Ar hyn o bryd mae’n teimlo fel ein bod yn mynd trwy gyfnod arbennig o fregus yn rhyngwladol. Mae’r rhyfel erchyll yn yr Wcraen yn rhygnu yn ei flaen ac mae’r rhyfel yn Israel a Phalestina yn gwbl ddychrynllyd. Mae’r peth yn gwbl erchyll.

Yn nes at adref mae gyda ni wleidyddion mewn swyddi cyfrifol yn plannu mwy o hadau casineb. Rhai yn cyhuddo ymgyrchwyr heddwch o arwain ‘hate marches’ ac o darfu ar ‘armistice day’ gan anghofio mae ystyr “armistice” yw “cadoediad” sef yr union beth y mae trefnwyr yr orymdaith yn galw amdano.

Mae hyn i gyd wedi creu teimlad o densiwn, o ofn ac o garfanu. Ac mae pobol – o bob ochr i bob dadl – yn bryderus am y dyfodol. Ac mae’n anodd i bobl sy’n byw mewn ofn wneud y penderfyniadau mwyaf doeth a gwrthrychol.

Os dreuliwch chi ychydig o amser yn darllen Genesis fe welwch chi fod Jacob wedi byw trwy gyfnod o ofn ac ansicrwydd. Cyfnod lle’r oedd pobl a brodyr yn codi yn erbyn ei gilydd. Cyfnod lle’r oedd cam-drin. Cyfnod lle’r oedd pobl yn mynnu cyfiawnder, a hynny’n mynd rhy bell a’r cyfiawnder yn troi’n ddial. Ydy hyn yn swnio’n gyfarwydd?

Yng nghanol yr hanes rhyfeddol yma mae Jacob yn dod wyneb yn wyneb gyda Duw. Mae’n sôn ei fod hyd yn oed wedi ymaflyd codwm gyda Duw ym Mhenuel!  

Pan fo bywyd i weld yn annheg a dioddefaint ac anghyfiawnder yn rhemp mae’n ymateb cwbl naturiol i godi’n dyrnau tua’r nef a dadlau gyda Duw. Hyd yn oed mentro ymaflyd codwm gyda Duw, yn ffigurol o leiaf.

Pwy na fu’n cwestiynu Duw ar ôl clywed y newyddion trasig am ymosodiadau Hamas ar y diniwed? Pwy na fu’n ymaflyd codwm a Duw ar ôl clywed am erchyllterau byddin Israel yn bomio ysgolion a hyd yn oed eglwysi Cristnogol yn Gaza?

Dro arall mae Jacob yn cyfarfod Duw mewn breuddwyd, ac mae Duw yn siarad:

“Dw i eisiau i ti wybod y bydda i gyda ti.
Bydda i’n dy amddiffyn di ble bynnag ei di….
Wna i ddim dy adael di.
Bydda i’n gwneud beth dw i wedi ei addo i ti.”

(Genesis 28:15)

Mae’r byd heddiw, fel Jacob, yn mynd trwy bethau mawr. Mae’r tir oddi tanom yn ysgwyd. Efallai ein bod ni’n ofn? Efallai ein bod ni’n teimlo fod y tywyllwch yn ennill? Ar adegau o greisis personol, cenedlaethol neu ryngwladol mae’n bwysig cofio fod “Y goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef.” (Ioan 1:5)

Felly, dewch: 
chi sy’n gadarn eich ffydd, a chi sy’n amau weithiau,
chi sydd yma’n aml, a chi sy’n newydd,
chi sydd wedi ceisio dilyn a chi sydd wedi methu.
Dewch, nid am fy mod i yn eich gwahodd, 
ond oherwydd mae Duw sy’n gwneud, 
ac ewyllys Duw yw y bydd pawb sydd yn ei geisio 
yn ei gyfarfod heddiw.

Please follow and like us: