Dyma grynhoad bach o be dwi’n credu…

Gwreiddiau
Credwn yng ngwirioneddau canolog y ffydd Gristnogol hanesyddol, gwelwn ein hunain fel rhan o linach hir o bobl sydd wedi bod yn rhan o sgwrs ddiddiwedd rhwng Duw a dyn. Credwn fod y Beibl yn gôr o leisiau a ysbrydolwyd gan Dduw i drosglwyddo cerddi, storïau, adroddiadau, a llythyrau sy’n sôn am berthynas pobl â’i gilydd a’u perthynas gyda’r Duw byw. Er mwyn gwybod lle rydyn ni’n mynd, mae’n rhaid i ni wybod ble rydym wedi bod.

Taith
O dan awdurdod Crist credwn yn obeithiol y bydd Duw yn adfer yr holl greadigaeth. Credwn fod hi’n bwysig i bawb ystyried beth y mae’n ei olygu i fyw’r realiti yma heddiw. Rydym yn archwilio, cwestiynu, ac ymgodymu â ffyrdd newydd a chreadigol i fyw allan a chyfathrebu dysgeidiaeth Iesu. Oherwydd ein bod yn gweld ffydd fel taith, rydym ni’n disgwyl gweld amheuon, yn agored i gwestiynu, ond yn gobeithio gweld bywydau yn cael eu hail-eni.

Cyfanrwydd
Credwn fod Duw eisiau creu dynoliaeth newydd drwy adfer pob rhan ohonom ni. Cofleidiwn yr iachawdwriaeth mae Iesu’n cynnig fel yr unig obaith i adfer ein perthynas â Duw, ein gilydd, ein hunain, a’r greadigaeth. Credwn fod bywyd yn gyfan yn ysbrydol, a bod modd i’n holl ofnau, methiannau, a’n tor-calon gael eu hadfer a’u gwneud yn gyfan eto yng Nhrist. Rydym ar daith integredig sy’n cyffwrdd a’n meddwl, ein corff, ein henaid, ein hemosiynau a’n profiadau sy’n cael eu clymu at ei gilydd yn ein perthynas a Duw.

Cymuned
Gwelwn ddelw Duw ym mhob person, ym mhob man. Credwn ein bod wedi ein creu i fyw gyda’n gilydd, i gario beichiau’n gilydd, i rannu eiddo, i weddïo a chydnabod ein pechodau, ac i ddioddef a dathlu gyda’n gilydd. Yn y perthnasau gonest a chariadus yma mae Duw yn ein trawsnewid ac mae gwirionedd yn dod yn realiti. Ni allwn fod yn ddisgyblion i Iesu ar ein pennau ein hunain.

Gwasanaethu
Credwn mai Iesu yw Duw ar ffurf dyn a bod yr Eglwys heddiw yn dystiolaeth barhaus o bresenoldeb Duw yn y byd. Dan arweiniad yr Ysbryd Glan, rydym ar dân i frwydro yn erbyn anghyfiawnder ac i leddfu dioddefaint, i ymuno â Duw’r gorthrymedig wrth fyw neges drawsnewidiol atgyfodiad Iesu. Mae Iesu’n galw ar ei Eglwys i fod yn rym daionus yn y byd, ac fe gredwn fod yr Eglwys ar ei gorau pan fo’n gwasanaethu, yn aberthu, yn caru, ac yn cyfri’n bwysig y pethau y mae Duw ei hun yn ei gweld yn bwysig. Credwn ein bod ni wedi ein creu i fyw dros rywbeth llawer mwy na ni ein hunain.

Dathlu
Mae’n destun llawenydd dwfn ein bod ni’n cael y fraint o gynorthwyo Duw i newid y byd, i gofleidio’r gwir, ac i wynebu yfory mewn gobaith. Credwn fod Duw yn gwahodd pawb ym mhobman i’w dderbyn mewn ffydd ac i ddechrau ar y ffordd newydd o fyw, ac fe gredwn ni mae dyma sut mae byw bywyd i’r eithaf.

Please follow and like us: