Dwi’n meddwl mai bai y BBC, yn enwedig ochr Saesneg BBC Cymru, ydy hi fod gymaint o bolareiddio wedi digwydd ac yn debygol o ddigwydd yn y ddadl dros yr LCO iaith dros y misoedd nesaf. Mae’r BBC yn anhygoel o wael am fynd a’r ôl pobl sydd ar eithaf dadleuon. Rai wythnosau yn ôl pan gododd yr helynt am ddod a gorfodaeth ar ddisgyblion ysgol i fynychu gwasanaethau i ben fe gysylltodd ymchwilydd i un o raglenni’r BBC gyda mi. Roedd hi’n amlwg fod yr ymchwilydd yn chwilio am Gristion efengylaidd stereotypical fydda’n fodlon datgan “och a gwae” am y datblygiadau yn yr ysgolion. Wedi i mi esbonio fy marn ar y pwnc, wnes i osod allan yn y blogiad yma, fe gollodd yr ymchwilydd ddiddordeb ynof fi oherwydd nad oeddwn ni’n ffitio’r hyn roedden nhw’n chwilio amdano. Roedd hyn yn newyddiaduriaeth wael ofnadwy oherwydd maen amlwg fod ymchwilwyr y rhaglen wedi penderfynu ar y trywydd cyn clywed gan y bobl ac felly yn ffeindio pobl i ffitio eu trywydd gwneuthuredig nhw. Mae hyn yn taro dyn yn ddychrynllyd o debyg i’r plot yn y ffilm James Bond, ‘Tomorrow Never Dies’, lle mae’r barwn cyfryngol Elliot Carver yn ‘creu’ y newyddion er mwyn i’w rwydwaith ef, y Carver Media Group, gael yr ecsgliwsif ar y stori.

Ar un llawn rwy’n deall pam fod y BBC (a’r Western Mail i raddau) yn gwneud hyn. Mae gweld a chlywed dadl sydd wedi ei bolareiddio yn cael ei weithio allan yn adloniant pur! Mae gweld Bethan Jenkins a Don Touhig yn dadlau am yr iaith yn gwneud teledu gwell na gweld Carwyn Jones a Dafydd Elis Thomas yn trafod yr un pwnc. Mae hyn wrth gwrs yn codi cwestiwn dyfnach sef: beth yw rôl rhaglenni fel Dragons Eye, Taro’r Post, CF99 a’r Politics Show? Adloniant neu hwyluso y broses ddemocrataidd? Yn ein oes apathetig ni mi fyddai llawer yn dadlau fod yn rhaid i raglenni o’r fath wneud mwy a mwy o ddefnydd o ystumiau difyrrus a chomedi er mwyn poblogeiddio a hwyluso’r broses ddemocrataidd, ac maen siŵr fod sens yn hyn. Ond ni ddylai yr elfen ‘adloniant’ ddod o flaen ac yn sicr ni ddylai amharu ar y broses ddemocrataidd. Dwi o’r farn bendant fod y BBC ar lwybr peryglus fan hyn os ydyn nhw am barhau i roi llwyfan i leisiau polereiddiedig wrth i’r ddadl am yr LCO iaith fod ar yr agenda dros y flwyddyn nesaf.

Does dim lle i safbwyntiau hen ffasiwn imperialaidd fel rhai Don Touhig, Paul Murphy, Roger Helmer ac, mewn ffordd, Rhys Williams bellach. Rhowch y peth mewn i gyd-destun gwahanol; beth pe tae Rhys Williams wedi dweud ei fod yn casáu Moslemiaid a beth petai Don Touhig neu David Rosser o’r CBI yn cael cyfle i lambastio hawliau’r anabl ar donfeddi’r BBC fel y mae wedi bod yn lambastio hawliau siaradwyr Cymraeg yr wythnos yma? Mae cyfrifoldeb gan y BBC i symud y ddisgwrs tu hwnt i’r polareiddio y mae unigolion deinasoraidd fel Don Touhig yn ei greu. Y stori bwysicaf wythnos yma oedd fod yna gonsensws (bregus maen siŵr, ond consensws fodd bynnag) ymysg yr holl bleidiau yn y Bae o blaid yr LCO. Ond byddai sôn am hynny ddim yn ddigon o entertainment maen siŵr… dwi’n mynd i wylio Noson Lawen.

Please follow and like us: