Un peth sydd wedi codi unwaith eto yn ystod etholiad arweinyddol Plaid Cymru yw’r cwestiwn am le’r Blaid ar y sbectrwm dde-chwith. Gyda Leanne yn glir ar y chwith, Adam efallai yn fwy tua’r canol erbyn hyn (er y byddai yn gwadu hynny!) â Rhun yn gwrthod cael ei diffinio yn ôl y sbectrwm dde-chwith draddodiadol.
Am sawl rheswm – personol a phroffesiynol – dwi ddim am ddweud yn gyhoeddus dros bwy fydda i’n pleidleisio – mae fy ffrindiau agos yn gwybod.
Fodd bynnag, dwi eisiau dweud rhywbeth am y ras a’r sgwrs o fewn y Blaid ar hyn o bryd. Felly pa beth well na rhannu rhywfaint am y sgwrs a fu rhwng R. Tudur Jones a Gwynfor un o’r troeon diwethaf i’r Blaid fod ar groesffordd – yn benodol gyda’r cwestiwn a oedd hi’n blaid ‘chwith’ neu’r blaid ‘trydedd ffordd’. Mae’r naratif, yn arbennig dylanwad Cristnogaeth ac arweinwyr Cristnogol ym Mhlaid Cymru wedi newid, ond eto mae’n rhoi blas i chi o wreiddiau rhai pwysleisiadau sydd dal i weld yn ideoleg a thraddodiad Plaid Cymru.
Rhai paragraffau allan o un o benodau fy PhD yw gweddill y blog yma…
Yn 1974, bu Tudur Jones yn ddylanwadol wrth i Blaid Cymru geisio penderfynu lle y safai ar y sbectrwm dde-chwith. Roedd Tudur Jones, fel Gwynfor, yn credu na ddylai Plaid Cymru ildio i rethreg yr oes, hynny yw datgan a oedd Plaid Cymru yn blaid “sosialaidd” ai peidio. Dywedodd Rhys Evans i Gwynfor ‘dan ddylanwad R. Tudur Jones… barhau i ddadlau mai’r ateb i Blaid Cymru oedd aros yn blaid ‘radical’ – plaid fyddai’n cyplysu cenedlaetholdeb a Christnogaeth…’. Gyda Gwynfor yn wynebu misoedd olaf ei lywyddiaeth hir roedd Tudur Jones, un o’i brif gynghorwyr, yn ddi-ildio ar y mater.
“I mi mae’r hen bwyslais ar gydweithrediad, ar gryfhau cyfrifoldeb bro ac ardal, ar geisio creu cymdeithas aml ganolog, gyda’r Wladwriaeth yn cymryd ei lle fel ffurf gymdeithasol ymhlith llawer o ffurfiau cymdeithasol eraill, a’r cwbwl trwy ei gilydd a chyda’i gilydd yn galluogi pobl i fyw’n rhydd a ffyniannus – i mi, mae’r athrawiaeth hon yn dal yn berthnasol. Ac mae hi hefyd yn athrawiaeth sydd, yn fy nhyb i, yn gorwedd yn esmwythach ar gydwybod y Cristion na’r un arall.”
Mae’r weledigaeth hon gan Tudur Jones yn adleisio dylanwad syniadaeth traddodiad yr Annibynwyr, sef y pwyslais ar osod cyfrifoldeb a hunanreolaeth i lawer o unedau bychain a lleol yn hytrach nac un uned fawr ganolog. Hefyd, gellir cyferbynnu’r weledigaeth hon gyda’r math o sosialaeth a oedd yn ei hamlygu ei hun ar y pryd yng ngweledigaeth yr adain chwith Brydeinig a Chymreig a hyrwyddai’r galw am genedlaetholi diwydiannau a’r angen am reoli’r economi’n ganolog. Hynny yw, math o sosialaeth a gynrychiolai werthoedd a oedd yn groes i bwyslais yr Annibynwyr ar sofraniaeth leol, ac yn fwyaf arwyddocaol roedd yn weledigaeth a filwriai yn erbyn y syniad o Gymru fel cenedl hunanreolus. Gwelwyd mwy o rinwedd mewn rheoli’r economi’n ganolog, ar lefel Prydain Fawr, gan bleidwyr sosialaeth. Mae hyn yn awgrymu rheswm posibl am ddrwgdybiaeth Tudur Jones o sosialaeth a’i wrthwynebiad i’r label ‘sosialaidd’ gael ei roi ar syniadaeth a pholisïau’r Blaid.
Gyda Phlaid Cymru yn ei chynhadledd yn 1981 yn ethol Dafydd Wigley fel ei llywydd newydd cyntaf ers 1945 yn ogystal â derbyn y cynnig i’r Blaid fabwysiadu’r safbwynt ‘sosialaidd-gymdeithasol,’ dyma weld dylanwad Gwynfor, ac felly Tudur Jones, i raddau helaeth iawn, yn dirwyn i ben. Erbyn 1981 gwelwyd gan rai bod gweledigaeth a dylanwad Tudur Jones a’r Anghydffurfwyr yn fwyfwy amherthnasol gan iddynt lynu at weledigaeth a welsant fel un Gristnogol a hynny mewn Cymru oedd yn brysur yn cael ei secwlareiddio.
Yn 1981 cyhoeddwyd adroddiad Comisiwn Ymchwil i ddyfodol syniadaethol Plaid Cymru. Argymhellwyd y dylai’r Blaid ‘ymlynu wrth fath o sosialaeth ddatganoledig wedi ei seilio ar y gymuned.’ Yn ôl Richard Wyn Jones roedd hwn yn ddatblygiad arwyddocaol oherwydd ei fod yn ‘bwrw heibio ymdrech trigain mlynedd gan brif feddylwyr y Blaid i hepgor labeli chwith/dde wrth geisio ffordd amgenach o leoli ei hathroniaeth wleidyddol.’ Dangoswyd bod Tudur Jones yn un o’r meddylwyr hynny a oedd erbyn 1981 yn perthyn i orffennol y Blaid, o leiaf yn syniadaethol. Fodd bynnag, dadleuodd Richard Wyn Jones fod y pylu a welwyd ar ddylanwad Ymneilltuaeth Tudur Jones wedi peri i Blaid Cymru golli ei hunig droedle diogel ac ‘wrth i Anghydffurfiaeth ymddatod… aeth y troedle’n un cynyddol ansicr. Ond pa dir neu droedle cymharol sicr oedd ar gael i sefyll arno wedyn? Dyna ddeilema canolog Plaid Cymru… gyda sawl opsiwn amgen – sosialaeth? Ewrop? – yn profi’r un mor ansad.’
Difyr a synhwyrol. Dadansoddiad treiddgar. Cofio’n iawn am yr International Socialists yn Undeb y Myfyrwyr Bangor ers talwm – rhai oedd yn gwadu hawl bodolaeth i ni fel cenedl.