Mae gan bawb ei gyfrinach. Fy nghyfrinach i yr haf yma yw mod i wedi cymryd at chwarae Golff. Wn i ddim pam mod i’n galw’r peth yn gyfrinach o gwbl; amwni oherwydd fod yna rhyw stigma ynghlwm wrth chwarae golff yn union fel pe tasae fel cyfaddef eich bod chi wedi ymuno a’r Ceidwadwyr neu yn waeth byth eich bod chi’n mwynhau gwylio Star Trek: Next Generation. Dydy e, ar y cyfan, ddim i’w weld yn rhywbeth derbyniol i wneud. Ond fe synech chi faint o bobl sydd yn chwarae golff, yn betrusgar dyma fi’n sôn wrth rhai o’m ffrindiau mod i wedi dechrau chwarae golff a dyma nhw yn dweud eu bod nhw yn hefyd; a finnau’n gig-ddall i’r peth. Wrth i fi holi mwy o gwmpas daeth hi’n amlwg fod y rhan fwyaf o fy nghyfeillion yn chwarae neu wedi chwarae yn ddiweddar. Pam y stigma felly? Wn i ddim.

Sut dwi’n dod ymlaen? Wel, araf iawn iawn. Dwi’n chwarae ar gwrs hyfryd 9 twll Capel Bangor (am £6 y rownd) sydd a phar o 29. Tro cyntaf i fi chwarae a hynny ddechrau’r haf ces i sgor o 73. Dwi wedi cael fy sgor i lawr i 51 ond ddoe fe dderbyniodd cyfartaledd fy sgor glec reit hegar wrth i mi gael rownd ofandwy o 69. Dim ond un twll dwi wedi cael mewn par. Fy uchelgais i yw cael sgor 50 neu lai cyn rhoi y clybiau i gadw am y gaeaf.

Wrth gwrs rwy’n symud i Fangor ymhen rhyw wythnos ac fe fydda i yn gadael fy mhartneriaid chwarae yn ôl yn Aberystwyth. Os ydych chi’n Gymro (neu Gymraes wrth gwrs!) Cymraeg ac o safon nid anhebyg i mi (hynny yw sylfaenol iawn) yn byw yng nghylch Bangor cysylltwch a bydd rhaid mynd am rownd neu ddau unwaith y bydda i wedi symud fyny i’r Gogledd.

Please follow and like us: