“Mwy trysorau sy’n dy enw / Na thrysorau’r India i gyd”

Dwy linell o eiddo William Williams, Pantycelyn a dwy linell o un o’r emynau roedd ein côr ysgol gynradd yn ei ganu yn 1996 pan ymwelodd y Frenhines ag Aberystwyth i agor estyniad newydd y Llyfrgell Genedlaethol. Delwedd rhyngwladol oedd yn talu teyrnged i India? Ynteu ddelwedd an-sensatif oedd yn sawru o fyd olwg imperialaidd y cyfnod? Mae tystiolaeth fod y Pêr Ganiedydd yn fwy o ryngwladolwr nac o goloneiddiwr; fodd bynnag mae rhyw eironi fod y geiriau yma wedi eu canu gan blantos bach Aberystwyth o flaen pen yr Ymerodraeth Brydeinig ar y diwrnod cythryblus hwnnw yn Aberystwyth yn 1996.

Dewis cadw draw oedd penderfyniad ein teulu ni a llond dwrn o deuluoedd eraill y diwrnod hwnnw. Y brotest dawel o beidio cymryd ein lle yng nghôr anrhydeddus Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Gweithred dawel o brotest, ond gweithred oedd yn siŵr o fod wedi peri ychydig o letchwithdod rhwng fy nhad – oedd yn un o lywodraethwyr yr ysgol ar y pryd – a rhai o’r athrawon. Gweithred hefyd a berodd i rai cenedlaetholwyr na wnaeth dynnu eu plant o’r côr i deimlo’n euog, a does neb yn hoffi pobl sy’n gwneud i chi deimlo’n euog. Ond gweithred, yn fwy na dim byd arall, wnaeth argraff ddofn arna i yn blentyn ifanc oedd yn dechrau ymddiddori mewn diwylliant, ffydd a gwleidyddiaeth – yn y pair hwn ym ffurfiwyd i!

Rhennais eiriau caredig am ffydd y Frenhines rai dyddiau yn ôl, ac roedden nhw’n eiriau didwyll. I rai cyfeillion nad sy’n rhannu fy ffydd roedden nhw’n eiriau o frad, i Gristnogion eraill roedden nhw’n eiriau oedd ddim yn rhoi’r darlun llawn. A gwir oedd y feirniadaeth honno, oherwydd beth bynnag a ddywed rhywun am ffydd bersonol y Frenhines mae’n bwysig fod Cristnogion yn cynnig beirniadaeth lle bo angen o’r Prydeindod y bu’r Frenhines yn wyneb iddo drwy ei theyrnasiad hir.

Yr her i Weriniaethwyr a Chenedlaetholwyr Cymreig sy’n Gristnogion yw sut i ymateb yn gadarn ond yn raslon. Un o’r pethau pwysig i gofio yw i beidio meithrin casineb calon at bobl ac unigolion a chofio fod ein brwydr am gyfiawnder yn frwydr a phwerau, strwythurau a hyd yn oed tywysogaethau tywyll y byd.

Nid Elisabeth fel person foddodd Tryweryn, nid Charles fel person wnaeth ein bychanu wrth enwi ei Fab yn “Dywysog Cymru” nos Wener. Na, nid nhw fel pobl yw’r broblem, ond Prydeindod ac Imperialaeth fel system.

Y pechod strwythurol (structural sin) hwn a welwyd yn gyntaf yn Nhŵr Babel yn Genesis 11 ac sydd wedi ei ail-adrodd drwy hanes wrth i ymerodraethau – o Fabilon, i Rufain i Brydain – geisio unffurfiaeth foel yn hytrach na dathlu bwriad Duw i’r ddynoliaeth o undod mewn amrywiaeth. I chi a diddordeb, dyma ydi pwnc fy PhD, ac mae llawer ohono wedi ei gynnwys yn fy llyfr ‘Tynged Cenedl: Cenedlaetholdeb Gristnogol R. Tudur Jones’ (2019).

Chwech ar hugain o flynyddoedd yn ddiweddarach, fel rhyw fath o poetic justice, fy nhad sydd bellach yn Llyfrgellydd a Phrif Weithredwr y Llyfrgell Genedlaethol. Y tad awkward yna wrthododd i’w blant ganu i’r Cwîn yno nol yn 1996. Arwydd – gobeithio – nad oes rhaid bod yn daeog ddiogel i ddod ymlaen yn y byd.

Please follow and like us: