Roeddwn ni’n eithriadol o falch pan glywais i ddatganiadau Rowan Williams a John Sentamu heddiw ynglŷn a’r BNP. Roedd ymateb y BNP yn ddadlennol iawn ac mewn ffordd yn profi eu bod nhw yn ffasgwyr. I ddechrau mi ddywedodd y BNP ‘the bishops did not represent the views of the public.’ Wel, nid rôl arweinwyr Eglwys Crist yw ail-adrodd y farn gyhoeddus ond yn hytrach rôl arweinwyr Eglwys Crist yw dweud gair yng ngolau Cyfiawnder Crist. Ac ar wahanol adegau mewn hanes y mae cyhoeddi Cyfiawnder Crist wedi golygu mynd yn erbyn barn y wladwriaeth ac hefyd barn y cyhoedd yn gyffredinol.

Fe aeth y BNP ymlaen i ddweud: ‘we have a perfectly legitimate right to oppose multi-culturalism’. Y mae aml-ddiwyllianedd a chlytwaith y cenhedloedd a diwylliant yn rhan o drefn Duw i’r byd; felly pan fo pobl yn mynnu creu un hil y maent yn ail-adrodd pechod Babel. Lle’r oedd dyn yn adeiladu unffurfiaeth, mynnodd Duw greu amrywiaeth. Y maen wir fod yn rhaid i ddiwylliannau ymledol barchu a rhoi lle i’r diwylliannau brodorol oroesi a byw – ond a ydy’r diwylliant Seisnig mae’r BNP yn ei arddel wir mewn perygl? Nac ydy, ac felly nid gwarchod ydy amcan y BNP ond yn hytrach dwyfoli’r diwylliant Seisnig a dinistrio pob diwylliant arall.

Dietrich Bonhoeffer (1906-1945)

Dietrich Bonhoeffer (1906-1945)

Yn olaf, mewn ymateb i’r Archesgobion fe ddywedodd y BNP ‘the Church should stay out of politics’. Y mae yma atsain o Almaen y 1930au pan gadwodd llawer o arweinwyr yr Eglwysi Lutheraidd a Chatholig yn fud yn wyneb lledaeniad Natsïaeth yn y wlad. Yn wir, fe aeth rhannau helaeth o’r eglwys yn ddim byd mwy na gwas bach i’r drefn Natsiaidd. Ond trwy ras a sofraniaeth Duw fe safodd rhaid arweinwyr Eglwysig yn gadarn a gwrthwynebu’r drefn yn enw’r Eglwys Gyffesiadol, gwyr fel Karl Barth, Martin Niemöller ac yr enwocaf maen siŵr Dietrich Bonhoeffer. Ni ddylai’r eglwys fyth fod yn was i’r wladwriaeth ac ni ddylai’r arweinydd eglwysig fyth fod yn gi bach i’r gwleidydd. Y mae rôl gwahanol gan y ddau oes – ond y mae rôl, os nad dyletswydd, barhaus gan yr eglwysi i gynnig critique o’r wladwriaeth a’i gwleidyddion yng ngolau Gair Duw.

Y maen Rowan Williams a John Sentamu yn llygad eu lle ac yn gweithredu’n unol a gair Duw wrth gondemnio’r BNP oblegid y mae’r BNP a ffasgwyr ar hyd yr oesoedd wedi dyrchafu hil i’r orsedd sy’n eiddo i un person yn unig sef yr Arglwydd Iesu Grist.

Please follow and like us: