Roedd gwylio Y Sŵn nos Sul y Pasg yn bleser pur, yn arbennig felly gan ein bod ni adref yn Aberystwyth am noson ac felly roedd modd ei wylio ar yr aelwyd lle y’m magwyd yn sŵn S4C fy mhlentyndod. O Ffalabalam i i-Dot ac o iwfforia canlyniad refferendwm 1997 i dor calon methiannau pencampwriaeth y pum gwlad yn y 1990au, rhywsut S4C sydd wedi fframio stori bywyd cymaint ohonom. Roeddwn i rhy ifanc i gofio’r frwydr, ond eto wedi fy magu ym mytholeg y chwyldro.
I nifer ohonom sy’n ymddiddori mewn syniadaeth cenedlaetholdeb roedd darlledu’r ffilm fel pinacl y Pasg ar S4C yn eironi na ellid peidio ei nodi. Ffilm am aberth oedd hi yn y bôn, aberth y tybid roedd rhaid ei chyflawni i achub! Dadl Gwynfor oedd nad brwydr dros sianel deledu oedd hi mewn gwirionedd oedd brwydr dros enaid y genedl. Wel, mae hynny’n ddweud mawr, ac allan o gyd-destun yn gableddus hyd yn oed. Ond eto, rhaid cofio heb genedl Gymreig yna darfu’r eglwys a’r traddodiad Cristnogol Cymreig – ni cheir un heb y llall. Ffilm am aberth a bywyd newydd – pregeth Basg anfwriadol Roger Williams a chomisiynwyr S4C i ni eleni.
Un peth oedd yn dod drosodd yn gryf yn y ffilm oedd pa mor dywyll ei bersbectif oedd Gwynfor yn dilyn methiant refferendwm 1979. Roedd y siom enfawr yna yn gysgod dros y cyfan. Mewn ffordd nid annhebyg i sut roedd cysgod ‘79 yn gysgod dros gyfrolau ‘Godfather’ Llys Llangadog, R. Tudur Jones, pan gyhoeddodd ddwy gyfrol ‘Ffydd ac Argyfwng Cenedl’ ddechrau’r 1980au. Cyfrolau gwirioneddol arbennig a phroffwydol, ond cyfrolau fyddai yn edrych ychydig yn wahanol pe taent wedi eu cyhoeddi yn dilyn refferendwm 1997 rwy’n amau.
Gellid dadlau fod S4C yn un o’r sefydliadau modern seciwlar Cymraeg yma ddaeth i gymryd lle’r eglwys a’r capel yn y meddwl a’r dychymyg Cymreig. Jeifin Jenkins yn cymryd lle Jubilie Young a Noson Lawen yn cymryd lle’r Seiat Brofiad. Wrth fyfyrio am hyn daeth i’m cof y gyfres ‘Cymru Hywel Williams’ (yr hanesydd nid y gwleidydd) a ddarlledwyd degawd a mwy yn ôl. Roedd y rhaglen ar grefydd y Cymry yn arbennig o dda. Dadl Hywel oedd bod crefydd y Cymry wedi aberthu ei hun ar allor diwylliant – gweithred ddi-ddigolch nodweddiadol Gristnogol gan israddio Crist i fod yn weithiwr cymdeithasol. Roedd Hywel yn cyffredinoli braidd, ond eto roedd yn cyffwrdd ar rywbeth pwysig y cawsom ein hatgoffa ohono yn Llanw wythnos yma sef fod gan frwydro am annibyniaeth ei le, a bod gweithio a gobeithio am filiwn o siaradwyr Cymraeg yn rhywbeth digon anrhydeddus ond eto: ‘pa lesâd i ddyn, os ennill yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun?’
Nodyn wrth basio, roedd hi’n wych clywed wythnos yma fod fy ffrind Cory Hampton yn gwneud doethuriaeth (yn rhannol) am J.E. Daniel, neu o leiaf yn gwneud dehongliad ôl-Barthiaidd o gyflwr eglwysi Cymru gyda Daniel fel rhyw fath o dywysydd. Roedd Daniel, fel Tudur Jones a Gwynfor yn arweinwyr Cristnogol a welai’r frwydr genedlaethol fel estyniad bron o’u cenhadaeth Gristnogol ac fe gofiais am y geiriau yma a rannodd R. Geraint Gruffydd am J.E. Daniel unwaith:
“’R wy’n cofio Daniel yn dweud wrthyf unwaith ddau beth, sef (a) fod galwad cenedlaetholdeb arno wedi ei droi oddi wrth ddiwinydda; a (b) nad oedd yn ddrwg o gwbl ganddo am hynny. Arwydd yw hyn fod Daniel wedi gallu uniaethu’n llwyr yn ei feddwl alwad Crist arno â galwad Cymru…”
R. Geraint Gruffydd: Y Ffordd Gadarn – Ysgrifau ar Lên a Chrefydd (Pen-y-bont a’r Ogwr: Gwasg
Bryntirion, 2008), 260
Ac felly o ddod yn ôl at y ffilm, efallai fod Cymru mewn rhyw alltud ysbrydol ond wrth i ni ddathlu ffilm mor arbennig dros y Pasg gwae ni am anghofio beth oedd yn tanio dychymyg ac aberth Gwynfor a phwy oedd yr un a roddai’r Haleliwia yn ei enaid ar y diwedd. Nid gwneud eilyn o Gymru a’r Gymraeg oedd Gwynfor yn ei safiad, ond gwneud gwas ohoni at ddibenion uwch.