Maen ddiwrnod mawr i’r Eglwys Anglicanaidd fory gan fod y Synod yn Efrog yn pleidleisio ar y mater o dderbyn merched fel Esgobion. Ni welaf i urnhyw broblem gyda chael Merched ochr yn ochr a dynion yn arwain yr Eglwys – mae’r ddau ryw yn hafael ac mae angen y ddau ryw. Maen gywir i nodi fod gwahanol bobl yn cael eu galw i wahanol rôls o fewn yr Eglwys ond dwi ddim yn meddwl fod hynny o’r rheidrwydd yn golygu fod y split yn digwydd ar linellau rhyw oherwydd fe geir dynion llipa a fyddai’n gwneud arweinyddion ofnadwy ond efallai yn gaffeiliadau yn gwneud tasgau eraill tra ar y llaw arall mae yna ferchaid sy’n arweinwyr naturiol ac yn haeddu’r hawl i ymarfer y rôl yna o fewn yr Eglwys a hynny er lles gwaith y Deyrnas.

Rwyf wedi bod yn meddwl yn ddwys am hyn yn ddiweddar ac er mod i’n deall fod yna beth dadl yn y Beibl na ddylai Merchaid arwain mewn rhai sefyllfaoedd, rwy’n credu mae cyfeirio at rai sefyllfaoedd yn unig y mae hynny. Ar y cyfan mae hanes yr Eglwys fore yn dangos fod merched wedi chwarae rôl bwysig yn arwain dan eneiniad yr Ysbryd Glan. Dyma rai enghreifftiau:

Phoebe yn Rhufeiniaid 16:1-2
“Dim ond pethau da sydd gen i i’w dweud am Phoebe, ein chwaer sy’n gwasanaethu yn eglwys Cenchrea. 2 Rhowch groeso brwd iddi – y math o groeso mae unrhyw un sy’n credu yn yr Arglwydd yn ei haeddu. Rhowch iddi pa help bynnag sydd arni ei angen. Mae hi wedi bod yn gefn i lawer iawn o bobl, gan gynnwys fi.”

Prisca ynghŷd a Acwila yn Rhufeiniaid 16:3-5, 19
“Cofiwch fi at Prisca ac Acwila, sy’n gweithio gyda mi dros y Meseia Iesu. Dau wnaeth fentro eu bywydau er fy mwyn i. A dim fi ydy’r unig un sy’n ddiolchgar iddyn nhw, ond holl eglwysi’r cenhedloedd hefyd! 
5 Cofion hefyd at yr eglwys sy’n cyfarfod yn eu tŷ nhw… Ond mae pawb yn gwybod eich bod chi’n ufudd i’r Arglwydd, a dw i’n hapus iawn am hyn. Dw i am i chi fod yn ddoeth wrth wneud daioni ac yn ddieuog o wneud unrhyw ddrwg.”

Jwnia yn Rhufeiniaid 16:7
“Hefyd at Andronicus a Jwnia, cyd-Iddewon fuodd yn y carchar gyda mi. Mae nhw’n adnabyddus fel cynrychiolwyr i’r Arglwydd – roedden nhw’n credu yn y Meseia o’m blaen i.”

Nymffa yn Colosiaid 3:15
“Cofiwch fi at y brodyr a’r chwiorydd yn Laodicea, a hefyd at Nymffa a’r eglwys sy’n cyfarfod yn ei thŷ hi. “

Euodia a Syntyche yn Philipiaid 4:2-3
“Dw i’n apelio ar Euodia a Syntyche i ddod ymlaen â’i gilydd am eu bod yn perthyn i’r Arglwydd. A dw i’n gofyn i ti, fy mhartner ffyddlon i, eu helpu nhw. Mae’r ddwy yn wragedd sydd wedi brwydro gyda mi o blaid y newyddion da, gyda Clement a phob un arall o’m cydweithwyr. Mae eu henwau i gyd yn Llyfr y Bywyd.”

Merched Philip yn Actau 21:8-9
“A’r diwrnod wedyn dyma ni’n mynd ymlaen i Cesarea, ac aros yng nghartre Philip yr efengylydd (un o’r saith gafodd eu dewis gan eglwys Jerwsalem i fod yn gyfrifol am ddosbarthu bwyd i’r gweddwon). Roedd gan Philip bedair o ferched di-briod oedd yn proffwydo.”

Ac yn olaf y cryfaf sef y dweud amlwg fod angen i Ferched sefyll ochr yn ochr a bechgyn wrth arwain yr Eglwys yn y dyddiau olaf, ac maen debyg ein bod ni YN byw yn y dyddiau olaf yn awr:

Merched a dynion yn proffwydo yn Actau 2:17-18
“‘Mae Duw yn dweud: Yn y cyfnod olaf
 Bydda i’n tywallt fy ysbryd ar y bobl i gyd. 
Bydd eich meibion a’ch merched yn proffwydo, 
bydd dynion ifanc yn cael gweledigaethau, 
a dynion hŷn yn cael breuddwydion. 
Bryd hynny bydda i’n 
tywallt fy Ysbryd ar fy ngweision i gyd, 
yn ddynion a merched, 
a byddan nhw’n proffwydo.”

I ddyfynnu cyfaill tra ffwdamentalaidd ei ddiwinyddiaeth ar un wedd sydd wedi profi drosto ef ei hun fod Duw yn defnyddio merched i arwain yr Eglwys: “I have seen women of God who have prayed for demon-possessed individuals to be delivered. Healing has taken place in the lives of individuals through women ministry. If God does not approve their ministry, I don’t think He would even give them the grace to function effectively.” A dyna fy nghyfaill wedi taro’r hoelen ar ei phen – Duw ac nid sefydliadau crefyddol dynol sy’n dewis defnyddio neu beidio defnyddio merchaid ac mae Duw yn sicr yn ac am ddefnyddio merchaid – ni all wneud hebddyn nhw. Dwi ddim yn siwr beth fyddai gan Dr. Tudur i ddweud am hyn ond o ddyfynnu un o’i atebion aml i gwestiynnau dwys: “Duw sydd a’r gair olaf.”

Please follow and like us: