Dyma ymateb personnol i sylwadau Rhydian o gangen Bontnewydd o Blaid Cymru am Gymdeithas yr Iaith. Mae ei sylwadau gwreiddiol fan YMA. Nid ymateb swyddogol y Gymdeithas sydd yma ond rhai sylwadau personnol…
Mae dy sylwebu yn anheg Rhydian wrth ddweud nad oes gan CYIG ddirnadaeth o’r prosesau gwleidyddol. O ran y Gorchymyn Iaith i gychwyn, fe wnaed gwaith ymchwil a chyflwyniadau caboledig ger bron y pwyllgorau craffu yn y Bae ac hefyd yn San Steffan. Buodd rhaid i wrthwynebwyr safbwynt y Gymdeithas gyfaddef hyd yn oed fod dyfnder a manylion y dadleuon y Gymdeithas yn anatebadwy llawer un ohonynt. Os rhywbeth roedd mwy o feddwl ac ymchwil tu ol i dystiolaeth y Gymdeithas i’r broses nag oedd gan Fwrdd yr Iaith sy’n gwango proffesiynnol yn hytrach na mudiad o “amaturiaid” gwirfoddol fel y Gymdeithas.
Ac wedyn beth am bolisi’r llywodraeth o Goleg Ffederal? Mae’r Llywodraeth i bob pwrpas wedi mabwysiadu ymchwil a chynllun strategaeth y Gymdeithas ar y pwnc hwn heb fawr o newid. Gwaith safonol iawn eto a wnaeth gan fyfyrwyr ymchwil yn eu hamser nhw eu hunain. Yn sicr felly nid gwendid y Gymdeithas ar hyn o bryd ydy diffyg cyfranogiad yn y broses wleidyddol.
O ran priodoldeb gweithredu di-drais; gan fod gyda ni bellach fesur o ddatganoli fe dybia rhai fod hwn yn gyfle i’r Gymdeithas “droi’n broffesiynol” a “rhoi’r gorau i fandaleiddio” a “throi’n lobïwyr proffesiynol.” I ddechrau rhaid holi pam fod rhai wedi dweud pethau o’r fath am y Gymdeithas yn ddiweddar? Mae’r clebar yma yn awgrymu mai diffyg datganoli sydd wedi peri i’r Gymdeithas droi at brotestio, weithiau yn anghyfreithlon, dros y blynyddoedd. Gadewch i ni drafod y moesau a’r athroniaeth sydd yn sail i’r egwyddor hon. Rhaid derbyn bod lle i oruchwyliaeth rhyw fath o wladwriaeth – nid anarchydd mohonof ac nid mudiad anarchaidd mo’r Gymdeithas. Diben y wladwriaeth yw canitau i ddyn fyw y bywyd da. Yn ogystal â’i ddyletswydd i warchod yr unigolyn mae gan y wladwriaeth ddyletswydd i warchod y genedl a’i hunaniaeth ond wrth gwrs, y broblem sydd gyda ni ym Mhrydain yw pa genedl? Dywedai R. Tudur Jones ei bod hi’n amhosib i wladwriaeth wasanaethu mwy nag un cenedl. Felly lle bo’r wladwriaeth yn fforffedu ei chyfrifoldeb yna mae hawl, onid dyletswydd, gan yr unigolyn i dynnu sylw at hynny a’i wrthwynebu yn agored – hyd yn oed wrth ddefnyddio dulliau di-drais. Barn glir Cymdeithas yr Iaith yw ein bod ni’n byw dan wladwriaeth sydd yn nacau ei gyfrifoldeb i roi hawliau ac amodau teg i siaradwyr Cymraeg.
Rhaid pwysleisio hefyd mai’r cam olaf mewn unrhyw ymgyrch yw troi at weithredu uniongyrchol. Hwyrach bod gan y Gymdeithas y ddelwedd o afael yn y brws paent y cyfle cyntaf posib. Nid pawb sy’n sylweddoli fod y Gymdeithas yn ddiwyd bob wythnos yn paratoi llythyrau, deisebion, dogfennau trafod a pholisïau heb sôn am fynd i lobio gwleidyddion a swyddogion yn aml. Y gwaith di-sôn-amdano yma mewn gwirionedd yw asgwrn cefn y mudiad, ond y gwir trist plaen amdani yw nad oes gan y cyfryngau ddim diddordeb yn y gwaith pwysig cefn llwyfan yma. Dim ond y rhwystro mynedfeydd a’r paentio sloganau y clywch amdanynt yn y Western Mail ac ar donfeddi’r BBC. Rhaid i unrhyw weithredu tor-cyfreithiol ddilyn neu o leiaf fynd law yn llaw â gweithredu confensiynol cyfreithiol.
Ydy, mae Cymru wedi newid ers 1997 a bydd, mi fydd angen i’r Gymdeithas wneud fwy o waith lobio dros y blynyddoedd nesaf, ond does dim unrhyw reswm yn y byd pam y dylai’r Gymdeithas roi’r gorau i’r defnydd o weithredu uniongyrchol di-drais os yw pob ymgais gonfensiynol yn methu. (Mae rhannau helaeth o’r sector breifat ddim wedi eu cynnwys yn LCO Alun Ffred Rhydian a dyna yw cefndir protest a dedfryd Osian Jones.) Mae dros hanner canrif ers i R. Tudur Jones yngan y geiriau yma a datganoli neu beidio, arian yn y banc neu beidio, mae’n parhau i fod yn wir pan fo’r wladwriaeth yn gwrthod eu hawliau i’r Cymry Cymraeg ‘… credwn mai ein braint a’n dyletswydd yw llefaru yn eu herbyn.’