Pe na bai’r eglwys yn bodoli, a fyddem ni’n ei ddyfeisio? Mewn oes o ddiffyg ymddiriedaeth mewn sefydliadau, mae’r cwestiwn yn un teg. Mae’r eglwys wedi methu mewn sawl ffordd—rhaniadau, rhagrith, a chamddefnyddio grym. Yn 1 Corinthiaid 3 mae Paul yn rhoi portread amrwd o eglwys amherffaith Corinth, ac eto’n ei galw’n “faes”, “adeilad”, a hyd yn oed “teml Dduw”. Mae’r tensiwn yma’n arwain at y cwestiwn: sut gall eglwys mor amherffaith fod yn sanctaidd ac yn obaith i’r byd?
Eglwys Amherffaith: (adn. 1–4)
Mae Paul yn agor gyda geiriau plaen: mae’r Corinthiaid yn “fabis” ysbrydol, yn dal ar laeth yn hytrach na bwyd solet. Mae eu cenfigen a’u ffraeo yn dangos diffyg aeddfedrwydd. Ond nid yw hyn yn arwain Paul i’w gwrthod. Yn hytrach, mae’n eu gweld fel pobl ar daith—“works in progress”. Dyma natur yr eglwys ym mhob oes: nid showroom o berffeithrwydd, ond gweithdy lle mae Duw yn trwsio a siapio pobl. Er ei holl wendidau, mae’r eglwys yn parhau’n gymuned o ras, nid oherwydd ei bod wedi cyrraedd, ond oherwydd ei bod ar y ffordd.
Eglwys sy’n Colli Ffordd (adn. 5–9)
Un o broblemau eglwys Corinth oedd plaidgarwch: “Dw i’n dilyn Paul… Dw i’n dilyn Apolos.” Mae hyn yn adlewyrchu tuedd gyfarwydd heddiw i droi’r eglwys yn rhywbeth consumeristic—ein hoff arweinwyr, ein steil ni, be sy’n gweithio i ni. Mae Paul yn torri drwy hyn gan bwysleisio mai “gweision” yn unig yw arweinwyr. “Duw sy’n rhoi’r tyfiant.” Mae hyn yn her ac yn ryddhad: nid yw’r eglwys yn dibynnu ar bersonoliaethau dynol, ond ar allu Duw. Pan mae’r eglwys yn canolbwyntio ar bobl, mae’n colli ei ffordd; pan mae’n cadw llygaid ar Dduw, mae’n cael ei hadnewyddu.
Eglwys sy’n Sefyll (adn. 10–17)
Er gwaethaf popeth, mae’r eglwys yn sefyll a hynny oherwydd ei sylfaen: Iesu Grist. Dyma’r allwedd i’w pharhad dros y canrifoedd. Yn fwy na hynny, mae Paul yn datgan mai’r eglwys yw teml Dduw—nid adeilad, ond pobl lle mae’r Ysbryd yn preswylio. Mae hyn yn rhoi urddas a phwysigrwydd aruthrol i’r eglwys: er ei diffygion, mae’n sanctaidd oherwydd presenoldeb Duw ynddi.
Mae’r eglwys yn amherffaith, yn fregus, ac weithiau’n siomedig. Ond nid dyna’r gair olaf. Ei gobaith yw ei pherthynas â Duw: mae’n faes, adeilad, a theml Dduw. Nid ei chryfder ei hun sy’n ei chynnal, ond Crist fel ei sylfaen. Felly, yr alwad yw i ddal ati—i beidio rhoi’r gorau iddi, ond gweithio dros yr eglwys, gan ymddiried nad yw Crist ei hun wedi rhoi’r gorau iddi.
Cwestiynau trafod 3 Mai 2026 (1 Corinthiaid 3)
1. Yn adnodau 1–4, beth sy’n dangos bod y Corinthiaid yn anaeddfed—ac ydyn ni’n gweld hynny ynom ni ein hunain weithiau?
2. Yn adnodau 5–9, beth mae Paul yn ei ddweud amdanom ni, arweinwyr ac am rôl Duw yn nhŵf yr Eglwys?
3. Yn adnodau 16–17, beth mae’n ei olygu ein bod ni’n “deml Dduw” gyda’n gilydd? Sut mae hynny’n gwneud i chi deimlo?

