Mewn perthynas â’r wladwriaeth gall yr eglwys ddilyn dau drywydd penodol a tra gwahanol i’w gilydd. Ar un llaw gall yr eglwys gael ei herwgipio i fod yn gi bach ac yn ddim byd mwy nag apologia i lywodraeth y dydd. Ar y naill law gall gymryd rôl gritigol a phroffwydol drwy feirniadu a dal y llywodraeth yn atebol os bydd yn dilyn llwybr anghyfiawn. Credaf fod yna gylchoedd mewn cymdeithas, gan gynnwys y wladwriaeth, wedi eu hordeinio at bwrpas gan Dduw. Fodd bynnag, rhaid pwysleisio fod y cylchoedd hynny yn ddarostyngedig i Dduw ac felly’n agored i feirniadaeth a cherydd gan yr Eglwys. Mewn gwlad ddi-wladwriaeth sy’n parhau i chwilio am wir hunan-reolaeth, y mae gan yr eglwys rôl bwysicach fyth yn gwarchod buddiannau ei phobl yn wyneb methiant llywodraeth y dydd wrth weinyddu cyfiawnder.

Rhaid derbyn fod lle i oruchwyliaeth rhyw fath o lywodraeth; nid anarchydd mohonof ac nid mudiad anarchaidd oedd yr eglwys fore, er iddyn nhw ymddangos fel bygythiad real i’r awdurdodau Iddewig a Rhufeinig ar y pryd. Diben llywodraeth yw caniatáu i ddyn fyw bywyd rhydd a ffyniannus. Yn ogystal â’i ddyletswydd i warchod yr unigolyn mae gan y wladwriaeth ddyletswydd i warchod y genedl a’i hunaniaeth; wrth gwrs y broblem sydd gyda ni ym Mhrydain yw pa genedl? Pa Wladwriaeth? Tybiaf ei bod hi’n amhosib i wladwriaeth wasanaethu mwy nag un genedl. Felly lle bo’r wladwriaeth yn fforffedu ei chyfrifoldeb, yna mae hawl, onid dyletswydd, ar yr eglwys i’w gwrthwynebu’n agored trwy ddefnyddio dulliau di-drais os deuir at hynny. Fy marn glir i yw ein bod ni’n byw dan lywodraeth sy’n gwadu ei chyfrifoldeb i roi hawliau ac amodau teg i siaradwyr Cymraeg ac i’r genedl Gymreig. Y mae felly cymaint rôl ac erioed i’r eglwysi a’i harweinwyr siarad allan a gweithredu ar faterion o’r fath a hynny oherwydd cymhelliad ein ffydd yn Iesu.

Fe wêl y Cristion mae un o bennaf bwrpasau Duw wrth greu dyn oedd ei greu i fod yn greadur diwylliannol – roedd y bwriad hwn yn rhan canolog o gynllun Duw ar gyfer dyn o’r dechrau. Hyd yn oed wedi’r cwymp a dyfodiad pechod y mae bwriad gwreiddiol Duw ar gyfer dyn i barhau. Y mae’n gywir i nodi mewn byd sydd wedi ei wyrdroi gan bechod fod yn rhaid i ddyn bwyso ar gynllun adferol Duw drwy’r Arglwydd Iesu er mwyn dwyn holl fywyd dyn yn ôl i gytgord Ei fwriad gwreiddiol; ond mae bwriad gwreiddiol Duw i ddyn fod yn ffrwythlon ac i amlhau, i lenwi’r ddaear a’i darostyngi hi (Genesis 1:28) yn parhau. Fe adwaenir y gorchymyn hwn gan ddiwinyddion fel y “Gorchymyn Diwylliannol”, y gorchymyn hwnnw a roddodd Duw i Adda (Genesis 1:28 a 2:15), gorchymyn a gafodd ei ail-adrodd i Noa (Genesis 9:1-3 a 9:7) a’r gorchymyn sy’n dal i sefyll yn gwbl urddasol ochr yn ochr â’r Gorchymyn Cenhadol yn ôl fy nealltwriaeth i o rychwant yr efengyl. Yr egwyddor sylfaenol yw gorchymyn i Gristnogion ymhél â’r byd, y ddinas ddaearol hon ac mae hynny’n cynnwys holl fywyd diwylliannol dyn gan gynnwys gwleidyddiaeth. Mae’r eglwysi gwaetha’r modd wedi syrthio i’r fagl o anghofio perthnasedd eu ffydd wrth ymwneud a’r pethau yma a dyna sydd i esbonio pam fod y pynciau yma yn cael eu gweld fel rhai ‘seciwlar’ ar y gwaethaf a ‘chymdeithasol’ ar y gorau gan y rhelyw o eglwysi a Christnogion bellach – collwyd dimensiwn ysbrydol y dystiolaeth. A oes yna unrhyw bwnc neu faes sy’n wirioneddol ‘seciwlar’ i’r Cristion sy’n honni iddo gredu ym Mhenarglwyddiaeth Iesu dros holl fywyd a chymdeithas dyn?

Yr ydym yn rhy gyfarwydd gyda’r penodau trist hynny mewn hanes lle y lleihawyd yr eglwys a’i phlygu gan y wladwriaeth at ei dibenion a’i hamcanion hi ei hun. Unwaith y diffinnir y wladwriaeth fel cymdeithas sy’n cynnwys pob cymdeithas arall y mae’r drws yn agored led y pen i dotalitariaeth. Gwedir hawliau cymdeithasau eraill, sy’n cynnwys yr eglwys, i wrthsefyll y wladwriaeth mewn dim. Dyma lwyddodd y Natsïaid i’w wneud, lladdwyd yr argyhoeddiad fod i gymdeithasau eraill y genedl werth ynddynt eu hunain. Penllanw’r datblygiad hwn yn yr Almaen oedd ceisio gorfodi’r eglwysi hwythau i gydnabod tra-awdurdod y wladwriaeth.

Felly beth yw perthnasedd a her hyn oll i’r eglwysi yng Nghymru heddiw? Y mae’r Gymru bresennol yn dra gwahanol i’r Gymru yr oedd Michael D. Jones ac Emrys ap Iwan yn taranu ynddi. Y mae hi hyd yn oed dipyn gwahanol i’r Gymru yr oedd Gwynfor yn ymgyrchu ynddi. Bellach mae Cymru’n araf lusgo ei hun o gysgod Lloegr ac wedi ennill rhyw fesur o ddatganoli. Mae’r iaith Gymraeg, yn ystadegol o leiaf, wedi troi’r gornel ac ar dwf unwaith yn rhagor. Ac ers dwy flynedd bellach y mae Plaid Cymru, y blaid honno y dywedodd Lewis Valentine iddo deimlo ysbryd koinõnia ynddi, yn rhan o’r llywodraeth. Gwnaed arfer ymysg cenedlaetholwyr Cristnogol, a hynny’n ddigon anghyfrifol ar adegau, i dynnu cymariaethau rhwng hanes cenedl y Cymry a chenedl Israel yr Hen Destament. Ond efallai y cawn ddysgu gwers eto fyth o hanes y gaethglud. Rydym ni i gyd yn gyfarwydd â stori’r Llo Aur, diflasodd yr Israeliaid aros i Foses ddychwelyd gyda gair Duw iddynt ac yn eu rhwystredigaeth bodlonasant ar dduw arall oedd yn dduw ffug sef y Llo Aur. Tybed a oes yna berygl i Gymru, gyda chenedlaetholwyr mwyaf y degawdau diwethaf yn eu plith, fodloni ar fod yn bleidwyr y pitw Gynulliad, y Llo Aur hwnnw, yn hytrach nag aros am ryddid go-iawn?

Wrth fod y blaid honno y mae’r rhan fwyaf o genedlaetholwyr Cristnogol wedi teimlo’n gartrefol ynddi ers degawdau yn trawsnewid o fod yn blaid oedd ar yr ymylon i fod yn blaid lywodraethol maen bwysig i’r eglwysi beidio â bod mor naïf a chefnogi’r blaid honno doed a ddelo. Eisoes y mae bod mewn llywodraeth wedi effeithio llawer o bolisïau; dallwyd llawer o wleidyddion gan y ddadl economaidd wrth iddynt benderfynu cefnogi Ynni Niwclear er mwyn cadw pleidleisiau. Methwyd a gwneud mwy na ‘chydnabod gwrthwynebiad oddi fewn i’r blaid’ i’r Academi Filwrol enfawr arfaethedig yn St. Athan a methodd y glymblaid a throsglwyddo’r holl bwerau dros y Gymraeg o Lundain i Gaerdydd. Efallai mai plaid Valentine, J.E. Daniel a Dr. Tudur ydy hi ond gwae i ni adael i’n heglwysi gadw’n dawedog os bydd y llywodraeth, hyd yn oed â Phlaid Cymru’n rhan ohoni, yn dilyn trywydd sy’n wrthun i werthoedd Ei deyrnas.

Please follow and like us: