Bu bron i mi anghofio fod fy mlog i’n bum mlwydd oed heddiw! Tipyn o gyrhaeddiad ag ystyried mae oes arferol blog ydy dwy flynedd yn unig maen debyg. Mae llawer wedi newid yn fy myd bach i yn ystod y bum mlynedd diwethaf. Roeddwn ni’n byw ym Mhantycelyn ac yng nghanol gwneud gradd mewn Gwleidyddiaeth pan wnes i gychwyn y blog – fe adawais Aberystwyth, yn y diwedd, erbyn Medi 2007 a bellach dwi bron a gorffen fy ail radd ym Mangor! Ond amwn i mae’r peth pwysicaf sydd wedi digwydd yn ystod oes y blog ydy fod fy ffydd i wedi cryfhau a mod i’n sicr bellach mod i am roi fy mywyd i weithio dros Grist yng Nghymru mewn rhyw ffordd neu gilydd. Er fod fy ffydd i wedi cryfhau, dwi’n meddwl hefyd fod fy null o ysgrifennu am fy ffydd wedi dod yn fwy graslon. Hynny yw, bum mlynedd yn ôl wrth ddechrau’r blog roeddwn ni am ddadlau pobl mewn i’r nefoedd – bellach dwi’n gwybod mae Duw ydy’r unig un all gyffwrdd pobl ac mae’r unig beth fedra i wneud ydy trin a thrafod fy ffydd yn ostyngedig a grasol.
Mae natur y blog yn sicr wedi newid dros y blynyddoedd. Wrth ddechrau’r blog cyflwynais ddau reswm difrifol pam i mi ddechrau arni, roedd yna drydydd rheswm sef osgoi adolygu! Roedd awydd gyda mi i ysgrifennu mwy, dyma o bosib oedd y prif reswm ar y pryd. Dywedais, yn syml, y byddair blog yn ysbardun i mi ysgrifennu mwy. Nodais hefyd fod blogio yn rhyw fath o ffurf fodern o ddyddiadur ac fod cadw dyddiadur yn draddodiad cryf gyda ni’r Cymry ac felly credais fod cychwyn blog yn cyfrannu a chynnal y traddodiad hwnnw! Ar y dechrau roedd y blog yn ymdebygu mwy i ddyddiadur, yn adrodd fy hanesion ac ati, ond bellach prin y ceir unrhywbeth felly ar y blog. Trafod pynciau a phethau sy’n bwysig i mi ydw i bellach ac nid trafod fy hynt a fy helynt fy hun. Y mae’r newid a’r datblygiad yma yn un positif dwi’n meddwl.
Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf mae dyfodiad y gallu i gynhyrchu a darlledu fideos cartref ar lein wedi newid blogs, gan gynnwys fy un i, i raddau. Bellach mae fy mlog yn dibynnu llai ar destun i raddau gan mod i’n defnyddio llawer mwy o fideos, delweddau a clipiau sain yn y cofnodion. Y datblygiad mwyaf diweddar oedd lansio’r Podlediad wythnos yma lle bydda i’n bennaf yn darlledu fy sgyrsiau o’r Eglwys (hynny yw Capel) ond bydda i hefyd yn rhyddhau pwtion difyr eraill os bydd cyfle yn codi.
O ran nodweddion technolegol rydw i wedi gweld manteision sylweddol ers i mi newid o blogger i wordpress ym Medi 2008. Mae newid i wordpress wedi fy ngalluogi i redeg y blog mwy fel gwefan lawn gyda adrannau’n sôn am fy ngwaith dylunio ac ati. Mae 629 cofnod wedi’u cyhoeddi ar y blog ers y cychwyn a 620 o sylwadau wedi eu gadael. A chymryd bod pob cofnod, ar gyfartaledd, o leiaf yn 100 o eiriau rydw i wedi ysgrifennu 62,000 o eiriau yma! Tybed a chaf i radd D. Litt er anrhydedd gan rhyw Brifysgol micky mouse fel cydnabyddiaeth?
Wrth gwrs, edited highlights o fywyd person fyddwch chi’n gweld ar flog. Dydy bywyd ddim yn fêl i gyd ac yn ystod y bum mlynedd diwethaf yma mae rhai penodau yn fy mywyd i wedi codi sydd wedi bod yn anodd a thrist ar adegau ond dydych chi ddim wedi cael clywed amdanynt yma. Yr oll fedra i ddweud ydy fod fy ffydd i wedi’m cynnal drwy’r cyfnodau hynny a dyna i raddau sydd wedi fy ngalluogi i gario mlaen i flogio trwy’r cyfan.
Diolch yn fawr iawn yn gyntaf i chi’r darllenwyr – dydy nifer y darllenwyr ddim yn neilltuol o uchel, ond y maen gyson. Diolch pellach i chi sy’n gadael sylwadau o bryd i’w gilydd, byddai mwy o sylwadau yn wych ond fedra i ddim pregethu gan mod i prin yn gadael sylwadau ar flogiau pobl eraill. Maen rhaid i mi ddiolch hefyd i’m ffrindiau i, Mam yn arbennig, am godi’r ffôn weithiau pan fydda i wedi ysgrifennu rhywbeth or-ymfflamychol a dwyn perswâd arna i i olygu’r cofnod cyn bod gormod yn ei weld!
Dyna ni felly, fe welai i chi mewn pum mlynedd arall, 20 Ionawr 2015 pan fydda i’n 30 oed! Sceri iawn.
Penblwydd hapus i ti!
Llongyfarchiadau a phob bendith. Dw i newydd danysgrifio i dy bodlediad. (Gwrandawes i ar dy bregeth ddiwethaf yn ddiweddar.) Maen nhw’n dweud ar y dudalen mai Saesneg rwyt ti’n siarad.
Llongyfarchiadau! Sgeri meddwl faint mae pethau’n gallu newid mewn pum mlynedd.