Cysgodion Clarach

Lleoliad: Clarach, ger Aberystwyth
Exposure: 0.008 sec (1/125)
Aperture: f/8
Focal Length: 18 mm
ISO Speed: 200

Er taw Mam, Cynan a fi ydy’r cysgodion roeddwn ni’n meddwl fod y llun yma yn ddelwedd wych o ddatguddiad Duw trwy ei greadigaeth. Dydy ni ddim yn gweld Duw yn uniongyrchol trwy ein synhwyrau, (gweld, clywed ayyb…) ond eto ‘dy ni’n gweld ei gysgod a’i ôl dros bopeth. Yn Dad, yn Fab ac yn Ysbryd Glan.

Holl dyrfa’r nef a gân
Mewn diolch yn gytûn
I’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân –
Eu mawl sydd un:
O henffych, Iôr di-lyth;
Clodforaf gyda hwy
Dduw Abraham a’m Duw innau byth
Heb dewi mwy.

Robert Williams (1804-55)

Please follow and like us: