Ces flas arbennig wrth ddarllen ‘Y Tri Llais’ gan Emyr Humphreys wythnos yma. Dyma fersiwn Gymraeg o ran o’i nofel enwog Saesneg ‘A Toy Epic’. Ceir hanes tri ffrind yn dod i oed yn yr 1930au, ond portread ydyw hefyd o Gymru’n newid ac ymgodymu a’r byd modern, yn colli sicrwydd yr hen Gymru anghydffurfiol a chysgod rhyfel yn agor o’u blaen. 

Mae’n nofel Farcsaidd hefyd sy’n dangos dyraniad dosbarth cymdeithasol gwahanol y bechgyn a sut roedd hynny’n effeithio eu golwg ar y byd. Un ohonynt, y disgleiriaf yn naturiol, yn blentyn dosbarth gweithiol o dŷ cyngor ond er ei alluogrwydd darfu i’w amgylchiadau beri iddo beidio disgleirio yn y diwedd. Un ohonynt yn fab fferm ac yn anghydffurfiwr efengylaidd ei naws a’r trydydd yn fab i’r Ficer yn cael ei fagu mewn byd mwy Seisnig ond wrth ddod i oed wedi ei radicaleiddio i fod yn genedlaetholwr Cymreig. 

Mae’n nofel hiraethus, hyd yn oed yn alarus am y shifft ieithyddol ac ysbrydol a geir wrth golli lle’r Gymraeg a lle’r cadernid Cristnogol yn y gymuned ddychmygol hon sydd, ysywaith, yn amlwg seiliedig ar ardal Y Rhyl, bro enedigol yr awdur. Mae’r byd modern sy’n agor i’r tri ffrind (a’u gwlad) yn llawn potensial ond yn gymysg gyda’r amheuaeth a’r ansicrwydd sy’n dod o ollwng gafael ar yr hyn a fu, a’u ffydd yn y ffau. A’r frawddeg derfynol iasol: “Roedd y ddaear yn troi cyfandir newydd at yr haul, ac yn dangos i ni y tywyllwch eithaf.”

Ond… o blith dosbarth Ysgol Ramadeg Y Rhyl y cyfyd yr awdur ei hun, Emyr Humphreys – ein hawdur mwyaf (yn Saesneg o leiaf) yn ôl rhai, ei gyfaill bore oes R Tudur Jones ein hanesydd a’n diwinydd mwyaf a John Houghton y gwyddonydd a dry sylw’r byd at argyfwng cynhesu byd eang am y tro cyntaf! Oes unrhywbeth da wedi dod o’r Rhyl? Oes! A dyma nofel i ddathlu magwrfa’r mawrion hyn.

Mae’n debyg mai ambell i berl gan yr anghydffurfiwr gwerinol Iorwerth Hughes ddaliodd fy sylw i yn fwyaf. Dyma ei ddisgrifiad o’r gwasanaeth cyntaf wedi iddo gyrraedd yr Ysgol Ramadeg:

“Ceir gwasanaeth byr yn Saesneg. Canwn dôn gyfarwydd ar eiriau Saesneg anghyfarwydd. Ni bûm erioed mewn gwasanaeth crefyddol yn Saesneg o’r blaen. Darllenir gweddi allan o gyfrol fain gan y Prifathro. A dyna’r tro cyntaf i mi glywed neb yn darllen gweddi. Maen gwbl amlwg ‘mod i ar drothwy byd newydd.”

Cofiaf yn iawn o fy magwraeth fy hun pa mor estron oedd addoliad Saesneg a hyd heddiw mae’n debyg y byddwn yn gallu cyfri ar ddwy law sawl gwaith dwi wedi bod mewn oedfa Saesneg. Cofiaf hefyd edrych i lawr rhyw dipyn ar Gristnogion oedd yn darllen gweddïau, fel pe tasai’n arwydd o ddiffyg gwir ffydd a diffyg ysbrydolrwydd. Dim ond gweddïo o’r frest roedden ni’n gwneud yn ein capel a’n traddodiad efengylaidd ni. Ond erbyn hyn rwyf wedi dysgu pwysigrwydd litwrgi a gweddïau wedi eu paratoi ymlaen llaw. Gwelais fod gweddïo o’r frest o un Sul i’r llall am flynyddoedd yn gallu bod yr un mor sych ac an-ysbrydol ag unrhyw litwrgi sych ac felly fod oedi i baratoi gweddi a litwrgi amserol ac ysbrydol iach ymlaen llaw yn ffurf sy’n fwy na derbyniol a ffyddlon i’r gwirionedd i’w ddefnyddio mewn addoliad cyhoeddus.

Darn arall difyr am Iorwerth Hughes oedd ei ddisgrifiad o’i deimladau a’u synnwyr o bwrpas a thynged mewn bywyd ar ôl iddo gael ei ofyn am y tro cyntaf i gymryd rhan yn yr oedfa ar nos Sul yn ei gapel:

“Caf ias o lawenydd wrth gerdded adref am llyfr emynau o dan fy nghesail, wrth ochr fy nhad, wedi tyfu bron cyn daled ag ef, ac yn trafod mewn llais dwfn newydd adnodau anodd o’r bumed bennod o’r epistol at yr Hebreaid.

Ac wedyn, ar ôl cyrraedd gartref, mynd o gwmpas i olwg yr anifeiliaid er mwyn arbed fy nhad. Dywedaf wrthyf fy hun, wrth groesi’r ysgubor i’r beudy, Wele fi, Iorwerth Hughes, Maesgwyn, a fferm o ddeg erw a phedwar ugain mewn trefn foddhaol er gwaethaf y dyddiau blin yn y byd amaethyddol. Wele fi, y teithiwr rhwng dau fyd, yn dysgu’n araf deg y wers o ddioddef, y mae rhaid i bob dyn dieithr ei dysgu yn ei dro. Yn y dref fawr ac yn yr ysgol, Israeliad ydwyf ar heolydd Babilon, yn gwrthwynebu dylanwadau estron, yn gofalu am allor yr unig Dduw byw, yn cydymffurfio’n allanol a phatrwm yr ysgol ar dref, ond yn fy nghalon yn gwbl ffyddlon i oruchwyliaeth arall, uwch.”

Ie wir, eto teimladau ac emosiynau y medra i uniaethu a hwynt. Rwy’n credu fod y syniad yma o “Manifest Destiny” sydd fel rheol yn cael ei gysylltu gyda’r tadau pererin aeth draw i America, yn syniad mewn rhyw ffurf sydd wedi bod yn gryf ymhlith anghydffurfwyr Cymreig hefyd, yn arbennig felly’r rhai ohonom o dras Galfinaidd! Y syniad ein bod wedi ein galw ar amser arbennig ac at ddiben arbennig. Yn gam neu’n gymwys, mae’n rhaid i mi gyffesu fod y syniad yma yn rhan o’m gwead i. Fe’i gwelwyd yn Evan Roberts ac fe’i gwelaf eto ymhlith efengylwyr iau ‘na mi, pawb yn siarad fel petaent am achub Cymru cyn pen y flwyddyn gyda dim byd ond eu ffydd heintus (a’u hymdrech hunanaberthol). 

Ar un wedd mae’n rhoi pwrpas, cyfeiriad ac urddas arbennig i fywyd rhywun; rhywbeth sydd ar goll ym mywydau nifer o bobl yn y byd modern sy’n gwybod pris popeth ond gwerth dim byd. Ond gall fod yn syniad hefyd sy’n gorchfygu rhywun, ‘crushing’ ys dywed y Sais, wrth ei fod yn rhoi gormod o bwysau ar berson. 

Wrth ystyried y blynyddoedd diwethaf lle rydw i wedi dioddef rhyw ychydig gyda phroblemau iechyd rwy’n credu efallai mai rhan o’r broblem yw bod y syniad iach o roi urddas, pwrpas a galwad uwch i fywyd rhywun yn gallu cael ei lygru rhywfaint wrth iddo fynd yn gymysg gyda ego. Yn wylaidd, cyffesaf mai dyma ran o fy stori i gan greu ohono’r synnwyr fod dyfodol yr eglwys ac yn wir tynged Cymru gyfan yn llwyr ddibynnol ar fy ymdrech i a’m cymrodyr. Yr hyn sy’n dilyn yn aml wedyn pan fo nerth ac iechyd yn pallu yw teimlad dwfn o stress a thristwch wrth golli dycnwch ysbrydol, ac yna mae rhywun yn profi burnout fel y gwnes i. Wrth ddarllen y paragraff uchod gan Iorwerth Hughes, teimlais yr hyfrydwch o weld bachgen ifanc yn gweld y fath gynllun, pwrpas ac urddas i’w fywyd. Ond ar y llaw arall gwelais hadau “burnout” ymhen ugain mlynedd yn cael eu plannu hefyd!

Beth bynnag, roedd hon yn nofel arbennig iawn, yn nofel y gallwn uniaethu’n llwyr ag ef mewn sawl ffordd er i mi gael fy magu hanner can mlynedd yn ddiweddarach. Nofel sy’n deyrnged anrhydeddus i’r Gymru Gristnogol a’m creodd i.

Please follow and like us: