ara

Ym Mangor mae fy fflat i’n rhan o un o adeiladau’r Brifysgol ac felly dwi wedi dod i fwynhau gwasanaeth gwe gweddol gyflym dros y ddwy flynedd diwethaf. Heno yma dwi’n cael cyflymder o 6.06 Mbps i lawr ac 7.27 Mbps i fyny – braf iawn!

Ond dros y penwythnos roeddwn ni’n aros yn nhŷ fy rhieni sy’n byw dim ond dair milltir o ganol Aberystwyth ac a phecyn drytaf BT Broadband sy’n cynnig “up to 8Mb/s” a’r cyflymder go iawn oedd 0.68 Mbps i lawr ac 0.26 Mbps i fyny. Roeddwn ni draw mewn tŷ ffrind yn Llanrug ger Caernarfon yn ddiweddar ac roedd ganddo fe eto becyn gorau BT Broadband sy’n hysbysebu “up to 8Mb/s” a’r unig beth roeddwn ni’n cael fan yna oedd 0.31 Mbps i lawr ac 0.29 Mbps i fyny.

llawI fi sydd wedi dod i arfer gyda chyflymder o tua 4 Mbps roeddwn ni’n syml yn methu a bod mor gynhyrchiol wrth fy ngwaith pan oeddwn i adref gyda fy rheini a draw yn nhŷ fy nghyfaill. Nid mater o fethu gwylio Eastenders ar iPlayer neu fethu a chwarae Warcraft mo hyn, maen effeithio gwaith dydd i ddydd pobl. Tra yn nhŷ fy ffrind ac hefyd adref gyda fy rhieni roeddwn ni’n gweithio ar brosiectau oedd yn defnyddio llawer o graffeg a fideos – roedd gweithio ar hyn gyda’r fath arafwch yn rhwystredig tu hwnt. Roedd y broses o uwchlwytho’r deunydd i’r FTP yn llafurus ac ar ôl i’r cyfan fynd i fyny roedd hi’n anodd chwarae’r fideo yn ôl i wyro fod y render a’r cywasgiad wedi gweithio’n iawn. Ond nid dim ond pethau trwm oedd yn arafu, roedd pethau bach megis edrych pethau fyny ar y we, estyn pethau o webmail ayyb.. yn peidio a bod mor snappy. Daeth fy nghynhyrchaeth bron i stop.

Pan gyhoeddwyd adroddiad fis Ebrill yn dweud y bydd gan bob tŷ ym Mhrydain gysylltiad 2 Mbps erbyn 2012 roedd y cyfryngau yn Llundain ac yng Nghaerdydd yn feirniadol gan nodi nad oedd hyn yn ddigon uchelgeisiol. Yn sicr, nid yw 2 Mbps i bawb erbyn 2012 yn ddigon uchelgeisiol; wedi dweud hynny i ni Gymry yn y Fro Gymraeg sy’n straffaglu ar 0.30 Mbps ar hyn o bryd mi fydd codi i 2 Mbps yn chwyldroadol.

Please follow and like us: