Rydym ni sy’n Gristnogion yng Nghymru wedi hen arfer â dadl iach yn troi’n gecru, a checru’n troi’n rwyg, a rhwyg yn arwain at garfanu a all hollti eglwys yn ddwy. Un o’r pethau tristaf i’r Eglwys orfod wynebu yw gweld undod a chariad Cristnogol yn chwalu’n ddeilchion. Yr hyn sy’n rhwbio halen yn y briw yw mai materion eilradd ac esthetig fel arfer sydd wrth wraidd y cecru rhwng Cristnogion ee a ddylid mabwysiadu ‘Caneuon Ffydd’ a’i peidio, neu a ddylai’r gweinidog ddarllen o’r cyfieithiad diwygiedig neu o gyfieithiad William Morgan? O droi at faterion mwy difrifol, beth am anghytundeb am ddulliau gweinyddu’r sacramentau? Neu beth am wahanol weledigaethau am alw bugail newydd i Eglwys? Mae’r rhain oll yn faterion sydd angen eu trafod a’u hystyried, ond y trueni mawr yw y gall trafod adeiladol droi’n ffrae blentynnaidd mor aml. Oni ddywedodd yr apostol Paul wrth yr Effesiaid; ‘Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn bob amser; byddwch yn amyneddgar, a goddef beiau eich gilydd mewn cariad. Gwnewch eich gorau glas i ddangos bod yr Ysbryd Glân wedi eich gwneud chi’n un, a’i fod yn eich clymu chi gyda’ch gilydd mewn heddwch.’ (Ef. 4:2-3)
Yr hyn a’m hysgogodd i ysgrifennu’r erthygl yma oedd clywed am yr ymwahaniad diweddar yn y byd Efengylaidd yn Lloegr rhwng UCCF a Spring Harvest. Rhaid holi’r cwestiwn – a oes yna rai sefyllfaoedd lle mae rhwyg ac ymwahaniad yn anorfod er mwyn cadw’n dysgeidiaeth yn Grist-ganolog ac ymffrostio’n unig yng nghroes Iesu? Dyna oedd casgliad UCCF, felly dyma adrodd yr hanes.
I’r darllenwyr hynny nad sy’n gyfarwydd â UCCF na Spring Harvest dyma nodyn am y ddau fudiad. Mae’r ‘Universities and Colleges Christian Fellowship’ (UCCF) yn fudiad sy’n cefnogi a noddi gwaith Undebau Cristnogol o fewn Prifysgolion y Deyrnas Gyfunol, gan gynnwys Cymru. Mae ganddynt swyddogion cyflogedig a gwirfoddol yn gweithio ym mhob un o Brifysgolion Cymru a’r rhelyw ohonynt yn Gymry Cymraeg. Y sbardun i sefydlu’r mudiad oedd profiad myfyriwr ifanc o Gaergrawnt o’r enw Norman Grubb yn cael ei arwain yn 1910 i herio’r SCM (Student Christian Movement). Roedd yn argyhoeddedig bod y mudiad hwnnw’n gwyro’n ormodol oddi wrth hanfodion y ffydd. Gofynnodd y cwestiwn yma – ‘Does the Student Christian Movement put the atoning blood of Christ central in its teaching?’ Ateb yr SCM oedd; ‘Well, we acknowledge it, but not necessarily central.’ Dros y blynyddoedd nesaf tyfodd yr anniddigrwydd oddi fewn i’r SCM ac erbyn 1928 roedd IVF (bellach UCCF) wedi ei sefydlu – rhoes le cwbwl ganolog i waith iawnol Crist trosom ar y groes.
Mudiad enfawr sy’n trefnu cynadleddau Cristnogol yw Spring Harvest – cynhaliwyd y gyntaf yma yng Nghymru, ym Mhrestatyn yn 1979. Bellach cynhelir y gynhadledd mewn dwy ganolfan wahanol yn Skegness a Minehead gyda dros 50,000 o fynychwyr. Mae’r mudiad yn enwog hefyd am godi a chyfrannu arian at achosion da. Pan gynhaliwyd Spring Harvest 1982 yng nghanol berw Rhyfel a Malfinas casglwyd £7,800 mewn un casgliad a’i anfon at yr Eglwys yn Yr Ariannin. Ers 2003 mae gan y mudiad ganolfan wyliau i Gristnogion, Le Pas Opton, yng ngorllewin Ffrainc. Yn ogystal â hyn i gyd, mudiad Spring Harvest sy’n bennaf gyfrifol am gyflwyno emynau a chorysau newydd a modern i’r Eglwysi heddiw – cyfieithiadau o rai o gasgliadau Spring Harvest yw ein cyfrolau ‘Grym Mawl’ ni.
Yn ogystal â’r brif gynhadledd, ers 1993 cynhaliwyd cynhadledd arbennig i fyfyrwyr, ar y cyd gyda UCCF a Keswick Ministries, sef ‘Word Alive.’ Eleni daeth y berthynas i ben a chynhaliwyd y ‘Word Alive’ olaf. Bu cynnwrf, dadlau a sibrydion ynghylch y rheswm pam bod y ddau fudiad wedi gwahanu ac wrth i’r niwl glirio daeth hi’n amlwg mai safbwynt un o arweinwyr Spring Harvest, Steve Chalke, am yr Iawn, oedd asgwrn y gynnen. Yn ei lyfr dadleuol ‘The Lost Message of Jesus’ (2003) mae Steve Chalke yn gwrthod rhan o athrawiaeth glasurol yr Iawn, sef Iawn Dirprwyol – y gred fod Iesu wedi dioddef llid Duw yn erbyn ein pechod ni, yn ein lle ni. Cynhyrfodd y dyfroedd ym mhellach drwy honni fod y cysyniad clasurol yma o Dduw yn bwrw ei lid ar Iesu yn ein lle ni yn portreadu Duw y Tad fel ‘cosmic child abuser.’ Nid oedd cydwybod UCCF yn eu caniatáu i adael gŵr a gredai’r fath ddehongliad o’r Iawn siarad yn un o’u cynadleddau, felly roedd rhaid iddynt wahanu oddi wrth Spring Harvest.
Ymatebodd Steve Chalke i’w feirniaid mewn erthygl yn rhifyn Medi ’04 o ‘Christianity Magazine.’ Dywedodd, ‘On the cross Jesus does not placate [to appease or pacify, esp. by concessions or conciliatory gestures] God’s anger in taking the punishment for sin, but rather absorbs its consequences…’ Ymddengys mai’r agwedd o’r dehongliad glasurol o’r Iawn sy’n peri tramgwydd i Chalke yw’r cysyniad fod Duw’r cariad hefyd yn Dduw sy’n medru bod yn ddig. Yn hyn o beth gellir cydymdeimlo rhywfaint â safbwynt Chalke – onid yw’r ddeuoliaeth yma am natur Duw wedi peri tramgwydd i lawer ohonom rywbryd neu gilydd? Onid yw hefyd yn dramgwydd i bobl sydd tu allan yr Eglwys? Dyna yw gofid Chalke a dyna oedd y sbardun i’w ymosodiad ar y dehongliad clasurol o’r Iawn. Dywedodd; ‘The Lost Message of Jesus was not written out of any rejection or ‘playing down’ of Biblical authority, sin, repentance, the cross, the resurrection, the gospel, Jesus’ divinity or the role of the Church – but out of a deep passion for all of these. The life, death and resurrection of Christ Jesus form the fulcrum around which the entire course of human history turns. But the vital questions for our mission are what does that mean and what is its scope?’
Cyfyd hyn y cwestiwn a ydyw’n ddoeth peidio sôn am lid Duw er mwyn bod yn ‘gyfoes’ a ‘pherthnasol’, neu hyd yn oed yn ‘dderbyniol’? Credaf ei bod yn gamgymeriad echrydus i ‘ollwng’ unrhyw beth sydd ag iddo seiliau Beiblaidd clir ac mae llid Duw tuag at bechod, yn gysyniad hollol Feiblaidd (Num. 25:1-5, 2, 2 Bren. 24:20, Col. 3:5-6 ac Eff. 5:5-6). Yn wyneb hyn yr her i’r Eglwys ac i bob Cristion yw nid anwybyddu elfennau llai rhamantaidd Cristnogaeth, ond yn hytrach eu cyflwyno yn yr ysbryd a’r cyd-destun cywir. Prif gonglfaen Cristnogaeth yw’r ffaith di-ymwâd fod Duw yn caru pechaduriaid – mae Duw, de facto, drwy ei gyfamodau o’n plaid ni fel dynoliaeth. Wedi i ni fethu cadw cyfamod gweithredoedd yn Eden rhoes ail gyfle i ni drwy gyfrwng cyfamod Gras. Edrychwch ar yr adnodau canlynol; ‘Ond dangosodd Duw i ni gymaint maen ein caru ni trwy i’r Meseia farw droson ni pan roedden ni’n dal i bechu yn ei erbyn!’ (Rhuf. 5:8) a ‘Dyma beth ydy cariad: dim y ffaith ein bod ni’n caru Duw, ond y ffaith ei fod e wedi’n caru ni ac anfon ei Fab yn aberth oedd yn gwneud iawn am ein pechodau ni.’ (1 Ioan 4:10)
Yng ngolau’r ddysgeidiaeth am Dduw cariad, sy’n cael ei fynegi yn y ddwy adnod uchod, camarweiniol fyddai portreadu llid Duw fel petai wedi ei gyfeirio at bechaduriaid, hynny yw, atom ni fel pobl. Felly beth yw gwrthrych llid Duw? Ein pechod siŵr iawn – dyna yw rhyfeddod gogoneddus ein Duw ni – mae’n casáu pechod ond yn caru’r pechadur. Llid gyfiawn a chariadus a welwyd gan Dduw ar y groes. Llid yn erbyn ein pechod ni a oedd wedi ei rwymo o amgylch Iesu Grist, yr un difai. Mae hyn yn ymddangos fel gweithred ryfedd ac yn wir y mae’n weithred na allwn ei llawn ddeall tan y byddwn yn y nefoedd. Yr emynydd sy’n mynegi’r cariad rhyfeddol yma orau; ‘Mawr iawn fydd ef rhyw ddydd, pan ddatguddir pethau cudd.’
Mae Chalke hefyd yn ddrwgdybus o’r dehongliad clasurol o’r Iawn am ei fod yn ei weld yn ddiffygiol fel syniad i ddelio gyda drygioni yn ein cymdeithas heddiw – rhyfeloedd, trais yn ein trefi ac yn y blaen. Hynny yw, wrth weld Duw yn cosbi Iesu, a wisgodd ein pechod ni amdano ef ei hun, mae Chalke yn gwingo’n fewnol. Crêd bod y dehongliad clasurol yma o Dduw yn llawdrwm tuag at Iesu yn euog o bortreadu Duw fel petai’n ateb drygioni gyda drygioni – y ‘cosmic child abuse’ eto. Credaf i bod rhaid i ni unwaith eto dynnu sylw at y ffaith bod Duw, ydy, yn casáu pechod ond ei fod hefyd yn caru’r pechadur. Mae hyn yn fodel i’w ddilyn yn y gymdeithas gyfoes hefyd. Dydy caru’r gelyn ddim yn gyfystyr ag anwybyddu neu ddi-ystyru ei gamwri.
Yn ei lyfr ‘Castrating Culture’ (2001) mae Dewi Arwel Hughes yn rhoi enghraifft o’r egwyddor yma ar waith wrth adrodd hanes y genhades o Gymraes, Rhiannon Lloyd, yn wynebu ei rhagfarn yn erbyn y Saeson. Daeth Rhiannon at groesffordd syniadaethol tra’n fyfyrwraig yn Leeds. Roedd y feddylfryd o gasau’r Saeson wedi ei fowldio mor gadarn yn ei chalon nes bod ei gwladgarwch Gymreig wedi troi’n eilun iddi. Methodd waredu’r casineb yma o’i chalon tan i rywbeth rhyfeddol ddigwydd. Yng ngeiriau Dewi Arwel Hughes; ‘…someone said that something else needed to be dealt with first. The Englishwoman who said this got up and knelt at Rhiannon’s feet and offered her heart to her as a servant’s heart. Rhiannon began to weep as her English friend went on to apologize for all the English oppresion of the Welsh. The apology was accepted, and in response Rhiannon forgave the English…’ Ond wrth gwrs, nid oedd maddau gyfystyr ag anghofio neu ddi-ystyru’r oll yr oedd y Saeson wedi ei wneud yn y gorffennol. Dywed Dewi Arwel Hughes eto; ‘The injustice remains as injuctice in the sight of God. The significant change had happened not to historical reality but in her heart. The bitter root had been removed.’
Dydy’r hen ystrydeb ‘forgive and forget’ ddim yn dal dŵr, ‘deal with it an forgive’ yw’r model Beiblaidd yn fy marn i. Trwy ei lid yn erbyn pechod ar y groes fe ddeliodd Duw â phechod drwy weithred o gariad rhyfedd. Nid anwybyddu pechod a wnaeth Duw, nac ychwaith ei ‘absorbio’ fel y dadleua Chalke, ond ei ddinistrio – dyma yw neges orfoleddus athrawiaeth glasurol yr Iawn, (law yn llaw â gwirionedd yr Atgyfodiad).
Yn olaf rhaid dychwelyd at y ddeilema o wneud safiad ac ymwahanu neu beidio. Mae’r Beibl yn dangos yn glir bod undod y Saint yn adlewyrchiad o undod y Drindod; ‘Dw i wedi rhoi iddyn nhw rannu’r ysblander a roist ti i mi, er mwyn iddyn nhw fod yn un fel dyn ni yn un: Fi ynddyn nhw a ti ynof fi. Dw i am iddyn nhw gael eu dwyn i undod llawn i adael i’r byd wybod mai ti sydd wedi fy anfon i, a’m bod i wedi eu caru nhw yn union fel rwyt ti wedi fy ngharu i.’ (Ioan 17:22-23) Ond mae dysgeidiaeth y Beibl hefyd yn dangos nad ydy’r undod yma i’w selio ar amwysedd a bod rhaid bod yn wyliadwrus – rhaid ‘profi’r gwynt’; ‘Mae’r rhai sy’n mynd y tu hwnt i beth wnaeth Iesu Grist ei ddysgu wedi torri pob cysylltiad â Duw, Ond mae gan y rhai sy’n glynu wrth ddysgeidiaeth y Meseia berthynas gyda’r Tad a’r Mab. Os ydy rhywun yn dod atoch sydd ddim yn dysgu’r gwir, peidiwch eu gwahodd nhw i mewn i’ch tŷ. Peidiwch hyd yn oed eu cyfarch nhw.’ (2 Ioan 1:9-10)
Ymddengys bod UCCF, i bob pwrpas, wedi penderfynu peidio hyd yn oed cyfarch Steve Chalke. Ai safiad dewr neu ai benstifrwydd Efengylaidd sydd wrth wraidd hyn? Os oes yna athrawiaeth i wneud safiad drosti, athrawiaeth y Groes yw honno.