This post in English | Y cyfnod yma yn Saesneg

Bore ‘ma roeddwn i’n gwrando ar raglen Victoria Derbyshire ar BBC 5 Live. Ar y rhaglen heddiw roedd hi’n arwain trafodaeth fyw o Bromsgrove, Swydd Gaerwrangon yn trafod ymddiriedaeth pobl yn y drefn wleidyddol. Prif ffocws y rhaglen, yn ôl y disgwyl, oedd sgandal dreuliau’r aelodau seneddol. Roedd pawb yn y gynulleidfa yn gwbl gandryll ohyd.

Mae’n debyg y bydd y sgandal dreuliau yn effeithio’n drwm ar yr etholiad yma. Dydw i ddim yn siŵr iawn pwy fydd yn elwa allan o hyn. Yn anffodus mae’n debyg na fydd yr un plaid yn elwa ond yn hytrach y bydd mwy o bobl eto fyth yn penderfynu peidio pleidleisio o gwbl; mae hyn yn anffodus iawn. Ond o safbwynt Cristnogol mae’n ddiddorol nodi fod gan y Beibl rhywbeth i ddweud am y sgandal dreuliau.

Un o fy arwyr politicaidd i yn hanes dynoliaeth ydy Nehemeia, yr athrylith fu’n arwain y gwaith o ail-adeiladu Jerwsalem oddeutu 445 BC. Mae llawer o bethau y gellid ei dweud am integriti Nehemeia fel arweinydd ond yr hanesyn bach isod sy’n berthnasol yn wyneb y sgandal dreuliau gyfoes.

Yr arfer yng nghyfnod Nehemeia oedd i lywodraethwyr gymryd gan y bobl a byw ar y bobl yn ôl eu mympwy eu hunain. Nid yn annhebyg felly i’r modd y datgelwyd y bo llawer o aelodau seneddol heddiw yn cam-drin y system dreuliau. Ond yn wahanol i ei gyfnod fe wrthododd Nehemeia y demtasiwn i sicrhau moethusrwydd bersonol ar draul y bobl. Mae’r hanes yn cychwyn yma ym Mhennod 5, adnod 14 o lyfr Nehemeia yn y Beibl.

14  Ac yn wir, o’r dydd y penodwyd fi yn llywodraethwr yng ngwlad Jwda, o’r ugeinfed hyd y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i’r Brenin Artaxerxes, sef cyfnod o ddeuddeng mlynedd, ni fwyteais i na’m brodyr ddogn bwyd y llywodraethwr.
15  Bu’r llywodraethwyr blaenorol oedd o’m blaen i yn llawdrwm ar y bobl, ac yn cymryd ganddynt bob dydd fara a gwin gwerth deugain sicl o arian. Yr oedd eu gweision hefyd yn arglwyddiaethu ar y bobl. Ond ni wneuthum i ymddwyn fel hyn am fy mod yn ofni Duw.
16  Atgyweiriais y mur hwn, er nad oeddwn berchen yr un cae, a daeth fy holl weision at ei gilydd yno ar gyfer y gwaith.
17  Yr oedd cant a hanner o’r Iddewon a’r llywodraethwyr, yn ogystal â’r rhai a ddaeth atom oddi wrth y cenhedloedd o’n cwmpas,
18  wrth fy mwrdd, fel bod ych, a chwech o’r defaid gorau, ac adar yn cael eu paratoi ar fy nghyfer bob dydd, a digon o win o bob math bob deg diwrnod; er hynny ni ofynnais am ddogn bwyd y llywodraethwr am ei bod yn galed ar y bobl.
19  Fy Nuw, cofia er daioni i mi y cwbl a wneuthum i’r bobl yma.

Yn Nehemeia fe gaw ni arweinydd gwleidyddol sy’n llawn integriti a gostyngeiddrwydd a hynny oherwydd ei fod yn byw i’w Dduw. Fe fyddai’r holl wleidyddion sy’n wynebu’r etholwyr dros yr wythnosau nesaf yn elwa’n fawr o ddilyn patrwm Nehemeia fel hyn.

Please follow and like us: