Yn ddiweddar wnes i glywed Sally Mann yn siarad am y modd mae efengyliaeth (evangelicalism) fodern wedi dod i fod yn rhywbeth eithaf gwahanol i’r math o Gristnogaeth efengylaidd y cafodd hi ei magu ynddo heb sôn am be roedd y mudiad yn ei gynrychioli yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan oedd efengylwyr fel William Wilberforce ar flaen y gad yn ymgyrchoedd radical eu dydd, a hynny oherwydd eu ffydd efengylaidd nid er gwaethaf.

Aeth Sally Mann ymlaen i rannu am y gwewyr a’r tyndra heddiw rhwng teimlo bod yn rhaid taflu’r label i ffwrdd a’i anghofio ar un llaw, ond rhyw deimlad fod angen adfer ei enw da ar y naill. Ond mewn realiti ei bod hi, rhan fwyaf o’r amser, yn ceisio osgoi’r label yn llwyr.
Roedd profiad Sally Mann yn debyg iawn i fy mhrofiad i. Weithiau dwi eisiau anghofio am y label yn llwyr, dro arall dwi eisiau adfer ei enw da ond rhan fwyaf o’r amser dwi’n trio ei osgoi gan nad yw’n label gellid ei ddefnyddio heb cryn dipyn o esbonio.
1. Ni allaf ddianc rhag hon
Ond dydy ei osgoi ddim wir yn opsiwn i mi oherwydd er y pwyslais efengylaidd fod yn rhaid i chi gael eich ail-eni i fod yn Gristion nid oes rhaid i chi gael eich ail-eni i fod yn “efengýl” – mae’n label diwylliannol i raddau mae llawer yn cael ei eni i mewn iddo fel y gwnes i. Yn yr un ffordd ac mae gen i ffrindiau sy’n cyfri eu hunain yn Annibyns er eu bod heb dyllu capel annibynnol ers gadael ysgol. Cyn dod at yr hyn rwy’n ei gredu, rwy’n efengýl o ran fy nghefndir diwylliannol, dyna pwy ydw i – ni allaf ddianc rhag hon.
2. Label sy’n sticio
Yr ail reswm na fedra i ddianc rhag y label yw oherwydd ei fod yn sticio. Er nad ydy’r teitl efengylaidd yn agos i enw fy eglwys nac ar ein gwefan na’n llenyddiaeth dwi’n gwybod fod rhai yn adnabod ein heglwys fel “yr un efengylaidd” yn ein tref, er mawr ddoniolwch (a siŵr a fod balchder) i Mam! Hefyd, mae y byd Cymraeg yn fach: dim ond llynedd ges i nyrs yn Ysbyty Gwynedd yn fy nghyfarch fel y “boi o’r Gorlan” dros ddeg mlynedd ar ôl i mi weithio yn y Gorlan diwethaf a pymtheg mlynedd ar ôl iddi hi fod yn maes b diwethaf. Rwy’n gobeithio mod i wedi creu argraff am y rhesymau iawn … ond eto dwi ddim yn hollol sicr! Efengýl fydda i yn llygaid llawer am byth nawr dim ots lle aiff taith bywyd a fi a beth fydda i’n ei gredu! Mae’n label sy’n sticio.

3. Lle dwi’n teimlo ‘adre’
Y trydydd rheswm pam na alla i ddianc rhag y label yn llwyr ydy oherwydd er mod i’n aml yn teimlo ar ymylon y traddodiad efengylaidd, eto dyma yw’r adain o’r eglwys dwi’n teimlo’n fwyaf cyfforddus ynddi. Er ei brychau, rwy’n teimlo fod rhywbeth yma gwerth ymladd drosti.
Er mod i’n ffeindio fy hun yn aml yn cytuno gyda beirniadaeth traddodiadau Cristnogol eraill (gan gynnwys y traddodiad rhyddfrydol) o efengyliaeth dwi byth yn gyfforddus gyda lle mae traddodiadau eraill yn glanio ar ol cynnig beirniadaeth o broblemau Cristnogaeth efengylaidd. Dwi’n meddwl mai D.A. Carson esboniodd y peth orau drwy nodi fod Cristnogion efengylaidd a rhyddfrydol, fel ei gilydd, yn cam-ddeall a cam-ddehongli’r Beibl yn aml ond bod yna wahaniaeth ‘qualitative’ rhwng y ddau draddodiad. Mae y traddodiad rhyddfrydol yn taflu allan y Beibl yn llawer rhy hawdd tra fod y traddodiad efengylaidd, yn aml yn cam-ddehongli, a hyd yn oed pan fo’r dehongliad yn gywir fod yr ysbryd efallai ar goll, ond o leiaf bod y traddodiad efengylaidd yn ymdrechu i ymrafael a’r gwirionedd yn hytrach na bodloni ar ymgolli mewn amheuaeth a dirgelwch parhaus. A dyna pam mod i’n teimlo ‘adre’ ar begwn mwy agored y traddodiad efengylaidd yn fwy nag ar begwn mwy ceidwadol y traddodiad rhyddfrydol.
4. Traddodiad (dylai fod yn) eang
Y pedwerydd rheswm yw oherwydd mod i’n credu ei fod (neu o leiaf fe ddylai fod) yn draddodiad Cristnogol digon eang i gynnwys cryn dipyn o Gristnogion. Drwy ddewis canolbwyntio ar yr “hanfodion” fe ddylai fod yn draddodiad sydd wedyn yn rhoi mwy o ryddid pan mae’n dod i bethau sydd ddim yn cael eu hystyried yn hanfodol. Mae pwyslais mawr ar y dylai yn y pwynt yma oherwydd mewn realiti rwy’n gwybod nad ydy rhai Cristnogion efengylaidd yn fy ystyried yn un ohonyn nhw bellach; nid oherwydd fy nghredo am bethau hanfodol ond oherwydd mod i’n credu y dylai merched bregethu, a materion tebyg.
Ond dwi’n gynnyddol ddod i weld fod eu dehongliad o’r hanfodion yn llywio eu barn am ail bethau yn fwy nag oeddwn i’n gynt wedi ei werthfawrogi. Mae dealltwriaeth a dehongliad rhywun o’r hanfodion felly yn bwysig – dim ond hyn a hyn o’r ffordd y gall rhestr o ddogmau fynd a ni i ddeall beth yw ”Cristnogaeth efengylaidd” oherwydd gall dau berson gwahanol gytuno a chredu yn yr un gyffes ffydd ond gall eu dehongliad o’r gyffes ac yna eu gweithio allan ohoni mewn bywyd fod yn dra gwahanol. Dydy e ddim mor syml a dweud mai “pobl efengylaidd ydy pobl sy’n credu xyz”.

Beth yw’r hanfodion?
A siarad am yr hanfodion – beth yn union ydyn nhw? Mae pobl sydd wedi treulio eu hoes yn astudio hanes y traddodiad efengylaidd yn dweud ei fod yn draddodiad neilltuol o anodd ei ddiffinio gan ei fod yn llawer mwy eang ei gredo, amrywiol ei fynegiant a rhyngwladol ei leoliad nac y mae llawer yn ei werthfawrogi. Ond rwy’n meddwl fod diffiniad David Bebbington yn ddefnyddiol sef er y gwahanol bwysleisiadau o le i le ac o oes i oes fod modd dweud yn gyffredinol fod efengylwyr ym mhob oes wedi pwysleisio’r pedwar peth yma:
conversionism, the belief that lives need to be changed;
activism, the expression of the gospel in effort;
biblicism, a particular regard for the Bible;
and what may be called crucicentrism, a stress on the sacrifice of Christ on the cross.
– David Bebbington
I fi mae diffiniad Bebbington yn ddigon penodol ond eto yn ddigon eang oherwydd, er enghraifft, er bod sôn am dröedigaeth nid oes sôn yn benodol sut dylai hynny edrych. Er yn sôn am ymdrech/buchedd y Cristion nid oes sôn penodol sut nac ym mha feysydd o fywyd a chymdeithas. Er y pwyslais ar y Beibl nid oes sôn am ddehongliad penodol o’r Beibl. Er y pwyslais ar waith Iesu ar y Groes nid oes sôn am oblygiadau penodol i waith aberthol Iesu. Hynny yw, galla i ddychmygu y byddai Mike Pence, er enghraifft, yn cytuno i’r crynodeb uchod fel ag yr ydw i. Ond mae’n bur debyg y byddai ein dealltwriaeth o’r pedwar pwynt a’u hoblygiadau yn bur wahanol.
Felly yn yr un ffordd a ddyfeisiwyd y label efengylaidd yn wreiddiol gan fod y label “Cristion” neu “Cristnogaeth” wedi mynd yn ddiystyr, heddiw mae’r label “efengylaidd” wedi mynd yn ddiystyr hefyd – rhaid wrth esbonio a gweld ffrwyth y ffydd.
Ydw i’n efengýl?
Felly ydw i’n Gristion Efengylaidd? Wel, mae’n dibynnu’n llwyr beth rydych chi’n ei olygu wrth hynny! Dwi’n meddwl fy mod i, ond bydd angen esbonio beth rydw i’n ei olygu a beth nad ydw i’n ei olygu a sut mae yr hyn rwy’n gredu wedyn (i fod) i effeithio sut rwy’n byw. Dyna fydda i’n gobeithio gwneud mewn cyfres o erthyglau dros y misoedd nesaf ac wedyn rhywbryd, efallai, ehangu arynt mewn llyfr.