Pa ddiwrnod o’r flwyddyn sydd bwysicaf i’r Cristion?
“Wel Dydd Nadolig siŵr iawn a chofio geni Iesu Grist y Gwaredwr.”
“Ond wedyn beth am Ddydd Gwyl Dewi? Dydd nawdd sant Cymru? Diwrnod i ddathlu ein cenedligrwydd a chofio a diolch am y modd y bendithiodd Duw ni’r Cymry dros y canrifoedd? Ie Dydd Gŵyl Dewi aiff a hi.”
Ond wedyn beth am y Pasg medde chi?
“Mae’n rhaid bod Dydd Gwener y Groglith yn ddiwrnod tra phwysig hefyd – y diwrnod lle cofiwn am yr aberth eithaf, y diwrnod lle gofiwn fod Iesu wedi cymryd ein beiau ni gyd. Ni oedd yn haeddu’r gosb ar y groes ond fe gynlluniodd Duw ar ein cyfer, fe wnaeth gyfamod gyda dyn cyfamod o rhad:Haleliwia Haleliwia
Aeth i’r Lladdfa yn ein LleDiwrnod i ni lawenhau yn ei gylch ar un llaw oherwydd i ddyn dderbyn maddeuant o’i bechod ond diwrnod trist iawn hefyd oherwydd i’r maddeuant yna gostio’n ddrud sef bywyd Iesu Grist, un cwbl ddi fai. Mae’n rhaid mae dydd Gwener y Groglith felly yw’r diwrnod pwysicaf.”
Dydd Gwener y Groglith, cynnig da – ond mae yna un diwrnod arall wrth gwrs in the running, fel petai, am deitl diwrnod pwysicaf y flwyddyn sef Sul y Pasg. Dyma gyflwyno ei achos.
Yn gyntaf gwerth fyddai i ni atgoffa ein hunain pam ein bod ni’n dathlu Sul y Pasg – wedi’r cyfan pa ddiben dathlu os yw Iesu, ein Duw, wedi marw ar y groes? Do fe fu Iesu farw ond fe atgyfododd drachefn – nid oedd hyd yn oed marwolaeth yn medru dal Iesu i lawr fel y clywn yn y bedwaredd adnod ar hugain o ail bennod yr Actau: “…cyfododd Duw ef, gan ei ryddhau o wewyr angau, oherwydd nid oedd dichon i angau ei ddal yn ei afael.”
Mae’n siŵr eich bod chi wedi clywed sôn na ddylid cymryd rhai rhannau o’r Beibl yn llythrennol ac mae’n debyg i chi feddwl mae rhyw fath o ddarlun delweddol yw’r sôn yma o Iesu yn atgyfodi. Wedi’r cyfan doedd y disgyblion eu hunain ddim yn credu’r peth i ddechrau, roedden nhw yn meddwl mae gweld ysbryd oeddent pan welsant Iesu wedi atgyfodi. Wel na, mae’n gwbl glir yn y Beibl fod Iesu wedi atgyfodi a hynny yn llythrennol, yn gig a gwaed nid fel ysbryd; dyma oedd geiriau Iesu ei hun yn y bedwaredd bennod ar hugain o Efengyl Luc: “Gwelwch fy nwylo a’m traed; myfi yw, myfi fy hun. Cyffyrddwch â mi a gwelwch, oherwydd nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn fel y canfyddwch fod gennyf fi.”
Mae’n bosib dadlau fod Cristnogion wedi esgeuluso hanes yr atgyfodiad, o bosib oherwydd ei fod yn wyrth oruwchnaturiol. Yn ein hoes ni pan fo pobl yn ei chael hi’n anodd credu yn y goruwchnaturiol mae Cristnogion wedi adweithio gyda pheth embaras am y syniad o atgyfodiad llythrennol Iesu. Ond mae’n glir yn y Beibl, yn Llyfr Actau’r Apostolion, fod pregethu am Grist ddim yn ddigon ond yn hytrach fod angen pregethu am Grist a’i atgyfodiad yn ogystal. Rhaid i ni dderbyn, a bod yn barod i ddweud wrth eraill am yr atgyfodiad yma a pheidio ceisio ei esbonio fel trosiad neu ddameg ond yn hytrach dweud fod yr amhosib wedi digwydd – mae’n Dduw holl alluog wedi’r cyfan felly does dim byd, hyd yn oed atgyfodi, tu hwnt i’w allu.
Fe ddywedir yn Actau pennod 4 adnod 33 fod yr apostolion yn tystiolaethau, ie am ras Duw, ond hefyd am atgyfodiad yr Arglwydd Iesu. Yn bersonol mae’r ffaith fod yr Iesu yn fyw heddiw yn ysbrydoliath ac yn nerth. Cytunaf gyda Thomas Jones o Ddinbych pan ddywedodd yn un o’i emynau enwocaf:
Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw,
a’m prynodd â thaliad mor ddrud;
fe saif ar y ddaear, gwir yw,
yn niwedd holl oesoedd y byd:
er ised, er gwaeled fy ngwedd,
teyrnasu mae ‘Mhrynwr a’m Brawd;
ac er fy malurio’n y bedd
ca’i weled ef allan o’m cnawd.
Mae’r gred yn atgyfodiad llythrennol Iesu Grist yn gwbl hanfodol i’r ffydd Gristnogol – heb ei dderbyn nid yw’r ffydd Gristnogol yn dal dwr.
Dywedodd Paul mewn llythyr at Gristnogion yng Nghorinth mae gwagedd yw’r ffydd Gristnogol heb gredu yn atgyfodiad Crist. Dywedodd Paul ym mhennod pymtheg o’i lythyr cyntaf at y Corinthiaid; “…Os nad yw Crist wedi ei gyfodi, gwagedd yw’r hyn a bregethir gennym ni, a gwagedd hefyd yw eich ffydd chwi…” ac nes ymlaen yn y bennod maen dweud “…os nad yw Crist wedi ei gyfodi, ofer yw eich ffydd, ac yn eich pechodau yr ydych o hyd.”
Hanfod Cristnogaeth yw derbyn maddeuant Duw trwy farwolaeth iawnol Iesu ar y groes, byddai rhai yn stopio fan yna ond rhaid pwysleisio fod Cristnogaeth yn mynd ym mhellach. Wedi derbyn maddeuant unwaith ac am byth cawn ddod i berthynas gyda’r un a fu farw trosom gan ei fod, o ganlyniad i’r atgyfodiad, yn fyw heddiw ac yn ein gwahodd i gael perthynas ag ef. Nid crefydd lym a chul mo Cristnogaeth, er iddi ddod trosodd yn anghywir fel yna weithiau, crefydd fyw wedi ei seilio o amgylch perthynas bersonol gyda’r gwaredwr Iesu Grist ydyw.
Mae Duw y Cristion, sef yr unig wir Dduw yn Dduw dy’ ni’n ei addoli ar un llaw ond ar y llaw arall mae’n Dduw sy’n cyd-gerdded gyda ni yn ein bywyd ysbrydol a’n bywydau o ddydd i ddydd yn y gwaith, yn yr ysgol neu’r coleg o bosib. Nid traddodiad yn unig dylai Cristnogaeth fod yng Nghymru heddiw ond ffydd sydd yn ymwneud a perthynas bersonol a’r Iesu atgyfodedig. Mae’r pennill yma yn cyfleu neges yr Atgyfodiad a Sul y Pasg yn berffaith:
Yng nghroth y bedd claddwyd y Gwir,
Goleuni’r Byd mewn beddrod ddu;
Ffrwydrodd o’r bedd, daeth gwawrddydd clir
Ar atgyfodiad Iesu cry.
A’i Goncwest Ef yw nghoncwest i,
Rwy’n eiddo’i Grist, mae’n eiddo i mi;
Nid oes gan angau golyn mwy,
Fe’m prynwyd trwy ei werthfawr waed!
Ofn mawr dynion heddiw, os nad erioed, ydy marwolaeth – drwy atgyfodi fe drechodd yr Iesu farwolaeth hyd yn oed. Dyma oedd buddugoliaeth fawr Iesu, trechodd farwolaeth ac yn fwy pwysig trechodd feistr marwolaeth sef y gelyn mawr – Satan. Dyma glywn yn Salm 68; “Bydded i Dduw godi, ac i’w elynion wasgaru, ac i’r rhai sy’n ei gasau ffoi o’i flaen.” Mae pŵer pechod yn parhau oddi mewn i ni ac o’n cwmpas ond diolch i atgyfodiad Iesu mae’r gelyn yn ffoi – “Nid oes gan angau golyn mwy.”
Sul y Pasg yn sicr felly yw un o ddiwrnodau, os nad diwrnod pwysicaf y flwyddyn!
Mawrth, 2007