Fel Ceri Cunington “geshi ngeni ym Mangor” – ac 18 mlynedd yn ddiweddarach dwi’n symud yn ol i fy nhref enedigol. Symudodd fy nheulu i Aberystwyth o Fangor yn 1989 a gan i mi aros yn Aberystwyth i fynd i’r Brifysgol dyma fydd y tro cyntaf i mi, mewn gwirionedd, adael cartre go-iawn (er i mi fyw mewn neuaddau breswyl yn Aber am dair blynedd 2003-2006). Dwi braidd yn nerfus ond hefyd yn disgwyl mlaen i’r benod nesaf yma. Bydd darllenwyr y blog yn gwybod mod i wedi bod yn fyfyriwr ymchwil ym Mangor ers blwyddyn eisioes ond penderfynais beidio symud i fyny yr haf diwethaf am sawl rheswm ond daeth yr amser i mi fudo bellach. Dwi wedi bod ddigon ffol i gymryd swydd Warden Neuadd John Morris Jones (ymysg rhesymau eraill am hyn yw’r ffaith fod fy ysgoloriaeth ddim yn ddigon mewn gwirionedd i dalu rhent, costau byw a ffi fy nghwrs). Fe fydda i wedyn – och a gwae – yn un o’r ychydig rhai prin hynny bydd wedi byw ym Mhantycelyn a JMJ! Mae hynny yn fwy o claim-of-maddness na claim-to-fame mi wn, ond dyna ni.

Mae’r Bangor-lad yn dwad adra!

Please follow and like us: