iddo syrthio i’r galon a gweithio ei ffordd allan trwy weithredoedd. Dyma’r prawf mae Iago yn sôn amdano. Yr hyn sydd, dwi’n credu, yn cadw lladmerwyr y persbectif newydd oddi mewn i’r garfan uniongred ydy eu bod yn parhau i ddeall y “ffyddlondeb” yma yng nghyd destun gweddill Effesiaid 2:8 a 9 sef: “Nid eich gwaith chwi yw hyn; rhodd Duw ydyw; nid yw’n dibynnu ar weithredoedd, ac felly ni all neb ymffrostio.”

Dydw i erioed wedi astudio Groeg y Testament Newydd a cha i byth amser i wneud felly rwy’n dibynnu ar Gristnogion eraill yn y cyswllt hwn. Ond mae deall hyn yn iawn yn bwysig oherwydd fod yna wahaniaeth pwysig rhwng ar un llaw eglwys llawn pobl sydd a ffydd ymenyddol yn Iesu ond heb, efallai, adael hynny i dreiddio trwy eu bywyd; ac ar y naill law eglwys llawn pobl sy’n ffyddlon i Iesu oherwydd “rhodd Duw”.

Please follow and like us: