Pinacl pechod yn y byd hwn yw ymerodraeth ac imperialaeth, boed ar ei wedd dreisgar neu yn ei gynildeb gwleidyddol yn erbyn y gorthrymedig. Mae’r gwleidyddion a’r unigolion nad sy’n gweld y pechod o ymerodraeth yn eu credoau a gweithredoedd yn ddall iddo yn yr un modd ag oeddem ni i gyd yn ddall i’n pechod ni cyn i’r Ysbryd Glân agor ein llygaid. Mae ymerodraeth yn creu niwed, dinistr a phoen ond mae bob amser yn colli yn y pen draw oherwydd fod ei feistr wedi colli’r frwydr olaf lle’i trechwyd gan Frenin y Brenhinoedd – Iesu. Dyna pam yr wyf yn byw mewn gobaith er gwaethaf agweddau na fyn y Cristion eu goddef tuag at Gymru, yr Alban ac Iwerddon o gyfeiriad gwleidyddion Prydeinig yn Llundain ac oddi fewn i’r gwledydd Celtaidd.

Bydd rhaid i wleidyddion sy’n parhau i hyrwyddo imperialaeth yn ei ffurf gynnil yng Nghymru fod yn ofalus iawn oherwydd mae Duw yn Dduw cyfiawn sy’n mynd i’r afael ac anghyfiawnder.

Please follow and like us: